Newyddion

Traddodiadol yn erbyn Cyfoes – A ddylai opera adlewyrchu bywyd modern?

2 Gorffennaf 2021

Mae'r gyfres fach ddiweddaraf o Bodlediad WNO yn archwilio'r broses o foderneiddio operâu traddodiadol i bortreadu themâu cyfoes. Mae'r gyfres yn codi'r cwestiwn – a ddylai opera adlewyrchu'r byd rydym yn byw ynddo heddiw?

Mae'r newyddiadurwr a'r darlledwr Gareth Jones yn dychwelyd i The O Word ar gyfer y gyfres fach hon gyda gwesteion gan gynnwys beirniad opera enwog Daily Telegraph Rupert Christiansen a'r cyfarwyddwr opera enwog Syr David Pountney.

Mae ein podlediad Cymraeg Cipolwg yn dilyn llwybr gwahanol gyda gwesteion yn ymuno â Dramaturg WNO Elin Jones. Y Tenor Cymraeg Robyn Lyn Evans sy'n agor y gyfres, ac yna Mezzo-soprano ac aelod Corws WNO, Sian Meinir, yn cynnal pennod dau. Rydym wedyn yn dod â’r gyfres i ben gyda'r pianydd a'r arweinydd Cymraeg, Iwan Teifion Davies.

Cawsom sgwrs gyda Gareth ac Elin i gael gwybod mwy am eu profiadau yn gweithio ar y gyfres ddiweddaraf o benodau.

Gareth, sut deimlad yw bod yn ôl yn cyflwyno The O Word?

'Mae'n wych bod yn ôl, yn enwedig yn ymgymryd â’r thema hon ar draws nifer o benodau. Rwyf wedi cael cyfle i siarad â gwesteion diddorol iawn gyda barn wahanol iawn am y ddadl traddodiadol yn erbyn cyfoes. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg dweud nad yw Rupert a Syr David yn gweld llygad yn llygad ar bopeth! Ond bydd yn rhaid i chi wrando i gael gwybod mwy am hynny...'

Ond ar ba ochr o'r ddadl ydych chi – hen neu newydd?

'Os ydych chi'n hoffi opera, nid dadl yw hi mewn gwirionedd! Mae gwaith newydd yn ailgysylltu â gwerthoedd hŷn creu cerddoriaeth bleserus a straeon cymhellol tra bydd y repertoire mwy traddodiadol bob amser yn apelio cyhyd ag y bydd yr artistiaid sy'n ei wneud yn cyflwyno ystyron gwreiddiol a newydd ynddo ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw. Sut i gael hynny'n iawn yw'r hyn rydym yn sôn amdano yn y gyfres. 

Elin, dyma'ch trydedd gyfres o Cipolwg, rhowch wybod i ni am yr hyn rydych chi wedi'i fwynhau y tro hwn...

'Rwyf wedi mwynhau archwilio'r gwahaniaeth yn chwaeth y gynulleidfa. O'r rhai sy'n chwilio am yr adloniant dianc sydd i'w weld mewn operâu traddodiadol, i'r rhai sydd eisiau’r heriau a gynigir mewn comisiynau newydd a osodir yn yr oes fodern. Ac wrth gwrs, y manteision a'r anfanteision mae’r ddau ddull yn eu cyflwyno i'r perfformwyr!'

A sut oedd gweithio gyda gwesteion gwadd?

‘Mae wedi bod yn wych. Rwy'n credu bod eu cefndiroedd a'u profiadau amrywiol yn llywio'r trafodaethau gyda'n gwesteion. Roeddwn hefyd wrth fy modd gyda'r posibilrwydd o ganolbwyntio ar waith cwmnïau opera o Gymru fel Opera Canolbarth Cymru ac Opra Cymru, ochr yn ochr â WNO - gan gydnabod y gwaith amhrisiadwy y mae cymuned opera Cymru yn ei gynhyrchu yn ei gyfanrwydd.'