Newyddion

Gwnewch adduned blwyddyn newydd i gefnogi WNO

4 Ionawr 2022

Ac yn ddisymwth ddigon, mae blwyddyn newydd arall wedi gwawrio ac mae hi’n amser inni wneud yr addunedau Blwyddyn Newydd hollbwysig yna. Yn hytrach na gwneud addewidion y byddwch yn siŵr o’u torri, pam na rowch chi gynnig ar rywbeth gwahanol eleni?

Ers 2020, mae cwmwl y coronafeirws wedi bod yn hofran uwch ein pennau. Ond mae’r pandemig wedi dangos inni, yn gliriach nag erioed o’r blaen, pa mor bwysig yw cerddoriaeth a’i gallu i’n helpu i oroesi a ffynnu yn ystod cyfnodau anodd.

Fel elusen gofrestredig mae WNO yn dibynnu ar gefnogaeth hael gan unigolion, ymddiriedolaethau a sefydliadau, a busnesau corfforaethol ar gyfer mynd i’r afael â’n gwaith ar y llwyfan, ond hefyd ar gyfer ein rhaglen helaeth o brosiectau cymunedol a gynhelir ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Prosiectau fel Côr Cysur, Tair Llythyren, Lles gyda WNO a’r Opera Ieuenctid lle’r awn ati i ymgysylltu â mwy na 40,000 o bobl bob blwyddyn.

Uchafbwynt diweddar yma yn WNO oedd ein Cyngherddau Ysgolion rhad ac am ddim. Mae’r cyngherddau hyn yn cynnig cyfle i blant weld cyngerdd cerddorfaol byw, o bosibl am y tro cyntaf. Nod y cyngherddau hyn yw ysbrydoli, cyfareddu, a gwneud y byd opera yn haws i blant ysgolion cynradd ei ddeall. Mae’r gynulleidfa’n cynnwys ysgolion sydd wedi cofrestru ar ein rhaglen Dysgu gyda WNO, ynghyd â gwahoddedigion ychwanegol.

Rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda’r genhedlaeth iau, a thrwy’r rhaglen Dysgu gyda WNO cawn gyfle i weld sut y mae ein sesiynau’n effeithio’n gadarnhaol ar y plant.


Mae hi’n anodd cyfleu’r holl fanteision mewn geiriau. Mae wedi bod yn enfawr. Mae’r rhaglen wedi ehangu gorwelion y plant. Maen nhw’n deall cerddoriaeth, iaith, emosiynau… y byd yn well. Mae wedi cael cymaint o effaith ar ein hysgol. Rydym yn teimlo’n ffodus dros ben ein bod wedi cael bod yn rhan o gynllun mor arbennig.

Ysgol Cwm Gwyddon

Credaf fod y gwasanaeth yn ffordd wych o ddylanwadu ar blant a’u hysbrydoli, mewn maes lle mae’r cyfleoedd i blant yn brin. Mae’n rhoi uchelgeisiau i’r plant – uchelgeisiau na fydden nhw wedi eu cael fel arall, o bosibl. Rydw i’n argymell y rhaglen hon heb feddwl ddwywaith.

Ysgol Gynradd Millbank

Rydym angen eich cymorth chi yn awr yn fwy nag erioed o’r blaen er mwyn ein helpu i barhau â’n prosiectau cymunedol. Y gost o redeg Dysgu gyda WNO mewn un ysgol am flwyddyn yw £6,500. Trwy gefnogi WNO, gallwch gyfrannu at y gwaith amhrisiadwy a wnawn mewn ysgolion yn ogystal ag at nifer o bethau eraill a wnawn i gynnig allgymorth yn y gymuned.

Gwnewch adduned blwyddyn newydd y gallwch ei gadw eleni a chefnogwch Opera Cenedlaethol Cymru.