Newyddion

Fleur Snow: O Sioe Gerdd Wythnos y Glas i opera raddfa fawr

30 Mehefin 2022

Y Tymor hwn fe wnaethom groesawu Fleur Snow, Cymrawd Cyfarwyddo Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd i dîm creadigol Migrations. Cawsom sgwrs gyda hi i gael gwybod rhagor am ei datblygiad creadigol.

'Dechreuais ganu'r piano yn 4 oed, a'r darnau cyntaf y chwaraeais oedd trefniannau o ariâu ac agorawdau enwog. Yr opera gyntaf yr wyf yn cofio ei gweld oedd HMS Pinafore gan Opera Della Luna a deithiodd i Aberteifi ar ddechrau'r 2000au. Prynodd fy rhieni y DVD i mi ar y ffordd adref, ac rwy'n credu bod y disg wedi gwisgo gan i mi ei chwarae gymaint o weithiau!

Pan oeddwn yn ysgolor organ yn Rhydychen, gofynnwyd i mi gymryd yr awenau ar gyfer Sioe Gerdd Wythnos y Glas sy'n enwog am ei doniolwch. Wedi i mi gynhyrchu, cyd-ysgrifennu, dylunio a chyfarwyddo addasiad set o Lord of the Rings i ABBA Gold, yna Les Milibandles flwyddyn yn ddiweddarach ac yn olaf The Sound of Brexit, cefais fy meddiannu gan y weithred o gyfuno cerddoriaeth, geiriau a gweithredoedd.

Penderfynais barhau â'm hastudiaethau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ac fel rhan o'r cwrs, cawsom gyfle i weithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Gwahoddwyd ni i arsylwi ymarferion, mynychu ymarferion gwisgoedd, ac yna cefais fy nhynnu i mewn i'r cyfan drwy'r Profiad Gwaith Cyfarwyddwr. A minnau heb unrhyw gefndir na thamaid o hyfforddiant proffesiynol yn y byd theatr, mae'r wybodaeth a'r hyder a gefais drwy'r addysg yn y coleg yn gyntaf ac yna yn ymarferol yn WNO wedi bod yn allweddol i mi o ran dilyn fy mreuddwyd. Agwedd bwysig arall fel rhan o fy amser yn WNO oedd y cyfle i gwrdd â mwy o bobl greadigol Cymraeg eu hiaith y byd opera, boed yn gantorion neu'n ddramodwyr neu'n rheolwyr llwyfan a marchnatwyr.

Teimlaf yn ffodus tu hwnt o fod wedi cael gweithio ar Migrations. Oherwydd natur y sioe, yn aml roeddem yn gweithio mewn sawl ystafell ymarfer ar yr un pryd, a byddai arddull gyfarwyddo wahanol ym mhob ystafell. O fwrlwm gweledigaeth hynod graff Syr David Pountney i'r sgyrsiau dwfn gyda Madeleine Kludje, archwilio gydag Abdul Shayek a'r manylder yng ngwaith Melody Squire, pleser oedd cael bod yn bresennol yno ac yn rhan o gymaint o sgyrsiau amrywiol.

Fy mhrif fentor gydol y broses oedd Sarah Crisp, a oedd yn gwneud gwaith gwych yn sicrhau bod y sefydliad yn parhau. Nid yw swydd cyfarwyddwr staff yn rhwydd bob amser, yn enwedig mewn cynhyrchiad sydd â chymaint o rannau iddo. Mae sgiliau Sarah i gyflawni ei gwaith, sef amserlennu, yn ogystal â threfnu a meddwl blaengar, wedi dysgu cymaint i mi. Heb amheuaeth, byddaf yn defnyddio ei thechnegau pan fyddaf yn dychwelyd yn gymhorthydd iddi ar gyfer Migrations yn Nhymor yr Hydref.

Mae Migrations yn sioe epig, yn cynnig chwerthin, harddwch a gwefrau, ond mae hefyd yn ystyried yn galed y storiau nad ydynt i'w gweld ar y llwyfan operatig yn aml, ac sy'n aruthrol o drist o ran eu natur a'u goblygiadau. Hyd yn oed ar ôl chwe wythnos o weithio ar yr opera bob dydd, rwy'n dal i wynebu cwestiynau newydd. Credaf fod hwn yn ddarn a fydd yn fy aflonyddu wrth i mi ymgymryd â phrosiectau newydd.

Pe na fyddwn yn dilyn gyrfa yn y byd cerddorol, credaf mai ditectif fyddwn i mewn bywyd arall, cyfrinachol. Yn rhyfeddol iawn, mae'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer hynny yn debyg i gyfarwyddo – arwain eich tîm, dilyn y cliwiau sydd wedi'u gadael gan droseddwyr neu gan y cyfansoddwr/telynegwr, cynnal proses gadarn lle nad oes yr un manylyn yn cael ei adael ar ôl a'r gallu i weithio oriau hir iawn!