Yn ddi-os, bu Hydref 2021 yn Dymor y gall WNO ymfalchïo ynddo – Tymor llawn, y cyntaf ers i Dymor Gwanwyn 2020 gael ei dorri’n fyr gan Covid-19. Ar adegau, nid oeddem yn hollol siŵr y byddai’n digwydd; ond digwydd a wnaeth, ac erbyn hyn mae’r tymor drosodd ac rydym yn edrych ymlaen at 2022 a phopeth y gall blwyddyn newydd sbon ei gynnig inni. Ond yn gyntaf, beth am gael cipolwg yn ôl:
Agorwyd Tymor yr Hydref yn ein cartref, sef Canolfan Mileniwm Cymru, ar 9 Medi gyda’n cynhyrchiad clasurol o The Barber of Seville – un o’r ffefrynnau, a chynhyrchiad a gafodd ei werthfawrogi gan gynulleidfa a oedd mor falch o gael dychwelyd i theatr byw:
‘Llongyfarchiadau ar wledd ddoniol fendigedig’
‘Diolch o galon am gynhyrchiad gwych arall! Fe es i â mam (sy’n 87 oed) i weld The Barber of Seville… ac roedd yn bleser pur! Unwaith eto, diolch am ddod â chymaint o lawenydd inni, yn enwedig yn y cyfnod anodd sydd ohoni’
‘Croeso cynnes iawn yn ôl i WNO! Roedd y perfformiadau’n anhygoel!’
Ein opera arall ar gyfer Tymor yr Hydref oedd cynhyrchiad newydd sbon o Madam Butterfly gan Puccini, a llwyddodd y cyfarwyddwr Lindy Hume i ddod ag ef yn fyw yng nghyd-destun yr unfed ganrif ar hugain. Gyda’r set wen gylchdroadol a oedd yn fwy o lawer na bocs llwm, rhoddodd y cynllun syml cyfle i’r gerddoriaeth ysblennydd ddod i’r amlwg, gan bwysleisio’r loes emosiynol a ddaeth i ran Butterfly. Cafodd y cynhyrchiad adolygiadau pedair a phum seren yn ogystal ag ymatebion cadarnhaol di-rif gan gynulleidfaoedd drwy gydol y daith:
‘Roeddem wrth ein bodd gyda’r cynhyrchiad hwn… Roedd/mae yn gampwaith, ac ar ôl ei weld, alla’ i ddim dychmygu y bydd modd i unrhyw gynhyrchiad arall ddod yn agos at y safon a osodwyd gennych chi.’
‘Hoffwn eich llongyfarch chi a phawb arall sy’n gyfrifol am gynhyrchiad rhagorol o Madam Butterfly. Gadawodd fy ngwraig a minnau ar gwmwl o hud a chanmoliaeth i’r holl noswaith. Mae’r set yn anhygoel ac yn rhyfeddol.’
‘Cefais fy nghyfareddu, fy ysgwyd, fy swyno, fy llawenhau a’m chwalu i’r fath raddau nes fy mod wedi gorfod ysgrifennu gair amdano. Am gynhyrchiad rhagorol i weddu i’r presennol.’
‘Cyfareddol, gwefreiddiol, canu bendigedig, llwyfannu gwych. Perfformiad eithriadol o gaboledig. Noswaith fythgofiadwy yn llawn hud.’
Yng Nghaerdydd, Birmingham a Southampton, aethom ati hefyd i gynnal Cyngherddau Ysgolion WNO. Bu’r rhain yn fwy poblogaidd nag erioed ar ôl yr holl anawsterau a ddaeth i ran addysg (a bywydau), gan gynnig seibiant braf a chyfle i’r myfyrwyr – a’r athrawon – fwynhau’r profiad o wylio perfformiad byw gan gerddorfa.
Y tro cyntaf inni ddychwelyd i’r llwyfan oedd gyda chyngherddau arbrofol yn Neuadd Dewi Sant a Chanolfan Mileniwm Cymru ddechrau mis Gorffennaf i brofi sut y gallai perfformiadau o flaen cynulleidfa weithio eleni. Dychwelodd Cerddorfa WNO hefyd i Neuadd Dewi Sant ym mis Tachwedd fel rhan o Gyngherddau Clasurol Caerdydd dan enw newydd, a hefyd ymddangosodd y Gerddorfa yng Ngala Operatig Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – arwydd ein bod wedi dychwelyd yn llwyr at ein rôl yn cynorthwyo’r myfyrwyr yno.
Yn olaf, ymddangosiad bythgofiadwy Opera Ieuenctid WNO yn agoriad y Chweched Senedd ar 14 Hydref, o flaen Ei Mawrhydi y Frenhines, Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a’i Huchelder Brenhinol Duges Cernyw. Perfformiodd yr Opera Ieuenctid drefniant arbennig o Ar Lan y Môr, a chan fod y perfformiad wedi’i gynnwys yn y sylw a gafodd y digwyddiad ar y cyfryngau, bu modd i bobl ym mhobman weld eu talent. I nifer o’r cantorion ifanc a gaiff eu hannog a’u cefnogi gan WNO, dyma un o uchafbwyntiau’r deunaw mis diwethaf.
Efallai’n wir fod y Tymor hwn wedi bod yn hir, gyda’r perfformiadau teithiol yn ymestyn dros dri mis a’n perfformiad olaf yn Venue Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau 2 Rhagfyr; ond llwyddwyd i berfformio ar bob dyddiad, ac roedd ailafael yn yr awenau yn deimlad mor braf.