Fel y gŵyr rhai ohonoch, mae La traviata gan Verdi yn stori glasurol am dorcalon. Ystyr La traviata yw merch bechadurus ac mae’r stori’n seiliedig ar ddrama gan Alexandre Dumas (mab awdur The Three Musketeers), La Dame aux camélias, sy’n adrodd hanes putain llys sy’n gadael ei bywyd i fod gyda dyn sy’n ei charu. Ond nid yw’n hawdd iddi ddianc rhag ei gorffennol…
Mae’r opera wedi’i gosod ym Mharis y 1850au – ac yn gyfoes i’r cyfnod y cafodd ei hysgrifennu – ‘Love and Death’ oedd y teitl gwreiddiol, teitl a oedd yn datgelu’r plot braidd. Ond ar y llaw arall, onid yw teitl o’r fath yn wir am lawer o operâu? Mae La traviata yn rhagflaenu nifer o operâu a allai ddisgyn o fewn teitl o’r fath, gan gynnwys operâu poblogaidd Puccini, La bohème, Tosca a hyd yn oed Madam Butterfly. Yn yr operâu hyn, y brif ran, y rhan deitl, yw merch sy’n ‘gwerthu ei henaid’ – neu’n hytrach, ei chorff – mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac yna’n disgyn dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad gyda dyn y mae’n rhaid iddi gefnu arno… ac yna mae hi’n marw.
David Pountney, Gwanwyn 2014, yn trafod ein tymor Merched Pechadurus.Efallai bod obsesiwn cerddoriaeth, llenyddiaeth a chelfyddydau gweledol y 19eg ganrif gyda merched a oedd wedi mynd ar gyfeiliorn – (cyfieithiad llythrennol La traviata) – ychydig yn rhagrithiol, ond fe wnaeth hefyd ysbrydoli peth o’r mynegiant cerddorol mwyaf didwyll o gydymdeimlad dynol. Mae’r rhagrith yn gorwedd mewn caniatáu i’r gynulleidfa gael y cyffro o wylio merch yn ymddwyn yn wael am dair act ar yr amod ei bod hi’n pwysleisio’r foeswers trwy farw’n druenus yn y bedwaredd act. Nid oedd hi’n anghyffredin i ddynion yn y gynulleidfa ym Mharis y 19eg ymweld â merched fel hyn eu hunain, ond roeddynt yn dal i fynnu bod eu gwragedd a’u merched yn cael moeswers.
Mae Violetta, y butain llys yn La traviata, yn dioddef o anhwylder a oedd yn ‘boblogaidd’ ymhlith arwresau'r 19eg ganrif, sef darfodedigaeth neu TB (fel Mimì yn La bohème). Nid yw Violetta a’i chariad Alfredo yn dod yn nol at ei gilydd nes ei bod hi ar ei gwely angau. Stori glasurol yw hon am gwympo mewn cariad â rhywun o ben tlotaf y dref.
Nid yw Giorgio Germont, tad Alfredo, yn hapus bod ei fab yn byw gyda chyn-butain, dim ots os mai hi sy’n talu am bopeth, ac mae’n defnyddio priodas ei ferch fel y rheswm pam fod rhai i Violetta adael ei fab. Digon yw dweud bod Violetta yn aberthu ei hapusrwydd ei hun ac yn dychwelyd i’w hen fywyd. Mae Alfredo, sydd ddim yn gwybod y gwir, yn beio Violetta am chwalu’r berthynas ac yn ymddwyn yn annymunol tuag ati. Mae ychydig o amser yn pasio, mae Violetta ar ei gwely angau, ac mae tad Alfredo yn teimlo’n ddrwg ac yn cyfaddef y gwir wrth ei fab. Daw’r ddau gariad yn ôl at ei gilydd, ac ymddengys ein bod ni am gael diweddglo hapus… ond byddwch yn barod a chofiwch ddod â hancesi poced gyda chi.
Yn ein cynhyrchiad 2009 fe welwch yr holl fanylion ysblennydd y byddech yn disgwyl eu gweld ym myd y boneddigion yn y 19eg ganrif, boed ym mharti ‘noddwr’ Violetta y Barwn Douphol, tŷŷ yn y dref, salon, neu lofft ym mhlasty Violetta ac Alfredo. Mae hwn yn gynhyrchiad moethus gan David MacVicar – a ddisgrifiwyd ar un adeg fel ‘enfant terrible’ opera. Mae David a’r dylunydd Tanya McCallin wedi creu set sydd wir yn eich cludo i gyfnod gwahanol.
Gallwch weld ein cynhyrchiad o La traviata fel rhan o’n Tymor Hydref, ewch i dudalen yr opera i gael y manylion llawn.