Newyddion

Rizzi at Sixty

19 Gorffennaf 2020

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch o ddathlu penblwydd y Meistr Carlo Rizzi yn 60, Arweinydd Llawryfog WNO ar 19 Gorffennaf 2020.

Wedi ei eni ym Milan, hyfforddodd Carlo yn Conservatorio di Musica di Milano ac ar ôl graddio daeth yn répétiteur yn Teatro allo Scala. Yr opera gyntaf iddo ei harwain oedd L’ajo nell’imbarazzo gan Donizetti yn 1982. Yn 1985, enillodd Carlo Cystadleuaeth Arweinydd Toscanini yn ei flwyddyn gyntaf.

Wedi gyrfa o bron i 40 mlynedd, mae Carlo Rizzi yn un o brif arweinwyr opera'r byd, ar ôl perfformio dros 100 o operâu ar draws repertoire eang yn y tai opera a neuaddau cyngerdd enwocaf ledled y byd.

Ymunodd Carlo ag WNO fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth o 1992-2001 ac eto yn 2004-2008, ond ei ymddangosiad cyntaf gydag WNO oedd arwain perfformiad o The Barber o Seville  gan Rossini ar 6 Mawrth 1990. Mae ei gyfnod yn WNO wedi cael effaith ddofn ar y Cwmni a'i enw da artistig, gan gyfrannu llawer at sefydlu WNO fel cwmni opera teithiol o'r radd flaenaf. Mae'n parhau i fod yn ddylanwad ac yn gefnogwr mawr i WNO ac oherwydd y bondiau cryf hyn gydag WNO, penodwyd Carlo yn Arweinydd Llawryfog WNO yn 2015. Mae Carlo wedi ymrwymo ei amser yng Nghymru yn llwyr ac wedi dysgu Cymraeg.

Mae Carlo yn parhau i fod â chysylltiadau â thai opera ar draws y byd ac mae'n arwain yn rheolaidd yn y Met yn Efrog Newydd, La Scala Milan, y Tŷ Opera Brenhinol yn ogystal â Berlin, Paris, Brussles, Chicago, Madrid a Tokyo. Mae hefyd yn gweithio gyda cherddorfeydd mwyaf blaenllaw'r byd. Roedd Carlo Rizzi yn rhan annatod o Drioleg Verdi WNO a gafodd ei chanmol yn ddiweddar:

Mae lliw a brwdfrydedd dramatig yr Eidal yn cael eu perffeithio gan Arweinydd Llawryfog WNO, Carlo Rizzi, sy'n ysbrydoli Cerddorfa a Chorws y Cwmni i uchderau gwefreiddiol

Sunday Times

Mae Verdi yn greiddiol i Opera Cenedlaethol Cymru ac maent yn ei anrhydeddu'n hael gyda'r Drioleg hon. Diolch i Rizzi yn y pwll mae cyfuniad Verdi o bŵer a chraffter yn creu argraff

The Guardian

Yn 2019 dychwelodd Carlo gyda Cherddorfa WNO i'r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant ar ôl saib o 11 mlynedd. Dywedodd am yr achlysur: 'Mae bob amser yn bleser mawr i mi... ar ôl dros 30 mlynedd o weithio gyda Cherddorfa WNO, rydym wedi dod i adnabod a deall ein gilydd ar lefel ddofn ac mae'r ymddiriedaeth sydd gennym wrth ymarfer a pherfformio, beth bynnag fo'r repertoire, yn rhywbeth yr wyf yn ei werthfawrogi'n fawr.'

Mae Carlo wedi datblygu i fod yn un o hoelion wyth mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd WNO dros y blynyddoedd o safbwynt aelodau a chynulleidfa'r Cwmni. Mae'n ennyn canmoliaeth am ei ysbrydoliaeth a hyd yn oed pan mae'n stopio yng nghanol perfformiad o gynhyrchiad WNO o Les Vêpres siciliennes gan Verdi yn Nhymor y Gwanwyn 2020, ddwywaith, er mwyn cosbi ymyriadau ffonau symudol, mae Carlo yn cael cymeradwyaeth gynnes gan y gynulleidfa.

Rydym yn mawr obeithio y bydd perthynas WNO â Carlo Rizzi yn parhau am flynyddoedd lawer, a hoffai pawb yn WNO ddymuno'n dda iawn iddo wrth i ni ymuno i ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.

Buon compleanno Carlo!
Penblwydd Hapus yn 60!
Happy 60th Birthday Maestro!