Mae ein Tymor y Gwanwyn wedi bod yn llawn o gampau acrobatig, cuddwisgoedd a cherddoriaeth anhygoel; o gefndir prudd Fenis yn ystod epidemig colera, i’r ‘Ysgol i Gariadon’ sy’n eich atgoffa o St Trinian’s, i amrywiaeth o ddarnau clasurol gan rai o’n hoff gyfansoddwyr.
Pwy feddylia y byddai uno opera a champau acrobatig yn golygu adrodd ‘syfrdanol’ (The Guardian), ‘trawiadol’ (The Arts Desk) ac ‘atgofus o brydferth’ (Financial Times) o dywyllwch atmosfferig Death in Venice, Britten? Y Cyfarwyddwr, Olivia Fuchs a’r Dylunydd Nicola Turner, dyna chi pwy.
Dywedodd Fuchs wrth The Guardian, ‘Roedd [Nicola] a minnau yma yng Nghaerdydd yn gweithio ar The Makropulos Affair pan aethom i weld NoFit State Circus un noson. Ychydig wedi hynny cawsom gynnig y cynhyrchiad hwn, a meddyliais yn syth bod angen i Tadzio fod yn berfformiwr awyrol’. Roedd Fuchs eisiau dod o hyd i ddimensiwn gwahanol ‘lle rydych yn dod oddi ar y llawr, yn llythrennol, ac yn mynd i fyd gwahanol’ gan mai am ddychymyg y mae’r opera, gyda llawer ohoni’n digwydd ym meddwl Aschenbach.
Dyma gynhyrchiad cyntaf WNO o Death in Venice, opera olaf wych Britten sy’n adrodd hanes tywyll yr awdur adnabyddus Gustav von Aschenbach sy’n teithio i Fenis i chwilio am ysbrydoliaeth ond yn gwirioni gyda’r uchelwr, Tadzio, ac yn ymbellhau fwyfwy oddi wrth realiti.
Bu i gydweithio â NoFit State Circus, yn ogystal ag Antony César, perfformiwr amrywiaeth a syrcas, heb os, dal ar ei ganfed wrth i gynulleidfaoedd a beirniaid gael eu gwefreiddio gan ein ‘cynhyrchiad anhygoel’ (sylw ar Facebook), gyda rhai yn dweud ei fod yn ‘berffeithrwydd llwyr’ a’r ‘peth gorau rwyf wedi’i weld erioed’.
Gydag adolygiadau pum seren gan lawer o gyhoeddiadau, yn cynnwys The Telegraph, The Stage a Bachtrack a pherfformiadau i gynulleidfaoedd llawn ar daith, mae Death in Venice wedi bod yn hynod lwyddiannus a’n gadael yn disgwyl yn eiddgar am ein cynhyrchiad nesaf o waith Britten, Peter Grimes, sy’n agor yn ein cartref, Canolfan Mileniwm Cymru, yng Nghaerdydd mis Ebrill nesaf, cyn teithio i Southampton, Birmingham, Milton Keynes a Plymouth.
Wedi ei gosod ochr yn ochr â set dywyll a phrudd Death in Venice roedd yr ail-adrodd ysgafn o Così fan tutte, Mozart. Wedi ei gosod mewn ysgol, mae ein cynhyrchiad newydd o stori Mozart am newid hunaniaeth yn adrodd hanes dwy chwaer a’u dyweddïon sy’n cael eu plagio a’u profi gan bennaeth ystrywgar a dynes ginio sydd â chuddwisgoedd o dan ei het. Roedd yn wych cael ein Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tomáš Hanus yn ôl i arwain Così; roedd ‘ar dân’ (Arts scene in Wales) ac yn ‘wych [yn] arwain y gerddorfa drwy’r sgôr gydag urddas a chrebwyll’ wrth i’n cantorion ddisgleirio (Buzz magazine). Amlygodd The Guardian Sophie Bevan (Fiordiligi) fel ‘cyfareddol, heb siglo o gwbl yn y rôl operatig fwyaf heriol hon’.
Yn ystod Tymor y Gwanwyn 2024 cyflwynwyd ein cyngerdd Ffefrynnau Opera hefyd, noson o ariâu hyfryd a darnau cerddorfaol a chorawl ysblennydd o rai o operâu mwyaf poblogaidd y byd. Gyda darnau o Otello, Carmen a Madam Butterfly, roedd yna rywbeth i bawb. Os oeddech ddigon ffodus i’w weld, byddech wedi clywed darnau o Peter Grimes, The Marriage of Figaro, Rigoletto a Gianni Schicchi hefyd ac mae modd i chi eu mwynhau fel rhan o’n Tymor 2024/2025 mewn lleoliadau ledled Cymru a Lloegr.