Newyddion

Newydd i opera? Rhowch gynnig ar Dymor 2023/2024 WNO.

21 Mawrth 2023

Mae Tymor 2023/2024 Opera Cenedlaethol Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn wledd operatig o operâu cyfoes, cynyrchiadau sydd wedi ennill gwobrau, ffefrynnau oesol, a chreadigaethau newydd sbon. Ond, os ydych chi'n newydd i opera, gall ceisio penderfynu beth i'w ddewis fod yn frawychus. Rydyn ni yma i ddadansoddi ein Tymor newydd er mwyn gwneud y penderfyniad yn haws.

Così fan tutte

Os ydych chi wedi gwylio Love Island erioed, fe fyddwch chi'n gyfarwydd â Casa Amor - y prawf eithaf o deyrngarwch lle mae cystadleuwyr yn cael eu rhoi wyneb yn wyneb â darpar gystadleuwyr eraill. Dyna sy'n sy'n digwydd yn yr opera hon fwy neu lai. Mae Così fan tutte yn opera gomig ac yn ein fersiwn ni, mae'n dilyn grŵp o fyfyrwyr sy'n cael eu twyllo i sefyllfaoedd sy'n eu temtio er mwyn profi eu cariad a dysgu gwers iddyn nhw. Gyda cherddoriaeth ryfeddol Mozart, beth am ddod i weld ein llwyfaniad newydd sbon a dod i weld drosoch eich hun pam fod yr opera hon wedi bod yn boblogaidd ers 1790. 

Il trittico

Dychmygwch bryd tri chwrs blasus gyda chenfigen i ddechrau, cariad a cholled yn brif gwrs, ac yna twyll a llofruddiaeth i bwdin. Dyma Il trittico Puccini i chi. Dim ond mewn operâu sebon y cewch y math yma o reid emosiynol yn aml, ac felly mae'r tair opera un act yma yn ffordd berffaith i unrhyw un dreulio ei gyda'r nos. Ar ben hynny, mae gan bob chwedl fyd sain unigryw. Felly os ydych chi'n newydd i opera, dyma'r ffordd berffaith i fwynhau eich gwledd operatig gyntaf.

La traviata

Yn y byd opera, La traviata Verdi yw un o'r operâu enwocaf erioed. Ond, os ydych chi'n newydd i opera, mae'n debyg eich bod chi'n awyddus i wybod beth yw'r apêl. Ar wahân i gerddoriaeth sy’n codi gwallt eich pen, mae’r opera hon yn dilyn naratif nad ydym ni, fel cynulleidfa, yn blino arno byth – cariad angerddol, wedi’i dyngedu i arwain at drasiedi yn y pen draw. O The Notebook i Titanic, mae trasiedi ym mhobman. Mewn gwirionedd, mae La traviata yn ddrych uniongyrchol o Moulin Rouge, yn adrodd hanes putain hudolus ym Mharis sy'n syrthio mewn cariad ag artist tlawd. Os ydych chi wedi gweld Moulin Rouge, yna mae'n debyg y byddwch chi wedi dyfalu sut y daw hyn i ben, ond beth am ddod i weld ein cynhyrchiad pum seren a gweld drosoch eich hun.

Ainadamar

Anghofiwch bob rhagdybiaeth oedd gennych chi am opera, bydd Ainadamar yn troi popeth rydych chi'n ei gredu ar ei ben. Efallai nad yw fflamenco, cerddoriaeth electronig a barddoniaeth yn bethau y byddech chi'n disgwyl eu gweld mewn opera, ond mae’r opera hon yn rhoi'r cyfan ichi – does ryfedd iddi ennill dwy wobr Grammy i'r cyfansoddwr, Golijov. Nid yw’r opera hon wedi ei pherfformio yng Nghymru erioed o’r blaen, felly mae'n bleser cael dod â’r opera hon i’n mamwlad am y tro cyntaf. A rhywbeth arall sy'n digwydd am y tro cyntaf - bydd Deborah Colker, enillydd gwobr Olivier a choreograffydd seremoni agoriadol aruthrol Gemau Olympaidd Rio 2016, yn mynd i'r afael â'i hopera gyntaf yn sedd y cyfarwyddwr. Bydd yn wledd syfrdanol a fydd yn sicr o roi gwefr.

Death in Venice

Opera ar gyfer y llyfrbryfed. Mae Death in Venice Britten yn seiliedig ar nofel gan yr awdur Almaeneg, Thomas Mann. Mae'r hanes yn un tywyll, llawn awyrgylch, am awdur sy’n syrthio mewn cariad â phendefig ifanc. Gyda themâu obsesiwn a dyhead, mae'n berffaith ar gyfer unrhyw un sy'n hoff o ramant othig. Os nad yw'r stori gyfareddol yn ddigon i'ch denu, mae sgôr Britten yn cyniwair ac yn ddramatig, ac yn tanlinellu popeth sy’n datblygu ar y llwyfan. Yn union fel ein prif gymeriad, Gustav, rydym ni wedi gwirioni.