Nid yw opera newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru, Migrations, fel unrhyw opera arall. Mae'r libretto gan chwe awdur gwahanol, yn adrodd chwe stori ryngweithiol wahanol ac mae'n cynnwys amrywiol elfennau o gelfyddyd arall. Yma rydym yn dewis rhai ohonynt:
Mae'n fraint gan WNO gael cwmni Renewal Choir Community Chorus ar gyfer Migrations. Mae cynnwys perfformiad gan gôr gospel mewn opera yn 'newydd' unwaith eto i opera. Bydd y cyfuniad o leisiau ac arddulliau cerddorol, sain cerddoriaeth Gristnogol, harmoni cyfoethog, traddodiadol fel sy'n cael ei berfformio gan gorau gospel o amgylch y byd a lleisiau operatig yn cael codi ochr yn ochr â'i gilydd yn yr un perfformiad yn rhywbeth rhyfeddol a heb os yn affeithiol.
Bydd darn Eric Ngalle Charles, Birds, yn cael ei berfformio gan gorws o 14 o blant, rhwng 10 a 14 oed, wedi ei ffurfio'n arbennig. Yn cymryd rhan y teulu o adar, yng nghwmni ffurfiau a ysbrydolwyd gan origami, wrth inni dystio i'w ymfudo blynyddol, wedi ei fritho â chwestiynau arferol plentyndod megis 'ydyn ni yno bellach?' Mae eu stori wedi ei gwasgaru drwyddi draw, gan weithredu fel storïwr. Gwrandewch ar ddyfyniad o Birds.
Gan weithio ochr yn ochr â Will Todd, mae'r cerddor Indiaidd adnabyddus Jasdeep Singh Degun wedi darparu cerddoriaeth sitar (gwrandewch), gan sicrhau cyffyrddiad o ddilysrwydd fel ymgynghorydd ar gynnwys y gerddoriaeth Indiaidd o fewn yr opera. Mae Jasdeep, a anwyd yn Leeds, yn cynhyrchu cerddoriaeth wedi ei drwytho yn nhraddodiad clasurol Gogledd India ond heb osgoi genres cerddorol eraill, ac felly mae ei waith yn Migrations fel opera yn clymu gyda'i waith personol.
Gan dynnu ar ei gefndir cerddorol amrywiol, mae sgôr gerddorol Will Todd wedi ei thrwytho gyda dylanwadau jazz ac, ar adegau, mae synau'r blŵs yn cael eu creu. I'r rhai hynny ohonoch ddaeth i weld ein perfformiad Haf 2021 o'i Alice’s Adventures in Wonderland, ni fydd hyn yn eich synnu. Yn Migrations, disgwyliwch brofiad cerddorol sy'n toddi o jazz i gorawl i'r symffoni a mwy. Blaswch fyd cerddorol Will Todd, gwrandewch nawr.
Mae dawns yn aml yn rhan o gynyrchiadau WNO ac nid yw Migrations yn eithriad. Gan gofleidio tôn ysgafnach, mae'r ail ddarn annibynnol o fewn yr opera – This is the Life! gan Shreya Sen-Handley – yn cynnwys dawnsio Bollywood, mewn dilyniant anhygoel gyda'r holl pizzazz o gynhyrchiad Bollywood. Mae yna hefyd elfen o ballet drwyddi draw. P'run a yw'n cael ei berfformio gan artistiaid gwadd fel rhan o'r ensemble, neu'r 'adar', mae dawns yn rhan bwysig o'r opera.
Os nad ydych wedi cael profiad o opera o'r blaen, yna efallai mai hon yw'r un i chi. Gyda stori gyfoes sy'n atseinio ac elfennau cyfarwydd o gelfyddyd arall, fe fydd Migrations yn gynhyrchiad trawiadol gwahanol i unrhyw opera arall. Peidiwch â cholli'r cyfle, archebwch eich sedd heddiw.