Newyddion

Yn nhymor yr Hydref mae 12 o ganwyr yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf ag WNO.

8 Awst 2018

Mae tair opera’r Hydref yn cynnwys ymddangosiadau cyntaf â’r cwmni, gyda La Cenerentola yn cynnwys chwech o ganwyr sy’n newydd i WNO, ond nid ydynt o reidrwydd yn newydd i’r cynhyrchiad hwn. Fel cydweithrediad gyda Houston Grand Opera, Gran Teatre del Liceu a Grand Théâtre de Genève, a gynhyrchwyd gyntaf yn 2007, mae dau o’n canwyr newydd wedi canu eu rolau, yn y cynhyrchiad hwn, mewn man arall yn y byd:

Gwnaeth ein Angelina, sef Sinderela, ei hymddangosiad Americanaidd cyntaf yn y rôl yn Washington National Opera yn 2015, gan dderbyn adolygiadau da, gan gynnwys yr adolygiad hwn gan Bachtrack:

Gwnaeth ein Angelina, sef Sinderela, ei hymddangosiad Americanaidd cyntaf yn y rôl yn Washington National Opera yn 2015, gan dderbyn adolygiadau da, gan gynnwys yr adolygiad hwn gan Bachtrack:

Irish mezzo-soprano Tara Erraught was making her American debut in the title role, her voice well-moulded to its coloratura demands, especially in the infamous last aria where she needs to cover a greater-than-two-octave range

Bachtrack

Y canwr arall sy’n gwneud ei ymddangosiad cyntaf ag WNO, ond sydd wedi ymddangos yn Gran Teatre del Liceu yn Barcelona a Grand Théâtre de Genève, mewn perfformiadau o’r cynhyrchiad hwn, yw Fabio Capitanucci. Dwywaith y canodd rôl Dandini – rôl a berfformiodd yn San Fransisco Opera ac yn Dresden hefyd. Gyda ni mae’n ymgymryd â rôl y llystad balch, Don Magnifico.

Mae’r ymddangosiadau cyntaf gyda WNO yn La Cenerentola gan Eidalwyr eraill, Matteo Macchioni fel ein Tywysog Swynol, Don Ramiro, a Giorgio Caoduro fel Dandini; ochr yn ochr â’r ddwy chwaer ‘hyll’, Tisbe, a genir gan Heather Lowe a Clorinda gan Aoife Miskelly. Mae Heather wedi canu’r rôl eisoes, i Opera Holland Park ac fe ganmolwyd ei pherfformiad gan bob adolygiad. Mae Matteo a Giorgio wedi canu eu rolau eisoes hefyd, gyda Matteo yn ymddangos fel Don Ramiro ddwywaith yn Oper Leipzig yn yr Almaen, yn ogystal ag yn Florence; tra bod Giorgio wedi canu Dandini yn Opéra National de Paris, yn Bologna, Frankfurt, Glyndebourne, Trieste, Genoa a Nice.  

Mae gan War and Peace, yr opera gyda’r mwyaf o rolau o lawer, dri o ganwyr yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf â’r cwmni: Jonathan McGovern fel Andrei; Samantha Price, sydd wedi canu gyda’n Cerddorfa eisoes fel Artist Ifanc y National Opera Studio yn 2014, yn canu rolau Sonya/Peronskaya/Kondratyevna; a Donald Thompson yn canu Jaquot/General Belliard/Yermolov (a rolau eraill). Donald yw’r unig un o’r tri sydd wedi perfformio yn War and Peace o’r blaen, mewn cynhyrchiad gan Royal Scottish Academy of Music & Drama, cynhyrchiad ar y cyd rhwng Scottish Opera a Rostov State Rachmaninov Conservatoire yn Rwsia. 

Yn olaf, La traviata, ble cenir ein tair prif rôl gan ganwyr yn perfformio gyda WNO am y tro cyntaf. Cenir ein Germont hŷn gan Roland Wood, sydd wedi perfformio’r rôl yn rhyngwladol, yn yr Iseldiroedd, yn Sante Fe Opera gyda’i ymddangosiad cyntaf yn y UD, ac yn Opera North ble dderbyniodd adolygiadau rhyfeddol megis yr adolygiad hwn gan What’s on Stage:

Roland Wood's impeccably sung Giorgio Germont combines power with an aristocratic suavity – and he is not afraid to suggest that Germont père is not the nicest guy around

What’s on Stage

Gwela Alfredo, sef Germont iau, Kang Wang yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y rôl a gyda WNO. Roedd Kang yn gystadleuydd terfynol yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2017, pan oedd un o’n dwy Violetta y tymor hwn yn enillydd: Anush Hovhannisyan, sy’n gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y rôl y rhanna gyda Linda Richardson. Mae Anush newydd ganu Violetta yn y cynhyrchiad hwn gyda’n cyd-gynhyrchwyr, Scottish Opera, yn nhymor yr hydref 2017.

It is not every day – nor every month, not even every year – that you can say "a new Violetta is born."... On the evidence of her first performance in Glasgow it can unquestionably be said of Anush Hovhannisyan

Opera magazine

Mae’r holl gantorion rhyngwladol hyn, sy’n gwneud eu hymddangosiadau cyntaf gydag WNO, wedi perfformio ledled y byd yn eu gyrfaoedd hyd yn hyn. Mae Opera, oherwydd ei natur, a’r sawl iaith y defnyddir i’w hysgrifennu a’i chanu yn yr un modd, yn galluogi cwmni i gwmpasu cast amlwladol ac ni allwn ddisgwyl i groesawu’r artistiaid newydd hyn i deulu’r WNO.