Newyddion

Rossini a’i arwres mezzo-soprano

20 Awst 2018

Mae mezzo-soprano yn llais canu clasurol merch sydd ag ystod leisiol rhwng y mathau o lais soprano a chontralto. Mae ystod llais y fezzo-soprano fel arfer yn ymestyn o’r A o dan C ganol i’r A sydd ddau wythfed yn uwch. Yn yr eithafion isel a’r uchel, gall rhai mezzo-sopranos ymestyn yn isel i’r F dan C ganol ac mor uchel â’r ‘C uchel’. Mae math llais y fezzo-soprano yn gyffredinol yn cael ei rannu i’r coloratura, ysgafn, a’r fezzo-soprano ddramatig.

 Tra bod mezzo-sopranos yn nodweddiadol yn canu rolau eilaidd mewn opera, mae eithriadau nodedig yn cynnwys Angelina (Sinderela) yn La Cenerentola gan Rossini, a Rosina yn The Barber of Seville. Mae rolau nodweddiadol i fezzo-sopranos yn cynnwys gwrachod, nyrsys a merched doeth, megis Azucena yn Il trovatore gan Verdi; dihirod a hudolesau megis Amneris yn Aida gan Verdi; a ‘rolau trowsus’ (cymeriadau gwrywaidd a berfformir gan gantoresau) megis Cherubino yn The Marriage of Figaro gan Mozart. Mae mezzo-sopranos yn cael cynrychiolaeth dda mewn cerddoriaeth faróc, cerddoriaeth gynnar, ac opera baróc.

Oni bai am operâu Rossini, byddai’r repertoire ar gyfer y fezzo-soprano yn llawer llai diddorol. Yn aml ystyrir opera yn dilyn y plot sylfaenol ble ‘mae’r tenor eisiau priodi’r soprano ond mae’r bas yn ceisio’u rhwystro’. Yn ôl y fformiwla syml hon, yr arwres yw’r soprano sy’n gadael rolau megis partner, mam neu nyrs yr arwres i’r fezzo. Fel arall, hi yw’r wraig ddrwg. Nid oes angen dangos gormod o gydymdeimlad yma, yn aml ystyrir drygioni yn llawer mwy diddorol i’w berfformio ar y llwyfan. Fodd bynnag, mae’n wir fod yr opera Rhamantus ble mae’r mezzo yn perfformio’r brif rôl ac yn cael ei gŵr ar y diwedd yn brin iawn, ac mae bron iawn bob un o’r enghreifftiau adnabyddus yn weithiau gan Rossini.

Yn ystod y rhan fwyaf o’i yrfa, roedd y cyfansoddwr yn cael ei gysylltu’n agos â’r mezzos. Yn gyntaf, roedd Marietta Marcolini, cantores sefydledig a oedd yn nodedig am ei rolau digrif, a ofalodd am y cyfansoddwr 19 oed. I ddiolch, ysgrifennodd y cyfansoddwr brif rolau iddi ym mhump o’i operâu cynnar, a’r cwbl oni bai am un yn gomedi. L’equivoco stravagante (1811) ble mae’r tenor yn rhwystro’r bariton rhag priodi’r fezzo gan wneud hynny drwy ddweud wrtho ei bod yn ganwr castrato mewn gwisg merch; Ciro in Babalonia; La Pietra del paragone; ni ymddangosodd Marcolini ym mherfformiad cyntaf un o lwyddiant cynharaf Rossini, Tancredi, ond ymddangosodd fel yr arwres yn ei gomedi nesaf, L’Italiana in Algeri (1813). Y perfformiad agoriadol diwethaf gan Rossini iddi fod yn rhan ohono oedd Sigismondo (1814).

Y flwyddyn wedyn, roedd Rossini yn Naples gyda chytundeb hael i ysgrifennu un opera’r flwyddyn am gyflog a oedd yn cynnwys rhan o’r elw o fyrddau gamblo’r tŷ opera. Y cyntaf o’r rhain oedd Elisabetta, Regina d’Inghilterra, a ysgrifennwyd ar gyfer Isabella Colbran, a oedd ar y pryd ar frig ei henwogrwydd. Roedd hanes yn arddweud nad oedd Elisabetta i gael ei dyn, ond roedd Colbran yn llwyddiannus, a phriododd y cyfansoddwr. Ysgrifennodd Rossini brif rolau i Colbran mewn wyth opera arall, y cwbl ar gyfer Naples. Mae’r rhain yn cynnwys Desdemona yn Otello, y prif rolau yn Armida a Zelmira ac Elena yn La Donna del Lago. Gadawsant Naples a phriodi yn 1822 ond roedd ei llais yn dangos straen ac ysgrifennodd un opera arall yn unig i’w wraig, Seriramide (1823). Gwahanasant yn ddiweddarach, ond gofalodd Rossini amdani hyd ei marwolaeth a chredai mai hi oedd un o ddehonglwyr gorau ei gerddoriaeth.

Mae rheswm arall pam bod Rossini yn arbennig o garedig gyda’r mezzo. Fel arfer byddai’n dilyn y traddodiad baróc o gastio’r brif rôl wrywaidd mewn opera difrifol fel rôl trwser mezzo. Mae’r tenor fel arwr yn ddatblygiad o opera ramantaidd - arferiad a sefydlwyd fel roedd operâu difrifol Rossini yn cilio o’r rhestrau poblogaidd. Roedd rhaid torri’r disgwyliad hwn cyn y gallent eu hail-sefydlu ar lwyfannau opera yn y deugain mlynedd diwethaf. 

Bydd Angelina yn ein cynhyrchiad o La Cenerentola’r Hydref hwn yn cael ei pherfformio gan y fezzo-soprano Wyddelig, Tara Erraught, ac efallai bod rhai ohonoch wedi’i chlywed yn canu gyda Cherddorfa WNO yn Neuadd Dewi Sant y flwyddyn ddiwethaf. Nid yw Tara yn ddieithryn i’r rôl, gan ei bod wedi derbyn canmoliaeth fawr am ei phortread yn y cynhyrchiad Wiener Staatsoper yn 2013

The evening, however, belonged to the young Irish mezzo Tara Erraught as the put-upon Angelina. With her accurate, fleet divisions and sweet disposition she won the audience’s hearts completely

Opera (UK)

As Angelina — Rossini’s Cenerentola, or Cinderella — mezzo Tara Erraught unleashed an array of coloratura fireworks in a role that affords opportunities for vocal pyrotechnics like few others. ‚Non piu mesta’ — where Angelina, the prince by her side, announces that she forgives her cruel step-sisters and step-father — is considered one of opera’s most difficult arias. No problem for Erraught. Her rendition perfectly mirrored Angelina’s transition from a servant singing a simple ditty at the fireside to a princess in full embellished voice.

Associated Press