Newyddion

Cyflwyno ein Tymor 2022/2023

8 Chwefror 2022

Wrth i ni gyflwyno operâu ein Tymor 2022-23, dyma Gyfarwyddwr Cyffredinol WNO, Aidan Lang, yn oedi ac yn myfyrio ar ein sefyllfa nawr fel Cwmni, ac i le'r ydym yn gweld ein hunain yn mynd dros y blynyddoedd nesaf.

'Mae ein rhaglen gyffredinol yn adlewyrchu ein nod fel Cwmni i ddod o hyd i gysylltiadau rhwng ein gwaith a'r bywydau yr ydym ni i gyd yn eu byw heddiw. Ond ar yr un pryd, rydym yn gwbl ymwybodol bod pob aelod o'r gynulleidfa yn wahanol, a bod llu o resymau dros pam mae pobl yn dewis dod i weld opera. Ar gyfer y selogyn opera brwd sy'n dod i weld pob cynhyrchiad yr ydym yn ei gyflwyno, mae rhywun arall yn y gynulleidfa sy'n gwbl newydd i'r gelfyddyd ac sydd wedi dod i'n gweld oherwydd bod opera wedi'i rhestru ar ei restr bwced. Efallai fod gan y selogion awydd gweld rhywbeth newydd, a sioeau nad ydynt wedi'u gweld o'r blaen; a'r rhai sy'n gwbl newydd i opera yn mynd am noson allan dda.

Mae repertoire amrywiol yn hollbwysig ym mhob Tymor, ac rydym yn gobeithio y bydd gan ein cynulleidfaoedd ddewis o blith llu o deitlau sy'n dwyn eu bryd, ac efallai hefyd y bydd sioeau eraill gennym sy'n codi blys arnynt i roi cynnig ar ddod i'w gweld. Mae ein Tymor 2022-23 yn cynnwys pum cynhyrchiad newydd, ac ochr yn ochr â gweithiau adnabyddus tu hwnt, sef La bohème a The Magic Flute, rydym hefyd wedi cynnwys dau ddarn o waith sydd newydd eu comisiynu - Migrations a Blaze of Glory! Fel yr awgryma'r teitl, mae Migrations yn mynd ar drywydd thema sydd mor berthnasol i'r byd modern, a cheir sawl naratif yn yr opera hon. Ar y llaw arall, mae Blaze of Glory!, opera i godi calon sy'n dangos grym unigryw canu fel ffordd o ddod â phobl ynghyd.

Ond dim ond blas ar WNO yw'r gwaith a gyflwynir gennym ar ein prif lwyfannau. Mae llawer mwy iddi na hynny. Yn llai amlwg, efallai, ond yr un mor bwysig i ni yw'r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda'n cymunedau lu, gyda chyfranogwyr o bob oedran. Mae gennym raglenni bywiog ar gyfer ysgolion ac rydym yn gweithio gyda chantorion ifanc, fel ffordd o greu llwybrau ystyrlon i'r byd opera a cherddoriaeth glasurol, gan ennyn cynulleidfaoedd newydd ac ieuengach ar hyd y daith. Yn bwynt ffocws fydd cynhyrchiad Opera Ieuenctid WNO o Cherry Town, Moscowgan Shostakovitch, sy'n cynnig cyfle arbennig i'n cantorion ifanc berfformio ar lwyfan Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, i gyfeiliant Cerddorfa WNO. Rydym hefyd yn cynnal ystod eang o raglenni ar gyfer oedolion, gan ganolbwyntio'n fawr ar iechyd a llesiant, ac mae'r rhaglenni hyn wedi'u dylunio i ennyn diddordeb pobl yn ein cymunedau ac effeithio'n gadarnhaol ar eu bywydau.

Ac nid dyna'r cwbl. Gallwch glywed Cerddorfa WNO ar y llwyfan cyngerdd drwy gydol y flwyddyn, ac yn uchafbwynt arbennig fydd cyfranogiad y Cwmni yng Ngŵyl Janáček yn Brno, sef tref enedigol y cyfansoddwr, lle byddwn yn cyflwyno ein cynhyrchiad newydd o The Makropoulos Affair, ochr yn ochr â chyngerdd yn cynnwys ei Sinfonietta. Os ydych yn digwydd bod yn y Weriniaeth Tsiec ar 17 a 18 Tachwedd, byddem wrth ein bodd yn eich gweld yno. Yn yr un modd fodd bynnag, byddem yn falch o'ch croesawu i'n holl ddigwyddiadau mewn blwyddyn sy'n argoeli i fod yn hynod gyffrous a chelfyddydol foddhaus."