Mae Martin Constantine yn gyfarwyddwr theatr ac opera clodwiw. Mae wedi gweithio gyda chwmnïau megis y Royal Opera House, Royal Shakespeare Company, English National Opera a Grange Park Opera, mae'n dychwelyd i Opera Cenedlaethol Cymru'r Tymor hwn i gyfarwyddo Dead Man Walking gan Jake Heggie sy'n rhan o'n Tymor RHYDDID yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Cawsom sgwrs â Martin i ddysgu mwy am ei swydd fel cyfarwyddwr a'i broses unigryw i gael opera o'r sgôr i'r llwyfan.
'Mae Dead Man Walking yn stori ingol am achubiaeth, yn seiliedig ar stori bywyd go iawn Joseph de Rocher, dyn sy’n digwyl y gosb eithaf yn Louisiana, a'i berthynas â'r Chwaer Helen Prejean, eiriolwr blaenllaw dros ddiddymu'r gosb eithaf o America.
Mae cymeriadaeth yn bwysig mewn unrhyw opera ac mae yna fwy nag un ffordd o fynd ati. Rwyf bob amser yn dechrau drwy archwilio'r wybodaeth a'r ffeithiau a roddir i ni gan y cyfansoddwr a'r libretydd, y manylion yn y sgôr sy'n ddiamheuol. Ble'r ydym ni; pryd; beth ydym ni. Yn yr opera hon, mae'r Chwaer Helen yn gweithio yn Hope House ac mae Hope House yn New Orleans, ni allwn ddadlau gyda hyn, fodd bynnag, nid yw'r sgôr wedi'i chwblhau. I mi, mae sgôr yn wahoddiad i ni gwrdd â'r cyfansoddwr a'r libretydd - yn yr achos hwn Jake Heggie a Terrence McNally - a chydweithio â nhw i gael yr holl fanylion nad ydynt wedi eu rhoi i ni.
Mae'r Chwaer Helen yn mynd ar daith o New Orleans i'r Carchar ac felly byddai'n ddefnyddiol i Lucia, sy'n chwarae'r rôl i gael gwybod sut siwrnai oedd siwrnai'r Chwaer Helen - sut yn union y mae'n mynd teithio o A i B. Gallwn ymchwilio i hyn ar fap. Rydym nawr yn gwybod y math o dir a'r pethau y gallai'r Chwaer Helen eu gweld ar hyd y ffordd, sy'n gwneud ein cymeriadaeth yn fwy manwl gywir. Mae'n bwysig ein bod yn edrych ar fanylion fel hyn er mwyn deall yn llawn beth sy'n gyrru'r eiliadau rydym yn eu creu.
Wrth gwrs, mae yna rai cwestiynau na allwn eu hymchwilio, ac felly mae angen gwneud penderfyniad ar y cyd gyda'ch tîm creadigol - y Cyfarwyddwr Cyswllt Tom Roden a'r Dylunydd Misty Buckley. Bydd sut yr ydym yn ateb y cwestiynau hyn yn diffinio'r cynhyrchiad ac yn gwneud ein stori yn unigryw. Rydym wedi cadw at leoliad gwreiddiol America yn yr 1980au ond rydym wedi symleiddio'r cynhyrchiad, gan arddangos y gerddorfa 40+ darn ar y llwyfan.
Ar ddiwrnod cyntaf yr ymarfer, mae'r cantorion yn amsugno gwybodaeth gan y libretydd, y cyfansoddwr, y cyfarwyddwr a'r dylunydd. Fodd bynnag, mae sut mae'r cantorion yn ymateb i'r elfennau hynny a roddir iddynt yn rhan hanfodol o gymeriadaeth, ac mae hynny yn ei dro yn llywio amcanion ymddygiad a chymeriad.
Mae pob ymarfer yn edrych yn ddyfnach o dan groen y cymeriad, gan dorri'r sgôr i fyny i drobwyntiau, eiliadau, digwyddiadau. Mae'r eiliadau hyn o newid yn bwysig iawn i'w hadnabod, ac mae yna ddigon ohonynt yn Dead Man Walking. O bryd i'w gilydd, fel cyfarwyddwr, mae'n rhaid i chi ysgrifennu newidiadau i mewn, boed hynny gyda'r cast neu'r dramaturg.
Yr hyn sy'n gyffrous am y cynhyrchiad hwn yw fy mod wedi bod yn gweithio gyda chantorion ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd. Mae gennym Opera Ieuenctid WNO sy'n dal i hyfforddi; Cyn-aelodau Opera Ieuenctid WNO sydd ar ddechrau eu gyrfa a'r rhai sydd wedi bod yn gweithio yn y proffesiwn ers nifer o flynyddoedd. Morgan Smith sy'n chwarae rhan Joseph de Rocher ac mae Lucia Cervoni yn gwneud ei ymddangos cyntaf fel y Chwaer Helen Prejean.'
I ddysgu mwy am Dead Man Walking, bydd y cyfansoddwr Jake Heggie (drwy gyswllt fideo) a'r Cyfarwyddwr Martin Constantine yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb cyn y perfformiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 7 Mehefin. Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim gyda thocyn ar gyfer y perfformiad, ond mae angen tocyn o ganlyniad i argaeledd cyfyngedig.