I lawer o bobl, Mozart yw’r cyfansoddwr gorau a welwyd erioed. Roedd cydgyfansoddwyr Mozart, hyd yn oed, yn cytuno â sylwadau Strauss pan ddywedodd fod Mozart yn ‘feistr tonyddol heb ei ail’, a hefyd â Rossini pan ddywedodd ‘Rwy’n gwrando ar Beethoven ddwywaith yr wythnos ac ar Haydn bedair gwaith yr wythnos, ond rwy’n gwrando ar Mozart bob diwrnod… Mae Mozart wastad yn gyfareddol!’ O operâu i weithiau corawl, o goncertos i symffonïau, o sonatau i gerddoriaeth siambr, Mozart yw un o’r ychydig gyfansoddwyr mewn hanes i gyfansoddi campweithiau ym mhob genre fwy neu lai. Yn ystod ei oes fer o ryw ddeg mlynedd ar hugain, cyfansoddodd nifer aruthrol o weithiau cerddorol – caiff o leiaf 626 o weithiau eu priodoli iddo, yn cynnwys rhai o’r operâu gorau a gyfansoddwyd erioed. Felly, cyn i gynhyrchiad newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru o The Magic Flute gael ei berfformio yng Ngwanwyn 2023, beth am inni fwrw golwg dros gyfaredd y cyfansoddwr ac archwilio pam mae ei waith yn parhau i gael effaith mor barhaol ar y celfyddydau ac ar ddiwylliant poblogaidd hyd y dydd heddiw.
Mae llawer o’r operâu a gyfansoddwyd gan Mozart, yn cynnwys Don Giovannia The Marriage of Figaro, ymhlith rhai o’r operâu a berfformir yn fwyaf rheolaidd drwy’r byd. Caiff drama wefreiddiol, hiwmor ffraeth, cymeriadau y gellir uniaethu â nhw ac emosiynau pwerus eu cyfoethogi gan gerddoriaeth Mozart – cerddoriaeth a ddefnyddir yn ddeheuig i ddyfnhau emosiwn, i ddyrchafu drama trwy argoelion dramatig, ac i gynnig cipolwg i’r gynulleidfa ar feddyliau ac emosiynau’r cymeriadau. Athrylithgar.
Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNOY nodwedd sy’n diffinio cymeriadau holl operâu Mozart yw’r ffaith eu bod yn fodau dynol crwn. Mae’n llwyddo i wneud hyn trwy ddefnyddio palet harmonig sy’n newid yn gyson yn ôl y sefyllfa ddramatig a chyflwr emosiynol y cymeriadau. Mae hyn yn esgor ar operâu sy’n trosesgyn amser ac sy’n cyfleu’r cyflwr dynol gyda gonestrwydd diysgog, ond gonestrwydd sydd wastad yn llawn tosturi ac empathi tuag at ein dynoliaeth gyffredin
Ond nid cyfansoddwr operâu byd-enwog yn unig mo Mozart. Mae nifer o wneuthurwyr ffilmiau wedi defnyddio cyfansoddiadau Mozart gan eu bod o’r farn fod y cyfansoddiadau hynny’n gweddu’n berffaith i’r byd ffilmiau; ac o’r herwydd, mae Mozart ymhlith y cyfansoddwyr ffilmiau y ceir y galw mwyaf am eu gwaith. O ffilmiau rhamant i ffilmiau llawn cynnwrf, o ffilmiau bywgraffyddol i ffilmiau plant, caiff alawon anfarwol, cyfansoddiadau cynhyrfiol a gweithiau cerddorfaol angerddol Mozart eu cynnwys mewn mwy o ffilmiau a chyfresi teledu nag y meddyliech.
Er mai gwaith clasurol yw The Marriage of Figaro, mae’r opera hon hefyd wedi cael ei defnyddio sawl gwaith. Yn y ffilm wobrwyol The King’s Speech, mae’r Brenin Siôr VI yn llwyddo i gael gwared â’i atal dweud gyda chymorth cerddoriaeth opera Mozart. Yn y ffilm enwog i blant, Willy Wonka and the Chocolate Factory, mae Willy Wonka yn chwarae rhan fechan o’r Agorawd er mwyn datgloi drysau ei ffatri siocled; ac yn The Shawshank Redemption, caiff rhan o’r opera ei darlledu trwy’r carchar, gan beri i un o’r carcharorion ddweud: ‘I have no idea, to this day, what those two Italian ladies were singing about… I’d like to think they were singing about something so beautiful it can’t be expressed in words and makes your heart ache…’
Felly, os ydych yn ifanc o ran oed neu’n ifanc eich ysbryd, mae gan gerddoriaeth hyblyg, fachog ac amserol Mozart rywbeth i’w gynnig i bawb. Os hoffech brofi cyfaredd y cyfansoddwr drosoch eich hun, beth am fentro i wlad hud The Magic Flute yn ystod cynhyrchiad newydd sbon gan Opera Cenedlaethol Cymru yng Ngwanwyn 2023. Bydd y cynhyrchiad yn ymweld â Chaerdydd, Llandudno, Lerpwl, Milton Keynes, Bryste, Birmingham, Southampton a Plymouth.