Newyddion

Gair gan ein Cyd-Gyfarwyddwr Cyffredinol a CEOs, Adele Thomas a Sarah Crabtree

6 Chwefror 2025

Mae rhedeg cwmni opera yn debyg iawn i fod yn faer tref fechan.

Rydyn ni’n eithriadol o lwcus, ar ein diwrnod cyntaf un yn y swydd, bod cast The Marriage of Figaroyn dechrau ymarfer ar yr un diwrnod. Mae’n golygu ein bod wedi gallu dechrau ein cyfnod gyda’r Cwmni yng nghanol pethau ac mae'r profiad o wneud hynny’n hatgoffa mai pobl sydd wrth gefn opera fyw.

Gan edrych ar y cast yn dechrau ymgyfarwyddo efo’r cymeriadau, yn ofalus i ddechrau arni ac yna gorff ac enaid, roedd y cyfarwyddwr a’u tîm yn tynhau eu gafael ar eu gweledigaeth hyd yn oed yn fwy, a’r arweinydd a’r staff cerdd yn dod â chymeriadau’n fyw o sgôr Mozart - y synapsis o’r holl weithrediad - gan dynnu pob adran o’r sefydliad at ei gilydd o amgylch yr hyn oedd yn cael ei eplesu yn yr ystafell ymarfer. Buan iawn y mae dim ond deg munud mewn ystafell ymarfer yn chwalu’r syniad o’r seren ar ei phen ei hun ar y llwyfan ac yn dyst i’r ffaith bod perfformiad byw wastad yn ymdrech grŵp. 


Ac felly mae’n parhau oddi allan i bedair wal yr ystafell ymarfer. Yn ystod ein hwythnos gyntaf, fe gawsom weld ein Cerddorfa WNO anhygoel ar daith yn Abertawe, wedi’i harwain yn wych gan eu Harweinydd David Adams ac yn chwarae fel pe baent wedi eu dwyn ynghyd gan hud a lledrith. Aethom i wrando’n ddistaw bach ar ein Corws hyfryd yn ymarfer ar gyfer Figaro ac fe ymwelom ni â chyfleuster adeiladu setiau, CTS a gweld gwaith y rhwydwaith enfawr o sgiliau sydd ei angen er mwyn dod ag opera i’r llwyfan: y paent a’r polish, y props a’r setiau a mecanwaith opera a theatr ledled y byd.

Mae gallu gwneud unrhyw berfformiad byw yn wyrth. Mae’n dibynnu ar bawb o fewn y rhwydwaith enfawr yna, o’r tîm gweinyddu medrus iawn i’r croeso wrth ddrws y llwyfan, cannoedd o gyrff a sgiliau’n cyrraedd ar yr amser iawn, grymoedd yn tynnu at ei gilydd, yn sianelu’r gerddoriaeth gyda’i gilydd o’r foment gyntaf mae’r sgôr yn cael ei hagor. Gallai unrhywbeth fynd o’i le ar unrhyw adeg ac eto, rhywsut, mae pawb yn canolbwyntio eu hegni ar greu rhywbeth allan o ddim mwy na cherddoriaeth.

Mae’n arbennig o eglur faint o wyrth yw hyn pan rydych chi’n ystyried bod WNO, ac opera’n gyffredinol wedi bod drwy’r felin yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yma. COVID i ddechrau arni, ac wedyn, ar yr union adeg roedden ni’n megis dechrau cael ein gwynt atom, rydym ni i gyd wedi bod o dan bwysau ariannol sy’n parhau i wthio’r bar naid uchel hyd yn oed yn uwch: y costau cynyddol ar draws pob maes o’n busnes, o danwydd i goed, pris tocynnau trên a biliau gwasanaethau, biwrocratiaeth gynyddol bod ar daith yn Ewrop ac, wrth gwrs, y toriadau ariannol amlwg mae’r Cwmni wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf yma.

Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym wedi cyrraedd yn y dref fechan yn barod i fugeilio’r bobl anhygoel sy’n gwneud WNO yn ddyfodol gwydn a herfeiddiol. Fel gyda phopeth, y bobl yn y sefydliad fydd yr allwedd i’n llwyddiant yn y dyfodol.

Rhan o sut rydym ni’n gwneud hyn fydd yn y gwaith. Rydym wedi etifeddu dwy sioe gan ein rhagflaenydd sydd, yn eu ffordd unigol eu hunain, hefyd yn delio gydag ecosystemau cymhleth cymunedau penodol. Yn The Marriage of Figaro, mae ecoleg gymdeithasol tŷ gwledig yr anllad Iarll Almaviva yn darparu tiriogaeth bythol wyrdd ar gyfer archwilio gwleidyddiaeth dosbarth, a phawb wedi’i wisgo mewn dillad gafodd eu cynllunio gan y chwedlonol Sue Blane. Ac rydym ni wrth ein bodd ein bod yn perfformio am y tro cyntaf gynhyrchiad newydd o’r opera  ‘theatrig’ gorau erioed, Peter Grimes. Rydym yn eithriadol o hapus bod Melly Still yn ymuno â ni i gyfarwyddo: cyfarwyddwr y mae ei huchelgais a’i defnydd gweledigaethol o theatr gorfforol yn gwbl addas ar gyfer trais llawn dicter a gwylltineb cymuned ffuglennol The Borough Benjamin Britten.

Ac, wrth gwrs, y grŵp olaf o bobl sydd wrth galon cymuned estynedig WNO yw chi, y gynulleidfa. Yn y pen draw, chi yw’r arf unigol mwyaf yn erbyn dilead opera. Bob tro rydych chi’n prynu tocyn ac yn cyrraedd yn y theatr, mae’n cyfannu’r cylch: rydym ni i gyd yn ymuno gyda’n gilydd mewn undod, y perfformwyr a’r gynulleidfa, i anadlu’r un aer a rhannu’r un gofod a bod yn dyst i wyrth perfformiad byw.