Newyddion

Ein Hoff Farbwr

9 Gorffennaf 2021

Figaro yw'r cymeriad mwyaf enigmataidd ym myd opera, a'r unig gymeriad i gael tair opera wedi'i ysgrifennu amdano (gan gynnwys The Barber of Seville). Ei aria adnabyddus Figaro, Figaro, Figaro yw'r ‘Largo al factotum’ enwog, sy'n golygu ‘make way for the factotum’ h.y. gwas bach. Yn ogystal â bod yn un o'r alawon mwyaf bachog, mae hefyd yn un o'r caneuon anoddaf i'w chanu, ac mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi llwyfannu nifer o Farbwyr dros y blynyddoedd. Mae'n un o'r deg opera a berfformir amlaf yn y byd, felly nid yw'n syndod fod WNO wedi cynhyrchu bron i 200 o berfformiadau.

Mae ei phoblogrwydd yn rhyfeddol, o ystyried y perfformiad cyntaf gwyllt yn 1816; yn cynnwys cathod, esgyrn yn cael eu torri a bwio uchel o'r dorf. Mae The Barber of Seville yn un o ffefrynnau Opera Cenedlaethol Cymru, wedi perfformio chwe chynhyrchiad newydd ers 1957. Yn ogystal â dathlu'r Barbwr a'i gyfeillion yn y cynyrchiadau llawn, rydym hefyd yn eu dathlu ar ffurf cyngerdd; yn 1949 cynhaliodd WNO gyngerdd mewn pabell fawr i gynulleidfa o dros 5,000 o bobl, gyda mwy yn eistedd ar y gwair. Profodd hyn fod y gynulleidfa yn ei garu hefyd.

Cyflwynwyd y cynhyrchiad llawn cyntaf yn 1957, dyma oedd yr opera gyntaf gan Rossini yn hanes y Cwmni, dan gyfarwyddyd Harry Powell Lloyd. Adolygwyd hyn yn 1959 wrth i Rita Hunter berfformio i WNO am y tro cyntaf, a chanu Marcellina. Cafwyd cynhyrchiad newydd gan John Moody yn 1964, oedd yn defnyddio'r adroddganau gwreiddiol yn hytrach na deialog llafar yn y cynhyrchiad blaenorol. Perfformiodd Ryland Davies am y tro cyntaf gyda WNO yn 21 oed, a chanu rôl Almaviva. Roedd cynhyrchiad newydd gan Malcolm Fraser yn 1970 yn cynnwys Terrence Sharp fel ‘Figaro’ a James Levine yn arwain. Yn 1977, cafwyd cynhyrchiad newydd wedi ei gyfarwyddo gan William Gaskill, ei ymddangosiad operatig cyntaf. Perfformiwyd y fersiwn enwog bresennol gan Giles Havergal am y tro cyntaf yn 1986, ac ymddangosodd nifer o weithiau, ond mae'r perfformiadau a drefnwyd ar gyfer eleni wedi'u gohirio.

Bu i Sam Brown greu cynhyrchiad newydd fel rhan o drioleg Figaro yn 2016 ynghyd â The Marriage of Figaroa Figaro gets a Divorce. Dyluniwyd yr holl wisgoedd ar gyfer y tair opera gan Sue Blane, sy'n cael ei hadnabod am ddylunio gwisgoedd ar gyfer sioeau gwych eraill megis The RockyHorror Picture Show a The Draughtsman's Contract. Gyda'r holl gynyrchiadau hyn i'n henw, rydym ar bigau i berfformio'r opera glasurol hon eto a chreu rhywbeth rhagorol - gan ail-lunio'r stori mewn ffyrdd newydd yn y dyfodol.