Newyddion

Presenoldeb Parhaus Mozart ym myd Ffilm a Theledu

4 Mai 2022

Mae Wolfgang Amadeus Mozart yn parhau i fod yn un o'r cyfansoddwyr gorau erioed; mae ei ddylanwad a'i fri yr un mor llewyrchus 200 mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Dywedodd Tchaikovsky fod Mozart yn debyg i'r Duw cerddorol, a bod ei waith "yn uchafbwynt yr holl bethau hardd ym myd cerddoriaeth."

Er ein bod ni eisoes wedi trafod cerddoriaeth Mozart mewn ffilmiau, rydym nawr am drafod rhagor o ffilmiau a rhaglenni teledu sy'n defnyddio gwaith y cyfansoddwr. 

Gellir clywed The Turkish March, fel y'i gelwir gan amlaf, sef alaw fywiog o Rondo Alla Turca yn seinio o radio Truman Burbank, yn The Truman Show, ffilm o 1998. Mae'r dôn chwareus yn tynnu sylw at natur ddiamheus ein prif gymeriad wrth iddo yrru i'w waith ar y rhaglen deledu realiti sy'n seiliedig arno.

Mae The King’s Speech, 2010, yn cynnwys concerto y clarinét o un o'n hoff operâu, The Marriage of Figaro. Ond mae cysylltiad Mozart gyda'r teulu brenhinol yn ymestyn y tu hwnt i'r ffilm hon y Brenin sy'n dod i delerau â'i atal dweud - mae The Crown, cyfres gan Netflix, yn defnyddio Requiem yn D lleiaf: Lacrimosa Dies Illa yn ystod angladd y Dywysoges Cecilie, sef chwaer fawr y Tywysog Philip. 

Bydd cefnogwyr Peaky Blinders, rhaglen gan y BBC, hefyd yn adnabod Lacrimosa o olygfeydd dechreuol pennod agoriadol y gyfres olaf, wrth i Michael Gray adael Carchar Norfolk ym Moston, gyda'r bwriad o ladd Tommy Shelby i ddial marwolaeth ei fam.

Mae Offeren Mozart yn ddewis poblogaidd mewn traciau sain ffilmiau, a defnyddir sgôr y gerddoriaeth yn aml i greu ymdeimlad bygythiol o ofn. Mae'r adran sy'n dwyn yr enw Rex Tremondae i'w clywed yn Eyes Wide Shut, gan Stanley Kubrick, wrth i ni wylio cymeriad Tom Cruise mewn anobaith llwyr ar ôl cael gwybod am farwolaeth Mandy, sy'n aberthu ei hun i'w arbed.

Yn X-Men 2, mae Sequentia, Dies Irae gan Mozart yn dwysáu treiddiad y Nightcrawler, y mwtant sy'n telegludo, dros y Tŷ Gwyn. Dangosir yr olygfa'n araf deg, ac mae'r gerddoriaeth yn dwysáu'r natur anochel wrth i'r cymeriad wthio'i ffordd drwy'r swyddogion diogelwch sy'n gwarchod yr Arlywydd. Defnyddir Sequentia, Dies Irae unwaith eto i gryfhau'r ymdeimlad o anobaith mewn golygfa lle mae cymeriad Patrick Wilson, Nite Owl, yn derbyn gwirionedd ei sefyllfa yn uchafbwynt stori'r Watchmen: Pe byddai byth yn datgelu'r gwir a arweiniodd at farwolaeth miliynau o drigolion Efrog Newydd, byddai eu haberth cyfrinachol yn gwbl ddireswm. 

Anodd yw credu y bydd poblogrwydd gwaith Mozart yn lleihau yn y blynyddoedd nesaf, a difyr fydd gweld sut y defnyddir ei gerddoriaeth mewn ffilmiau a rhaglenni teledu yn y dyfodol. Os ydych yn ysu i gael gwrando ar gerddoriaeth Mozart cyn hynny, dewch i weld ein cynhyrchiad newydd o The Magic Flute sydd ar daith Gwanwyn 2023.