Newyddion

Swyn oesol y Vixen

25 Gorffennaf 2019

Bu i'n cynhyrchiad o The Cunning Little Vixen weld golau dydd am y tro cyntaf ar 5 Dachwedd 1980 yn y New Theatre yng Nghaerdydd, cartref Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'n gynhyrchiad y gellir ei weld fel dathliad o'r berthynas rhwng WNO a Syr David Pountney a ddechreuodd gyda chyfres o operâu Janáček dros saith mlynedd o 1975 a gyd-gynhyrchwyd gan Scottish Opera (ble roedd David yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau) a WNO, ac roedd Vixen yn un ohonynt.

Mae golygfeydd byr, ysbeidiol y comedi drasig hon yn cael eu portreadu mewn dull tebyg i Alice in Wonderland sydd yn caniatáu i chi wthio anghrediniaeth i'r ochr, ac ymollwng eich hun yn y byd sydd o'ch blaen. Mae cerddoriaeth bersain Janáček yn llifo drwy'r golygfeydd hyn, gan egluro synau’r goedwig a buarth y fferm sydd wedi eu delweddu ar y llwyfan.


Music has the ability to bring fantasy and fairy-tale to life; the genius of Janáček’s seventh opera is not only that it combines a celebration of nature that is real … with music of characteristic yearning intensity and surprising intimacy, but that it relates these joys to human cares, to the regrets of old age reflecting on a failed life ... The brilliance of this production was that the boundaries of fantasy and reality became so dissolved that the expression of emotion and psychology through imagination was perfectly natural.

Classical Music, 6 Rhagfyr 1981

Gyda set sydd wedi ei gymharu â'r Teletubbies, efallai nad cynhyrchiad David yw'r opera draddodiadol, arferol, ond nid yw opera Janáček yn gweddu i'r safbwynt safonedig ychwaith, gyda'i ddiddordeb mewn natur a chanolbwynt ar gymeriadau anifeiliaid


Given that Janáček’s opera is about the cycle of life and the eternal process of renewal, its return seems perfectly appropriate – especially as the staging could claim to be almost perfect.

The Guardian, 27 Chwefror 2013

Fel y gwelwn o'r adolygiadau hyn, mae gan Vixen WNO swyn oesol sydd wedi bodoli am bedwar degawd, o'i berfformiad cyntaf hyd at y daith fwyaf diweddar. Gyda'r wasg leol, a chenedlaethol yn canmol y cynhyrchiad lliwgar, ac yn nodi eu bod yn credu y dylai aros yn ein repertoire fel 'un o'r sioeau gorau y mae'r cwmni erioed wedi lwyfanu' (Bristol Evening Post, Hydref 1981), does dim rhyfedd ei bod wedi parhau i fod yn un o ffefrynnau'r gynulleidfa.

O'i ymddangosiad cyntaf yn 1980, gyda South Wales Echo yn canmol 'cynhyrchiad David Pountney, sydd yn seiliedig ar res o fryniau tonnog, ble mae'r tymhorau’n newid gydag amrywiaeth o liwiau, yn orlawn o swyn gwledig a chyffyrddiadau dychmygol, un o'i lwyddiannau mwyaf.’ I'r mwyaf diweddar yn 2013, pan dderbyniodd yr opera 4 seren yn The Times, gan ei disgrifio fel 'Rhyfeddod bach cyfrwys (sydd) yn herio amser...Mae llwyfannu clasurol Janáček yn hudolus o hyd'. Gallwch weld pam ein bod ni mor falch i ddod â'r opera rhagorol yma yn ôl ar daith yn yr Hydref, gan roi cyfle i gynulleidfa newydd – a'r rheiny sydd wedi dotio eisoes – ddarganfod y Vixen.