Bydd cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o La traviata gan Verdi yn dychwelyd i’r llwyfan cyn bo hir, ond a wyddech chi fod ei berfformiad cyntaf erioed yn 1853 wedi’i ystyried yn drychineb? Gadewch i ni edrych yn fanylach ar pam oedd ei noson agoriadol yn fethiant a nosweithiau agor aflwyddiannus eraill.
Mae La traviata gan Verdi yn ffefryn erioed ac mae’n ymwneud â meistres llys ifanc, Violetta, sy’n cwympo mewn cariad ag Alfredo ac yn cefnu ar ei bywyd hudolus ym Mharis i fyw gydag ef. Digwyddodd ei pherfformiad cyntaf ar 6 Mawrth 1853 yn nhŷ opera enwog La Fenice yn Fenis, lle’r oedd aelodau’r gynulleidfa’n gwawdio Fanny Salivini-Donatelli, gan ei hystyried yn rhy hen i chwarae meistres ifanc yn marw o ddarfodedigaeth. Bu’r ddau oedd yn canu rhannau tad a mab Germont, Felice Varesi a Lodovico Graziani, hefyd yn destun dirmyg y gynulleidfa a throdd y noson agoriadol yn fethiant anfesurol.
The Bartered Bride
Perfformiwyd opera Tsiec Smetana The Bartered Bride am y tro cyntaf yn y Theatr Dros Dro ym Mhrag ar 30 Mai 1866. Smetana ei hun arweiniodd y perfformiad cyntaf gyda chynulleidfa fechan; yn bennaf oherwydd rhesymau yn cynnwys ei fod yn ddiwrnod poeth iawn ac yn wyliau cyhoeddus, a'r bygythiad o ryfel rhwng Prwsia ac Awstria a oedd yn achosi llawer o bryder ym Mhrag. Roedd yr ymateb i’r opera yn ddifater ac ni lwyddodd gwerthiant tocynnau i dalu costau’r perfformiad, gan orfodi’r cyfarwyddwr i dalu ffi Smetana gyda’i arian ei hun.
Antony and Cleopatra
I ddathlu agoriad y Tŷ Opera Metropolitan newydd yn Efrog Newydd, comisiynwyd Samuel Barber, un o gyfansoddwyr enwocaf America, i ysgrifennu opera newydd, Antony and Cleopatra. Yn seiliedig ar drasiedi Shakespeare, roedd y cynhyrchiad yn fawreddog ac yn gywrain, yn cynnwys 22 o brif gantorion a chwmni o 400 o berfformwyr ar y llwyfan. Ni chafodd y perfformiad agoriadol ar 16 Medi 1966 groeso mawr gan y wasg ac roedd diffyg brwdfrydedd yn ymateb y gynulleidfa i ormodaeth y perfformiad. Ni pherfformiwyd yr opera byth eto gan y Met, er i Barber ddweud yn ddiweddarach fod y gerddoriaeth ymhlith y gorau y mae wedi’i chyfansoddi erioed.
Roedd disgwyliadau uchel ar gyfer opera newydd Puccini Madam Butterfly ar ôl llwyddiannau gwych ei operâu blaenorol La bohème a Tosca. Roedd perfformiad cyntaf yr opera yn nhŷ opera La Scala ym Milan ar 17 Chwefror 1904 yn drychineb llwyr. Methodd y gerddoriaeth i hudo emosiynau’r gynulleidfa, gyda rhai o’r arias mwyaf torcalonnus fel Un bel di Butterfly yn gorffen nid mewn cymeradwyaeth, ond mewn distawrwydd llwyr. Amharwyd ar luniad yr olygfa olaf o’r wawr gan synau buarth y gynulleidfa, a chafwyd bwio, gweiddi a chwibanu yn ystod llawer o adegau eraill yn yr opera.
Rydym yn hyderus na fydd cynhyrchiad arobryn David McVicar o La traviata yn dioddef yr un ffawd â’r trychinebau perfformiad cyntaf enwog hyn(!), ar ôl derbyn adolygiadau gwych pan y’i llwyfanwyd ddiwethaf yn ystod ein Tymor yr Hydref 2018. Peidiwch â cholli ei dychweliad yr Hydref hwn, gan agor yng Nghaerdydd ar 21 Medi, ac yn mynd ar daith yn ddiweddarach i Landudno, Bryste, Plymouth, Birmingham, Milton Keynes a Southampton tan 25 Tachwedd.