Newyddion

Opera - Anrheg i blesio pawb

9 Rhagfyr 2019

Siopa Nadolig; un o bleserau mwyaf bywyd, pori'n hamddenol o gwmpas y farchnad Almaenig yn dewis anrhegion ar gyfer anwyliaid, wrth sipian ar win tymhorol gyda Tawel Nos yn chwarae’n dawel yn y cefndir. Neu, os yw eich siopa Nadolig yn fwy o ruthro gwyllt, yn llusgo bagiau o gwmpas mewn panig chwyslyd yn ceisio cofio a yw'ch Anti Sara wrth ei bodd â chanhwyllau lafant neu'n eu casáu nhw, na phoener, mae Opera Cenedlaethol Cymru yma i achub y dydd. Rhowch yr anrheg gorau i'ch anwyliaid eleni; opera. Nid oes rhaid i chi hyd yn oed fentro i'r siopau.


Wrth gwrs, mae yna rai sy'n rhoi rhestrau manwl i chi o'r hyn maen nhw ei eisiau (o ble, ym mha liw, a pha mor fawr) ac yna mae yna rai sydd â phopeth yn barod. Maen nhw'n enwog ar Instagram, maen nhw'n rhannu lluniau ciwt ohonyn nhw eu hunain yn gwneud torchau ac mae ganddyn nhw'r holl declynnau diweddaraf. Byddech chi'n eu casáu nhw heblaw am y ffaith mai eich brawd a'i wraig ydym yn sôn amdanynt; y cwpl hunanfodlon sy'n amhosib prynu ar eu cyfer, yr unig beth nad ydyn nhw wedi’i wneud eisoes yw, ie, rydych chi wedi dyfalu'n gywir…mwynhau noson yn yr opera. Chi o'r diwedd fydd yn gallu bod yn ffroenuchel a dweud. 'O! Nid ydych wedi bod o'r blaen, o ddifrif?’ Byddai'r opera The Marriage of Figaro yn berffaith, mae'n ddoniol, yn hurt ac yn cynnwys lot o briodas - yn union fel nhw.


Yna mae gennych eich nith gelfyddgar (neu nai, cefnder, beth bynnag), sydd wrth ei bodd yn teithio, yn cofleidio diwylliant ac sy'n figan wrth gwrs, beth am beidio â phrynu moron iddi, eto, yn hytrach, beth am brynu profiad bythgofiadwy iddi, y cyflwyniad perffaith i opera: Carmen. Mae hi'n ymwybodol iawn o'r argyfwng hinsawdd ac felly bydd yn falch o glywed nad oes rhaid iddi hedfan i Ganol America i weld favela; ni fydd rhaid iddi hyd yn oed adael y sir i fwynhau byd angerddol ac egsotig Carmen. Coeliwch ni, bydd yn anrheg llawer gwell na'r afr a gawsoch iddi'r llynedd, a wnaeth ddim plesio cystal ag yr oeddech wedi'i gynllunio, sy'n eich arwain i ryw amau, efallai nad yw hi mor frwd dros achub y byd ag yr ydych chi'n meddwl, ond yn hytrach byddai'n llawer gwell ganddi fod yn mwynhau parti ar draeth yng Ngwlad Thai. 


Mae hynny'n gadael y selogion opera, maen nhw wedi bod i weld pob opera sy'n bodoli, a byddant yn eich addoli am byth, pe byddech mor hael â phrynu ein pecyn o dair opera ar gyfer y Gwanwyn iddyn nhw. Byddwch chi yn fwy poblogaidd fyth os ewch chi gyda nhw i rannu'r llawenydd ac os ydych chi wir eisiau disgleirio gallwch ddarllen ein Canllaw i Les vêpres siciliennes a gwneud eu diwrnod gyda'ch gwybodaeth newydd. Fodd bynnag, os yw arian braidd yn dynn, yn debyg i sawl un arall mae'n siŵr, adeg y Nadolig, dylech brynu tocynnau iddynt i weld cynhyrchiad newydd David Pountney o Les vêpres siciliennes, opera ar gyfer gwir selogion opera. Ac yna, mae aelodaeth Cyfaill WNO, am fewnwelediad ecsgliwsif i’r Cwmni, hyd yn oed os ydynt wedi archebu tocyn i bob dim eisoes.

Perffaith,
Cofion gorau, Opera Cenedlaethol Cymru