A dyna ni, mae ein cynnig haf perffaith, Don Pasquale, wedi dod i ben. Roedd ein cynhyrchiad modern a hynod berthnasol yn addasiad o stori glasurol am rithdybiau rhamantus hen lanc a'r cariadon ifanc sy'n ei drechu, wedi ei leoli yn fan cebab doner Pasquale, yn gyfoes ar gyfer 2019.
Cafodd y sioe ymateb arbennig gan y gynulleidfa yn ogystal ag adolygwyr, gyda'i libreto doniol gwych newydd, wedi ei ysgrifennu gan Daisy Evans, yn apelio at y rheiny sy'n newydd i fyd opera, ac eraill sy'n gwbl gyfarwydd ag opera buffa Donizetti.
Buzz MagazineDon Pasquale has not just been re-imagined but entirely re-written, whilst still remaining true to the original’s general storyline and, more importantly, the spirit of the original, which is considered by many to be one of the last ‘opera buffas’ (Italian comic operas). It’s a great watch/listen for anyone new to opera as well as more familiar with the form. A real job well done, and a production which proves that Welsh National Opera really are world class.
The Stage
Roedd dyluniad set Loren Elstein yn eich tywys i Gaerdydd yr unfed ganrif ar hugain, gyda phecynnau cebabs gwag, biniau a sawsiau ar y llwyfan. Roedd Stephen Higgins wedi addasu sgôr Donizetti'n hyfryd hefyd, gyda band bywiog Malatesta yn cymryd lle'r gerddorfa draddodiadol ar y llwyfan - ac yn cymryd rhan yn y digrifwch.
Roeddech chi hefyd wrth eich boddau gyda'r ffordd roedd ein cast syfrdanol yn portreadu cymeriadau Donizetti mewn ffordd newydd, caricaturaidd. Andrew Shore oedd ein perchennog fan cebab cyhyrog, Don Pasquale, gydag amseru comig a oedd yn ein hatgoffa o'r anhygoel Ronnie Barker; Nico Darmanin oedd Ernesto, nai Don Pasquale a oedd yn ysu am gael bod yn seren bop; Artist Cyswllt WNO, Harriet Eyley oedd ein cellweires caru, Norina; a Quirjin de Lang oedd ein preswylydd blodeuog a sionc, Malatesta. Cawsom hyd yn oed ein diddanu gan gêm o bwy ydi pwy.
Theatre in WalesErnesto is determined to become a pop star. Nico Darmanin could well become one. With his fine tenor, he delivers at least one of his ‘arias’ with all the grunt and grind of a part young Tom Jones.
South Wales ArgusThe story is how the wily Russell Brand-esque Malatesta, sung by the fine baritone Quirijin de Lang, tricks the Don into “marrying” his sister from Llandudno.
Os na oeddech yn gallu ymuno â ni ar gyfer y cynhyrchiad newydd hwn, peidiwch â phoeni, mae gennym gynhyrchiad newydd arall ar y gweill. Yn ystod ein Tymor yr Hydref 2019, byddwn yn perfformio cynhyrchiad newydd Jo Davies oCarmen gan Bizet. Wedi ei osod yng nghanolbarth America'r 1970au, bydd y cynhyrchiad yn cyflwyno'r holl angerdd a drama sy'n ddisgwyliedig o'r opera eiconig hon, ond yn pwysleisio'r amgylchiadau economaidd i gynulleidfa heddiw. Ein digwyddiad Mewnwelediad Opera yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 8 Medi yw'r cyflwyniad perffaith i'r opera.