Yn ôl ym mis Mawrth, pan ddaeth popeth i stop o ganlyniad i Covid, ni ddychmygodd yr un ohonom ba mor hir y byddai'r stopio yn para i Opera Cenedlaethol Cymru. O'r holl ffurfiau o gelfyddydau perfformio, opera sy'n gweithio i'r llinellau amser mwyaf pellgyrhaeddol, ac roeddem wedi gobeithio y byddem yn ôl mewn pryd ar gyfer ein Tymor yr Hydref; ond yn weddol fuan, daeth gwir gymhlethdod y sefyllfa i'r amlwg. Mae cwmni fel WNO sy'n teithio i leoliadau partner yn rhan o, ac yn dibynnu ar ecosystem gelfyddydol ehangach o lawer, felly arweiniodd hyn yn anffodus at ganslo Tymor yr Hydref cyfan WNO. O ganlyniad, rydym wedi newid ein ffocws i berfformiadau a phrosiectau digidol, ac rydym nawr yn edrych ymlaen at Wanwyn 2021.
Fel y sefydliad celfyddydol mwyaf yng Nghymru, rydym wrth gwrs yn ddarostyngedig i ganllawiau a osodir gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn ystyried yn ofalus sut y gallwn ddychwelyd i'r gwaith a chynhyrchu perfformiadau byw dan amodau diogel yn ystod y misoedd nesaf. Mae'n ofnadwy o eironig bod canu a chwarae offerynnau - gweithgareddau llawen sy'n gwella bywyd a gwir hanfod yr hyn yr ydym yn ei wneud yma yn WNO - bellach yn cael eu hystyried yn berygl i fywyd o ganlyniad i'r pandemig.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi rhoi gwybod i ni nad ydyn nhw'n rhagweld y bydd Theatr Donald Gordon ar agor erbyn ein Tymor y Gwanwyn 2021, felly rydym nawr yn gweithio'n agos gyda'r tîm yn Neuadd Dewi Sant a'r New Theatre i gynllunio ffyrdd i ddychwelyd i berfformiadau yng Nghaerdydd, unwaith yr ystyrir ei bod yn ddiogel gwneud hynny, gan ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru o ran sut y gall ein diwydiant weithio mewn amgylchedd Covid.
Oni bai fod amgylchiadau yn ein hatal, rydym yn bwriadu teithio fel y cynlluniwyd i'n holl leoliadau teithio yng Nghymru a Lloegr yng Ngwanwyn 2021. Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn gyfnod rhwystredig i Gorws a Cherddorfa enwog WNO a'i dimau technegol medrus iawn, ond byddwn yn barod i fynd, cyn gynted ag y bydd y cyfle'n codi.
Mae eich diogelwch chi, ein cynulleidfaoedd a'n perfformwyr, o'r pwys mwyaf, ac mae maint rhai operâu yn golygu na ellir eu perfformio'n ddiogel yn ystod y cyfnod cyfyngol hwn. Felly, mae'n rhaid gohirio cynyrchiadau Faust Gounod a Der Rosenkavalier Richard Strauss tan ddyddiad diweddarach. Gan dderbyn bod ein cynlluniau yn agored i newid, rydym yn cynllunio ar gyfer taith Tymor y Gwanwyn 2021, a fydd yn cynnwys The Barber of Seville Rossini, y bydd Tomáš Hanus yn ei harwain, ochr yn ochr â Il trovatore a Chwarae Opera YN FYW, cyngerdd i'r teulu yn dilyn ein cyfresChwarae Opera arlein, lwyddiannus a phoblogaidd. Bydd deiliaid tocynnau yn cael gwybod gan leoliadau mewn da bryd sut mae archebu neu newid archebion tocynnau.
Ond mae yna un maes gweithgarwch sydd heb fod yn segur yn ystod y chwe mis diwethaf gan fod nifer o'n rhaglenni cymunedol a pherfformiadau wedi symud arlein. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhyddhau hyd yn oed mwy o gynnwys arlein sydd wedi'i greu yn benodol at y diben hwnnw. Y cyntaf o'r rhain yw monodrama ddwys Poulenc, La voix humaine, dan gyfarwyddwyd Syr David Pountney a fydd yn cael ei rhyddhau ar Ddiwrnod Opera'r Byd, 25 Hydref.
Mae'r llinynnau newydd hyn o'n gwaith yn agor y ffordd i ni wneud cysylltiadau dyfnach ar draws y nifer o gymunedau yr ydym eisoes yn gweithio ynddynt. Mae'r celfyddydau'n siarad â'n dynoliaeth gyffredin ac mae ganddynt ran hanfodol i'w chwarae. Gweledigaeth WNO yw byd wedi'i gyfoethogi a'i wneud yn gynhwysol drwy bŵer opera: Nod WNO yw bod yn gwmni i bawb - sy'n adlewyrchu'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.
Bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu 75 mlynedd ers ei sefydlu yn 2021. Yn union fel y ffurfiwyd y Cwmni gan grŵp o gantorion amatur a ddaeth ynghyd ym 1946, felly hefyd y bydd WNO heddiw yn bownsio'n ôl o argyfwng byd-eang i ddod â rhyfeddodau ein celfyddyd i'r cymunedau yr ydym mor falch i'w gwasanaethau ledled Cymru a Lloegr. Gobeithiwn cyn hir - a chyn gynted ag y bydd yn ddiogel - y bydd pawb yn WNO yn gallu eich gweld chi'n bersonol unwaith eto.
Aidan Lang
Cyfarwyddwr Cyffredinol