Os ydych yn chwilio am antur addas i’r teulu, yn llawn cerddoriaeth, dychymyg ac ychydig o hud y theatr, mae Chware Opera YN FYW! eleni yn addo darparu hyn a llawer mwy. Buom yn sgwrsio â’r Cyfarwyddwr Caroline Clegg i roi cipolwg i ni ar yr antur fôr leidr hynod hon.

Dywedwch wrthym am Chwarae Opera YN FYW Llongddrylliad!!
Mae Chwarae Opera YN FYW Llongddrylliad! yn stori anturus wedi’i harwain gan gapten môr dewr a’i gydymaith ffyddlon, Rhydian. Gyda’u criw, a chath y llong hyd yn oed, buont yn hwylio i chwilio am ynys chwedlonol, ddirgel. Yn ôl pob sôn, mae’r lleoliad cudd hwn yn cynnal y Gystadleuaeth Ddawns Strictly Shanty yn flynyddol.
I gyrraedd yno, mae’n rhaid iddynt herio storm ac ymddiried yn y gwynt. Maent hefyd yn mynd i berygl wrth ddod wyneb yn wyneb â Brenhines y Môr Ladron, sy’n bwerus ac wedi rheoli’r gystadleuaeth ers blynyddoedd gan ddefnyddio Seren, seiren hudolus y mae ei llais yn rheoli’r môr.

Beth sy’n gwneud y sioe hon yn arbennig?
Er bod y stori ei hun yn ddifyr, mae elfennau cerddorol a gweledol y sioe’r un mor hudolus. O greu’r llong yn ddychmygol i’r golygfeydd tanddŵr trochol, mae’r cynhyrchiad wedi’i lunio i danio syndod.
Mae’r gerddoriaeth yn sefyll allan, gyda pherfformiadau pwerus gan yr unawdwyr a Chorws WNO. Un uchafbwynt gwefreiddiol yw’r Emyn Pasg o Cavalleria rusticana, yr opera gyntaf a berfformiodd WNO erioed yn arddangos dyfnder emosiynol a harddwch canu operatig.
Sut beth yw cyfarwyddo Chwarae Opera YN FYW! o’i gymharu â chyfarwyddo opera draddodiadol?
Mae cyfarwyddo cynhyrchiad Chwarae Opera YN FYW! ychydig yn wahanol i gyfarwyddo opera draddodiadol, yn bennaf oherwydd ei fformat byrrach, ond mae’r uchelgais a’r ansawdd yn aros yr un mor uchel. Mae pob manylyn wedi’i grefftio’n ofalus, o’r set a’r gwisgoedd i’r goleuo a’r sain, oll yn gweithio’n ddidrafferth gyda’i gilydd.
Yr hyn sy’n gwneud Chwarae Opera YN FYW! yn hynod unigryw yw ei ysbryd cydweithredol. Mae’r broses greadigol yn cynnwys nid yn unig y cyfarwyddwr, ond hefyd ddylunwyr, perfformwyr, cerddorion a thimau technegol. Mae hyd yn oed y propiau cyfredol a’r gwisgoedd yn cael eu hail ddychmygu a’u trawsffurfio i rywbeth cwbl newydd, gan brofi bod creadigrwydd yn ffynnu o fewn cydweithrediad.
Mae ymarferion yn ddeinamig a chwareus, gyda pherfformwyr yn cyfrannu eu syniadau eu hunain, yn helpu i lywio sioe sy’n teimlo’n ffres, difyr a llawn bywyd.

A sut fyddwch chi’n ymgysylltu â chynulleidfa ieuengach?
Y tu hwnt i’r arddangosfa, mae pwrpas ehangach i Chwarae Opera YN FYW!: cyflwyno plant a theuluoedd i lawenydd opera.
Mae opera yn cyfuno cerddoriaeth, drama, dawns a chelfyddyd weledol mewn un profiad pwerus. Mae’n drochol, emosiynol ac, ar gyfer plant, mae’n cynnig cyfle i archwilio adrodd straeon mewn modd difyr a bywiog, heb rwystrau na syniadau rhagdybiedig.
Camsyniad cyffredin yw bod opera yn elitaidd, ond mae cynyrchiadau fel hyn yn herio’r syniad hwnnw. Wrth ei phrofi mewn amgylchedd rhyngweithiol, ymlaciol, daw opera yn hygyrch, cyffrous a hynod bleserus.
Ac mae’r effaith yn un real: bydd plant yn gadael yn mwmian melodïau, wedi’u hysbrydoli gan yr hyn a welsant ac a glywsant. Gall y profiadau cynnar hyn lywio perthnasoedd parhaus gyda’r celfyddydau neu, o leiaf, greu atgofion gwerthfawr.

Pam eich bod yn meddwl ei bod yn bwysig i deuluoedd gyflwyno plant i’r theatr?
Mewn byd sy’n cael ei ddominyddu’n gynyddol gan sgriniau, mae theatr fyw yn cynnig rhywbeth unigryw: profiad dynol gweledol a rennir. Mae’n tanio dychymyg, meithrin cysylltiadau emosiynol a’n cysylltu â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.
Nid yw cyflwyno cynulleidfaoedd ifanc i opera yn ymwneud ag adloniant yn unig - mae’n ymwneud â meithrin creadigrwydd, chwilfrydedd a chariad at adrodd straeon.
Wrth i Chwarae Opera YN FYW! gychwyn ar daith eleni, mae’n gwahodd cynulleidfaoedd o bob oedran i gamu ar ei bwrdd, ymuno â’r antur, a darganfod hud perfformiad byw.