Efallai bod rhai’n gweld opera fel rhywbeth hen ffasiwn a chwbl heteronormadol. Y Mis Pride hwn, mewn cyfnod o ddathlu cariad, hunaniaeth, hunanfynegiant a chynhwysiant, rydym yn herio’r safbwynt hwn. Mae’r dull operatig wedi moderneiddio ac esblygu dros amser, gan ganiatáu i fwy o straeon LHDTC+ ddod i’r amlwg. Darllenwch ymlaen wrth inni rannu rhai o’n hoff operâu sy’n arddangos y straeon hyn.
Lulu
I ddechrau yn y dechrau, opera Alban Berg, Lulu, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Mehefin 1937, yw’r opera gyntaf sy’n cynnwys cymeriad hoyw, er bod hyn yn destun dadlau. Countess Geschwitz yw’r cymeriad dan sylw - dynes lesbaidd hudolus sy’n dod yn un o gariadon femme fatale Lulu. Mynegir ei haddoliad llwyr o Lulu ar ddiwedd yr opera yn y geiriau: ‘Lulu! My angel! ... I will stay near you! Into eternity!’.

Stonewall
Yn fwyaf diweddar, ym mis Mehefin 2019, perfformiwyd Stonewall, New York City Opera am y tro cyntaf, i nodi hanner can mlwyddiant gwrthryfel enwog Stonewall. Cyfansoddwyd yr opera bwerus hon gan Iain Bell (In Parenthesis) gyda libreto gan Mark Campbell, a hon oedd yr opera gyntaf i gynnwys cymeriad trawsryweddol a ysgrifennwyd ar gyfer canwr trawsryweddol. Mae’r stori’n cynnwys grŵp amrywiol o gymeriadau sy’n uno’n ddewr i frwydro’n ôl yn erbyn yr heddlu.
Rhondda Rips it Up!
Nesaf, mae opera sy’n agos at galon WNO: Rhondda Rips It Up!, cynhyrchiad gwreiddiol a berfformiwyd am y tro cyntaf gennym ni yn 2018. Wedi’i chyfansoddi gan Elena Langer gyda libreto gan Emma Jenkins (Blaze of Glory!), mae’r opera hon yn dilyn y swffragét, y gweithredwr a’r entrepreneur, yr Arglwyddes Rhondda, ynghyd â grŵp o swffragetiaid eraill, yn ystod eu brwydr dros hawliau menywod. Elfen allweddol o’r naratif yw’r berthynas mae’r Arglwyddes Rhondda yn ei chreu gyda Helen Archdale wedi i’w phriodas ddod i ben.

As One
Yn ogystal, mae’n bwysig tynnu sylw at yr opera siambr As One, a gyfansoddwyd gan Laura Kaminsky gyda libreto gan Mark Campbell a Kimberly Reed. Mae’n canolbwyntio ar daith gymhleth menyw drawsryweddol o’r enw Hannah, sy’n cael ei chyfleu’n fyw gan ganwr gwrywaidd ('Hannah Before’) a chantores fenywaidd ('Hannah After’). Perfformiwyd yr opera arloesol hon am y tro cyntaf yn 2014 ac mae hi wedi cael llawer o amlygrwydd ers hynny.
Death in Venice
Mae Death in Venice o waith Benjamin Britten, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Mehefin 1973, yn enghraifft arall o opera hŷn sy’n cynnwys stori LHDTC+. Mae’r plot yn dilyn Gustav von Aschenbach, awdur enwog sydd wedi colli’i wraig, wrth iddo deithio i Venice am ysbrydoliaeth. Mae’n cwrdd ag aristocrat o’r enw Tadzio, sy’n aros yn yr un gwesty gyda’i deulu, ac mae’n cael ei swyno gan ei harddwch. Mae’r mwyafrif o gynyrchiadau’n dehongli’r obsesiwn hwn fel syrthio mewn cariad, er bod peth amwysedd.

Patience and Sarah
Yn olaf, mae gennym Patience and Sarah, a grëwyd gan y cyfansoddwr Paula M. Kimper a’r libretwr Wende Persons, ac sy’n seiliedig ar y nofel gan Alma Routsong (dan y ffugenw Isabel Miller). Mae’r opera hon, a berfformiwyd am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 1998, wedi’i gosod yn Connecticut yn 1816 ac mae’n cyfleu hanes dwy fenyw o wahanol ddosbarthiadau sy’n syrthio mewn cariad ac yn rhannu breuddwyd o baratoi ffordd arloesol gyda’i gilydd. Mae’n gyffredin iddi gael ei hystyried fel yr opera lesbiaidd gyntaf, yn ogystal â’r opera prif lif gyntaf ar thema hoyw.
Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rhain o operâu sydd â themâu LHDTC+, ac rydym yn edrych ymlaen at weld llawer mwy yn y dyfodol. Oddi wrth bawb yn Opera Cenedlaethol Cymru: Mis Pride Hapus!