Newyddion

Canu i'ch enaid

21 Mai 2020

Mae cryn dipyn o sôn am 'gymuned' a gwir ystyr y gair wedi bod yn ddiweddar. Caiff meddylfryd y dorf ei ddibrisio i raddau helaeth yn aml, ond mae'n ymddangos bod diddordeb o'r newydd ym manteision y profiad cyfunol. Mae gwreiddiau Opera Cenedlaethol Cymru yn y gymuned leol, wedi'i ffurfio gan grŵp o bobl oedd eisiau dod at ei gilydd i ganu. Mae hyn yn parhau heddiw drwy brosiectau megis ein Corws Cymunedol. Yn ystod y cyfnod hwn o dan gyfyngiadau, yr hyn sydd gennym yn gyffredin sy'n dod â ni at ein gilydd, yn ein tynnu'n ôl at yr hanfodion, a'r hyn sydd gennym ar ôl, yw ein lleisiau.

Gall canu leihau straen ac iselder, sy'n arbennig o bwysig erbyn hyn gan y gall iechyd meddwl y boblogaeth fod yn dioddef o'r unigedd a orfodir arnom. Nawr yw'r amser delfrydol i ymarfer ar gyfer clyweliad côr - nid canu Penblwydd Hapus wrth olchi dwylo'n unig - er y gallai hynny fod o gymorth.

Nid oes posib cael rhyngweithio dynol mwy sylfaenol a greddfol na chanu, wedi'i drwytho ynom o'r dechrau yn yr ysgol gynradd, efallai y bydd yn datblygu'n garaoce yn hytrach na'r Meseia, ond nid yw hynny'n golygu mai hynny fydd pen draw taith eich llais. Yn wir gall clywed un llais fod yn hudolus ond mae sain nifer o leisiau yn ymuno â'i gilydd mewn cytgord, wel, gall hynny fod yn brofiad ysbrydol, a dweud y lleiaf. Tybiaf nad adrenalin y dorf oedd yr hyn y credai pobl y byddent yn ei golli, ond y cysylltiad hwnnw yw'r peth cynhenid sy'n gwneud i ni deimlo'n ddynol.

Mantais arall i ganu yw nad oes angen unrhyw beth ychwanegol ar wahân i ambell dudalen o gerddoriaeth o bosib - gallwch ymarfer mewn unrhyw leoliad - hyd yn oed wrth redeg ar draws y bryniau gan ddynwared Maria o The Sound of Music (ar eich unig daith ddyddiol wrth gwrs). Ar y pwnc ymarfer corff, a ydych yn ymwybodol o sgil-effeithiau niferus canu, fel cryfhau'r cyhyrau craidd, sydd yn ei dro yn wych ar gyfer cefnogi'ch asgwrn cefn, heb sôn am fod yn ymarfer arbennig i'r ysgyfaint, a all fod yn effeithiol i bobl â asthma? Gall ymuno â chôr cymunedol hefyd ehangu'ch sgiliau cymdeithasol drwy gwrdd â phobl o bob cefndir, o fyfyrwyr sy'n chwilio am gyfleoedd proffesiynol i bobl wedi ymddeol sy'n canu er mwynhad yn unig.

Mae gan bawb restrau 'cyn gynted â bydd y cyfyngiadau'n codi, 'dw i'n mynd i...' a rhuthro allan i'r dafarn fydd o bosib ar frig y rhestr yn aml, neu gywiro'r gwallt hyrddyn rydych chi wedi'i roi i'ch hun yn ddamweiniol, ond byddai'n syniad ychwanegu canu mwy at y rhestr honno hefyd. Wedi'r cwbl, pwy fyddai ddim yn mwynhau canu torfol yn y dafarn, neu mewn stadiwm rygbi - sydd yn aml yn cael ei cydnabod fel y corws cymunedol gwreiddiol, ac er na fydd Sweet Caroline yn amlwg ar restr o ganeuon Côr Cymunedol WNO, rydym yn ffyddiog y bydd y rhestr yn eich plesio i'r un graddau - os nad mwy.

Yn WNO mae gennym ddau Gorws Cymunedol y gallwch ymuno â nhw, un yng Ngogledd Cymru ac un yn y De. Gallwch chi hawlio lle ar y llwyfan fel rhan o un o'n sioeau byw fel Rhondda Rips it Up!. Felly cofrestrwch i ymuno â'n rhestr ebost er mwyn bod y cyntaf i glywed am gyfleoedd sydd ar y gweill; gallwch fod yn sicr y bydd byd gwerth chweil yn eich disgwyl.