Newyddion

Gwybodaeth o lygad y ffynnon

31 Awst 2018

Bob tymor mae WNO yn cyflwyno sesiynau Mewnwelediad Opera, sy’n rhoi cyfle i chi glywed gan y cast ac aelodau’r tîm creadigol. Mae cyfle hefyd i weld y broses y tu ôl i’n prif gynyrchiadau – yr ysbrydoliaeth y tu ôl iddynt a sut rydym yn penderfynu pa operâu i’w cynnal. Dyma sgwrs y gallwch gymryd rhan ynddi. Cewch glywed y trafodaethau manwl rhwng y tîm cynhyrchu a’r artistiaid i gael dealltwriaeth o’r ddynameg, ac yna gofyn eich cwestiynau eich hun, gan fod sesiwn holi ac ateb hefyd yn gynwysedig.

Y tymor hwn rydym yn edrych ar ein cynhyrchiad newydd, War and Peace, Prokofiev, gyda’n Cyfarwyddwr Artistig David Pountney a’n Cyfarwyddwr Cerdd, Tomáš Hanus. Tomáš sy’n arwain y darn drwy gydol y daith, fersiwn o olygiad beirniadol Rita McAllister, sy’n efelychu amcanion gwreiddiol Prokofiev. Mae David yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad ar set a ddyluniwyd gan Robert Innes Hopkins (a ddyluniodd ein set In Parenthesis hefyd), gyda gwisgoedd gan Marie-Jeanne Lecca, sy’n cydweithio’n rheolaidd â David Pountney. Cydweithiodd y ddau ar La forza del destino y tymor diwethaf. Crëir y tafluniadau fideo gan David Haneke, sydd wedi cydweithio â ni yn y gorffennol ar The Fall of the House of Usher. Dewch i glywed sut y sylweddolodd David Pountney wrth ddychmygu edrychiad War and Peace, sef tŷ pren fel un Tolstoy ym Moscow, y byddai set In Parenthesis yn gweithio’n dda fel man cychwyn. Dyna pam mae'r set yn cael bywyd newydd yn y cynhyrchiad hwn.

Hyd yn hyn, mae’r artistiaid Jonathan McGovern (Andrei), Lauren Michelle (Natasha), Simon Bailey (Balaga, a rhannau eraill) ac Adrian Dwyer (Anatole a rhannau eraill) wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan ar ddydd Sul 2 Medi; gyda’r posibilrwydd o rai enwau eraill yn cael eu hychwanegu yn nes at yr amser.

Dylai’r sesiwn bara oddeutu 75 munud ac mae’n sicr o roi persbectifau’r rhai hynny sydd ynghlwm â War and Peace i chi cyn i’r Tymor ddechrau ar ddydd Sadwrn 15 Medi. Mae’r sgyrsiau yn rhad ac am ddim, ond rhaid i chi archebu tocyn ymlaen llaw. Mae’r tymor hwn bellach wedi gwerthu allan (gwiriwch gyda swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru rhag ofn bod tocynnau wedi cael eu dychwelyd), ond mae tocynnau ar gael nawr ar gyfer Mewnwelediad Opera Tymor y Gwanwyn ar ddydd Sul 27 Ionawr . Bydd y sesiwn hon yn edrych ar ail ran Trioleg Verdi, Un ballo in maschera.