Defnyddir dyfais blot yn aml mewn ffilmiau Hollywood i ddatguddio'r gwirionedd, ac mae hefyd yn wir am operâu. Er i'r 'datguddiad' ei hun amrywio, mae'r syniad craidd yr un peth - dal y gynulleidfa gyda thro annisgwyl [*sbwyliwr!*]. Meddyliwch am The Sixth Sense (1999) – un o'r datguddiadau gorau yn hanes sinema yn sicr? Pwy, allan o'r gynulleidfa wreiddiol (gan fod y 'datguddiad' wedi ei ddatguddio i bawb ers cryn amser bellach) fyddai wedi gallu rhagweld y tro syfrdanol ar y diwedd? ...Ac mae'n anodd meddwl am opera arall sydd wedi defnyddio tro plot cyffelyb!
Fodd bynnag, mae un o ffilmiau mwyaf llwyddiannus eleni, Parasite, sydd wedi ennill Oscar, yn plethu gyda'r ddyfais o guddwisg a ddefnyddir mewn opera (er iddo fod ar lefel arall), o Così fan tutte i Fidelio (Act IIy bu i ni ei berfformio yn ystod Tymor RHYDDID haf diwethaf). Er mwyn cynyddu'r elfen o adloniant, neu i alluogi'r plot weithio, mae'n rhaid cuddio'r gwirionedd ar gyfnodau gwahanol drwy gydol y stori.
Yn dilyn llinell gyffelyb i gymeriadau Parasite, mae Fidelio gan Beethoven, yn adrodd hanes Leonora, sydd wedi cuddwisgo fel dyn ac wedi ymgymryd â swydd yn y carchar er mwyn rhyddhau ei gŵr, Florestan, sydd yn garcharor yno. I'r gwrthwyneb, gweler bod Così fan tutte (a Figaro yn ogystal) yn defnyddio elfennau o guddwisgo fel modd o dwyllo'r cymeriadau eraill i ddatguddio eu gwir ymddygiad - i gael y gorau ar y cymeriadau eraill. Caiff y ddau gwpl yn Così eu profi wrth i'r merched fethu ag adnabod eu dyweddi gan fod y dynion mewn cuddwisg, gan dwyllo partner y naill a'r llall i fod yn anffyddlon.
La Cenerentola - Ceir mwy nag un 'datguddiad mawr' yn y fersiwn yma o stori Sinderela, gyda'r opera gyfan wedi'i britho gyda chymeriadau mewn cuddwisg: Angelina (Sinderela) yn y ddawns; a gweler bod y Tywysog a'i was yn treulio amser wedi cuddwisgo fel y naill a'r llall; ac mae Alidoro (athronydd a thiwtor, sef rôl y 'Ddewines Dda') yn cuddwisgo fel cardotyn er mwyn cwrdd ag Angelina a mesur a oedd hi'n deilwng. Wedi datguddio'r holl droeon, ceir diweddglo hapus i'r stori.
Un 'datguddiad' sinematig mwyaf nodedig o fewn cenhedlaeth sy'n cael ei ddyfynnu'n aml yw: ‘I am your father’, sef Darth Vader yn siarad â Luke Skywalker yn Star Wars: Episode V – The Empire Strikes Back, ac mae'r datguddiad hwn yn ymddangos yn aml mewn operâu. Mae cyfrinachedd ynghylch tras cymeriadau yn ymddangos mewn tair o'r operâu yn ein rhaglen bresennol: The Marriage of Figaro (eto!), Les vêpres siciliennes a Il trovatore, sy'n ffurfio rhan o'n Tymor y Gwanwyn 2021.
Yn Figaro, datguddir bod Figaro yn fab i Marcellina. Yn ogystal, dywedir ei fod yn blentyn siawns i Marcellina a Dr Bartolo (am syniad!). Yn Les vêpres siciliennes rydyn ni, a nhw, yn dysgu bod Montfort yn dad i Henri - a datguddir hyn mewn llythyr i Montfort ar farwolaeth mam Henri.
Fodd bynnag, yn ein cynhyrchiad o Jenůfa yn ein Tymor yr Hydref, caiff y gyfrinach am 'y babi' ei datguddio mewn modd tywyll: Mae Jenůfa yn feichiog â phlentyn Steva, y tu allan i briodas (i ddefnyddio ymadrodd hen ffasiwn); wedi ei eni, mae Kostelnička (ei llys fam) yn boddi'r babi yn gyfrinachol mewn ymdrech i arbed ei anrhydedd. Caiff y cyfan ei ddatgelu ar ddiwrnod priodas Jenůfa a Laca, sy'n aros yn ffyddlon iddi er gwaethaf y cywilydd.
Yn olaf, yn Il trovatore gwelir bod cariad Leonora, Manrico, yn frawd i Count di Luna. Mae'r Count wedi lladd Manrico, heb wybod eu bod nhw'n frodyr, ac mae eisiau priodi Leonora. Mae'r cyfan yn digwydd am fod Azucena wedi lladd ei mab flynyddoedd yn ôl, ac wedi magu Manrico fel ei phlentyn ei hun, y cyfan i ddial ar dad di Luna (tywyll tu hwnt).
Dim ond mewn opera...(neu ffilmiau!)