I anrhydeddu'r mamau yn y byd operatig, dyma ein hoff famau, y rhai sy'n disgleirio fwyaf.

1. The Magic Flute
Fel mam enwocaf y byd opera, o bosib, mae Brenhines y Nos yn ymgnawdoliad o rym etheraidd ond hynod bwerus. Bydd yn aml yn cael ei phortreadu fel y gwrthwyneb i Sarastro - ffigur tadol yr opera - ac ymgorfforiad o ddrygioni, ond gellir hefyd ei dehongli fel cymeriad mwy rhadlon: mam sy'n teimlo ei bod wedi cael ei bradychu gan ei merch, Pamina. Yn ystod ‘Der Hölle Rache’, aria adnabyddus Brenhines y Nos, mae'n rhoi dagr i Pamina, gan fygwth gwrthod ei chydnabod fel ei merch (gyda chyfres o nodau C uchel, stratosfferaidd) os bydd yn gwrthod llofruddio Sarastro. Mae'n gorffen gydag erfyniad herfeiddiol: "Hear, ye gods of vengeance! Hear a mother's vow!".

2. Madam Butterfly
Os bu yno erioed batrwm gwell o fam yn y byd opera cyfan, efallai mai Cio-Cio San yw honno. Mae'r ferch Japaneaidd 15 mlwydd oed yn syrthio mewn cariad â'r swyddog llynges Americanaidd, Pinkerton, ac yn mynd i ddisgwyl ei blentyn cyn iddo yntau hwylio'n ôl yn ebrwydd tua'r Unol Daleithiau. Mae Butterfly, sydd erbyn hyn yn fam sengl, yn dal i obeithio y bydd yn dychwelyd fel yr addawodd - tra bydd y gobaith hwnnw ganddi, ni all ei phlentyn gael ei wrthod gan gymdeithas. Mae ei ddychweliad yn paratoi'r ffordd ar gyfer yr olygfa olaf, fawreddog, lle mae Butterfly, yn ymostyngar, yn erfyn ar ei phlentyn i "look well on your mother's face" cyn rhoi mwgwd dros ei lygaid a'i lladd ei hun. Rydym yn dioddef gyda Cio-Cio San, nid yn unig fel merch, ond hefyd fel mam yn gofalu am fudd gorau ei phlentyn, ac mae gallu Puccini i ddangos inni ei chariad at ei mab yn tynnu ar linynnau'r galon.

3. The Marriage of Figaro
Marcellina yw arwres gynnil yr opera gomig hon gan Mozart. Mae'n ddiwrnod priodas Figaro a Susanna ac mae Cownt Almaviva yn ceisio dod o hyd i unrhyw esgus i ohirio seremoni sifil y gweision. Ni chaiff Figaro, sydd o dras fonheddig - ond wedi ei gipio gan ladron pan oedd yn blentyn bach - briodi heb ganiatâd ei deulu. Drwy droeon annisgwyl, datgelir mai mab Marcellina - meistres tŷ Dr Bartolo - yw Figaro. Gyda chymeradwyaeth Marcellina, mae Figaro a Susanna yn priodi ac yn byw'n hapus weddill eu hoes.

4.Hansel and Gretel
Er yr holl hud tywyll a dewiniaeth, yn y bôn sôn am bleserau bwyd a hunllefau newyn y mae Hansel and Grentel, drwy brofiad y brawd a chwaer enwog o'r stori dylwyth teg. Wrth galon y stori mae Gertrud, mam Hansel a Gretel. Mae Gertrud, yn ei gwylltineb, yn anfon ei phlant allan i'r goedwig - sef cartref gwrach ddrygionus a barus sy'n hudo plant i'w thŷ gyda theisennau hud - i hel mefus. Yn pryderu bod y plant mewn perygl, mae Gertrud a'i gŵr Peter yn rhuthro i'r goedwig i chwilio am eu plant sydd, erbyn hynny, wedi cael eu dal gan y wrach ddychrynllyd. Ar ôl mymryn o hud, tŷ bara sinsir a basged o ddanteithion melys, daw diwedd ar y wrach ddrwg ac mae'r plant yn ôl gyda'u rhieni. Heb Gertrud, ni fyddai'r stori hynod boblogaidd hon yn bodoli.

5. Falstaff
Alice Ford, neu'r Merry Wife of Windsor, yw prif achos y gwrthdaro rhwng y ddau ddyn yn yr opera hon, ond hi hefyd yw'r grym gyrru sy'n datrys is-blot pwysig yng nghampwaith Verdi. Mae Alice yn gweld bod ei merch yn drist wrth feddwl am golli ei hannwyl Fenton, felly mae'n llunio cynllun i sicrhau bod ei merch yn cael ei dymuniad yn lle'r briodas drwy drefniant y mae ei gŵr yn ei chynllunio. Mae'n anodd peidio edmygu unrhyw ferch sy'n croesi ei gŵr er mwyn rhoi ei phlentyn yn gyntaf.
A dyna ni, ein 5 mam gorau yn y byd opera. Byddwch yn ddiolchgar am bopeth mae'ch mam yn ei wneud i chi.