Newyddion

Janáček’s Musical Influences

7 Ionawr 2022

Jenůfafydd yr ail opera i gael ei pherfformio gan Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) fel rhan o’n Cyfres Janáček, a dechreuodd yn 2019 gyda The Cunning Little Vixen. Mae’r cyfansoddwr Tsiecaidd hwn yn rhan bwysig o hanes WNO. Dechreuodd y berthynas rhwng Syr David Pountney ac WNO gyda chyfres o operâu gan Janáček, a gyd-gynhyrchwyd gyda Scottish Opera ac a ddechreuodd gyda Jenůfa yn 1975. Yn sgil y gwaith a wnaed gan Syr David Pountney, Syr Richard Armstong a Syr Charles Mackerras, cyn Gyfarwyddwr Cerdd WNO, enillodd cerddoriaeth Janáček gryn fri yn y DU. Yn dilyn perfformiad o’n cynhyrchiad o From the House of the Dead yng ngŵyl Janáček yn Brno, yn 2017 fe enillodd Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Fedal Janáček, gan gydnabod ei fod yn berfformiwr eithriadol sy’n hyrwyddo gwaith y cyfansoddwr.

Fel nifer o genedlaetholwyr cerddorol eraill, treuliodd Janáček rywfaint o’i fywyd cynnar yn casglu caneuon gwerin. Mae ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth werin i’w olrhain i ddechrau’r 1870au, sef cyfnod ei gorau meibion cyntaf; ond 1880 oedd y flwyddyn yr aeth ati i gynnal ei astudiaeth systematig gyntaf o ganeuon a dawnsiau gwerin yn rhanbarth ei enedigaeth, a dyma’r adeg y cafodd ei gyfareddu’n llwyr ganddynt. Ganwyd Janáček ym mhentref Hukvaldy yng Ngogledd Morafia, a bu ei daith i’r rhanbarth yn drobwynt yn ei fywyd. Mae llawer o’i weithiau cynharaf, yn cynnwys ei ail opera The Beginning of a Romance (1894), a’r Lachian Dances (1889) enwocach, yn ymgorffori alawon gwerin Morafaidd yn uniongyrchol mewn strwythurau mwy. Erbyn iddo ysgrifennu Jenůfa, roedd caneuon gwerin wedi dylanwadu’n fawr ar iaith gerddorol Janáček. Yn ôl rhaglen perfformiad cyntaf yr opera, ‘dyma’r opera gyntaf sydd yn dymuno bod yn Forafaidd yn gyson’. Er i Jenůfa gael ei pherfformio yn Brno ym 1904, doedd Janáček yn fawr mwy na seléb lleol yn ei famwlad ei hun ym Morafia hyd nes i’r opera gael ei pherfformio ym Mhrâg ym 1961, pan oedd yn 61 mlwydd oed.

Diddordeb gydol oes arall, a thema ar gyfer nifer o erthyglau Janáček, oedd melodi lleferydd, ac roedd o’r farn fod yr elfen hon yn hynod bwysig wrth ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer y llwyfan. I Janáček, y theatr oedd y sefydliad cenedlaethol pwysicaf, ac yn ei ymdrech ddiddiwedd i hyrwyddo diwylliant a cherddoriaeth Tsiecaidd roedd yn bendant ei farn fod angen meithrin yr iaith. Mewn llythyr agored i olygydd y Moravská Revue ynglŷn â sefydlu Theatr Genedlaethol Morafia, dyma a ysgrifennodd: ‘Os ydych eisiau cael theatr a chanddi gymeriad neilltuol, yna rhaid inni dreiddio i’r dyfnderoedd a darganfod y gwirionedd: rhaid i’r dôn sy’n perthyn i iaith ein hactorion - yn wir, y melodïau lleferydd sy’n perthyn i iaith yr actorion - fod yn wirioneddol Tsiecaidd, yn wirioneddol Forafaidd’. Yn ei felodïau lleferydd, cynhwysodd Janáček leferydd pobl o bob cefndir, yn ystod pob mathau o weithgareddau - yn y gwaith, ar y trên, ac ar strydoedd Brno. Yn ôl Tomáš Hanus, mae’n cynrychioli rhyw fath o wirionedd ar ffurf cerddoriaeth. ‘Dyw Janáček ddim yn dweud celwydd; dyw e ddim yn ymffrostio nac yn dibynnu ar dechnegau. Yn ei gerddoriaeth, clywn fywyd a dioddefaint pobl gyffredin.’