Newyddion

Nadine Benjamin: O fy nghalon i, i un chi.

1 Mehefin 2023

Yr Haf hwn, fe fydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn teithio gyda’n hoff gerddoriaeth sy’n tynnu tannau’r galon gyda’n taith gyngerdd haf, Cerddoriaeth o’r Galon. Cawsom sgwrs gyda’r unawdydd, Nadine Benjamin, a ddywedodd fwy wrthym am y gerddoriaeth y bydd yn ei pherfformio a pham fod ganddi le mor arbennig yn ei chalon ar ei chyfer.

‘Yn tydi hi’n anhygoel sut mae cerddoriaeth yn cyffwrdd ein calonnau? Dyma iaith fyd-eang bywyd. Pan mae perfformiad yn dechrau, rydym i gyd yn cysylltu â’n gilydd wrth gyfnewid emosiynau cylchol o’r galon - o’r arweinwyr i’r cerddorion, y cerddorion i’r cantorion, o’r cantorion i’r gynulleidfa, ac yn ôl i’r perfformwyr. Mae ein calonnau wedi agor yn llwyr ar yr adegau hyn.’

È strano – Sempre Libera from La traviata

Mae’r darn hwn, a genir gan Violetta, yn dod o Act 1 clasur poblogaidd Verdi, La traviata. Mae’n rhoi cipolwg ar deimladau Violetta wedi iddi gwrdd â dyn newydd, dymunol, Alfredo:

‘Mae Violetta yn gweld ei bywyd yn ddryslyd ar yr adeg yma (yn canu È strano – Am ryfedd) - mae’n gwybod nad yw’n dda ond nid yw’n sicr beth yn union sydd o’i le arni. Mae hi wedi arfer peidio â bod mewn cariad fel bod syrthio mewn cariad yn sydyn gyda rhywun arall a’u cael yn ei charu’n ôl yn ei llethu. Mae Violetta yn cael ei denu gan lais Alfredo, ond mae’n sylweddoli bod angen iddi flaenoriaethu llawenydd (Sempre libera – Yn rhydd o hyd) – mae’n llawn bywyd ac yn barod i chwarae, wrth iddi geisio atal y teimlad o gariad sy’n ei bwyta.’

Golygfa Lythyr o Eugene Onegin

Mae Eugene Onegin gan Tchaikovsky, stori llawn gobaith, colled a thor calon, ynghyd â cherddoriaeth gerddorfaol ramantaidd, beraidd, yn llawn Cerddoriaeth o’r Galon. Mae golygfa wych y llythyr ar ddechrau’r opera yn crynhoi cariad tanbaid Tatyana at Onegin yn berffaith:

‘Mae Tatyana dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad ag Eugene Onegin, ond nid yw’n gallu mynegi hynny na dweud wrtho. Yn hytrach, mae’n ysgrifennu llythyr cyfrinachol ato, ac fe lifodd y neges o’r galon.’

Vissi d’arte o Tosca

Mae Vissi d'arte(Celf oedd fy mywyd) yn aria wych i soprano o opera Tosca gan Puccini.  Dyma alar y prif gymeriad am ei thor calon o golli ei dyfodol a’i chariad.

‘Dywed Baron Scarpia wrth Tosca os na wnaiff ildio ei hun iddo, fe fydd yn lladd ei chariad, Cavaradossi. Mae Tosca yn meddwl, pam? Rwy’n ddynes yr eglwys, rwy’n moli’r Madonna, rwy’n rhoi blodau, pam fod hyn yn digwydd i mi? Mae’n foment rhwng hi a Duw - mae’n dweud wrtho Ef, rwy’n byw i bopeth, boed i ti fyw i mi yn y foment hon.'

‘Rwy’n gyffrous i rannu fy nghalon gyda’r cynulleidfaoedd ac yn edrych ymlaen at fod ar daith gyda Cherddorfa WNO, cwrdd â phobl newydd ac ymweld â dinasoedd newydd.’

Mae Nadine Benjamin yn ymuno â Trystan Llŷr Griffiths ar gyfer taith Haf Cerddorfa WNO, gan ymweld â Barnstaple, Torquay, Casnewydd, Wolverhampton, Bangor a Southampton o 27 Mehefin i 20 Gorffennaf.