Newyddion

Creu La voix humaine

19 Tachwedd 2020

Cawsom sgwrs â David Massey, sef y meistr digidol wrth wraidd perfformiad ffilm Opera Cenedlaethol Cymru, La voix humaine, ynghylch sut ddechreuodd perfformiad mor arloesol, beth oedd yr heriau a chawn glywed rhai cyfrinachau o du ôl i'r llen hefyd!

Sut ddechreuodd y syniad o greu ffilm yn seiliedig ar gynhyrchiad 5 seren WNO o La voix humaine?

Daeth o'r cysyniad o gynhyrchu opera un perfformiwr, yn canolbwyntio ar thema bynciol, sef ynysu. Cafodd La voix humaine ei grybwyll fel opsiwn yn gyflym gan fod WNO eisoes wedi gweithio arni fel cynhyrchiad safle penodol yn 2016. Roedd y darn hwn yn berffaith oherwydd bod gennym dîm creadigol yn ei le eisoes i ddechrau arni'n syth; y cyfarwyddwr David Pountney, soprano Claire Booth a'r pianydd Chris Glynn, a oedd yn gwbl gyfarwydd â'r darn, ac yn barod i fynd.

Beth oedd yn gwneud y darn hwn yn ddarn perffaith i'w addasu'n ddigidol?

Roedd y cynhyrchiad gwreiddiol yn ymgysylltu â'r gynulleidfa yn uniongyrchol, wedi'i osod fel parti mewn tŷ gyda'r gynulleidfa fel gwesteion. Gwnaethom gymryd y cysyniad hwnnw ond ei newid i L yn paratoi am barti Zoom yn hytrach, a oedd yn ein caniatáu ni i chwarae gyda themâu anghyfforddus La voix humaine, sef llygadu. Defnyddiasom gamerâu a gafodd eu gosod i efelychu camerâu gwe, camera ffonau a dyfeisiau eraill yr ydym yn dibynnu arnynt i gadw mewn cysylltiad yn ystod y pandemig hwn, fel y gallem alluogi'r gynulleidfa i ddod yn rhan o'r profiad.

Sut gafodd y darn ei ffilmio?

Gwnaethom ffilmio'r darn mewn ychydig dros ddau ddiwrnod gyda chriw o ddim ond tri ohonom yn nhŷ Claire yn Rhydychen. Roedd Chris wedi'i leoli ar y llawr gwaelod a Claire ar y llawr cyntaf yn gwisgo darn clust er mwyn iddynt allu clywed ei gilydd a gallai Chris weld Claire ar sgrin wrth iddi symud o gwmpas yr ystafell. Pan oeddwn ar y safle, treuliais y rhan fwyaf o'r amser yn yr ardd! Yn ogystal, gwnaethom weithio'n galed i greu ffordd ymarferol o recordio'r sain fel y byddai'r agwedd 'fyw' yn trosi'n dda i'r ffilm er mwyn ysgogi'r teimlad ymhlith y gynulleidfa eu bod yn gwylio'r digwyddiadau dramatig yn mynd rhagddynt mewn amser real.

Pa heriau a wyneboch?

Ein bwriad gwreiddiol oedd ffilmio o bell, wrth ynysu, heb griw yn cael unrhyw fath o gyswllt gyda Claire a Chris. Gwnaethom weithio'n agos â'n gilydd i greu llif gwaith er mwyn ffilmio'r darn, ond ar ôl creu rhai tyllau clo gydag ymbellhau'n gymdeithasol a lleoliadau pell, daeth yn glir y byddai problemau amseru yn amlygu eu hunain. Yn y pendraw, heb gyfraniad gan weithwyr proffesiynol, gwnaethom sylweddoli na fyddem yn gallu gwneud cyfiawnhad â'n fersiwn ar gyfer y prosiect. Ar ôl cyfnod hir o drafod ac arbrofi, gwnaethom benderfynu mai'r opsiwn gorau oedd aros i'r cyfyngiadau lacio ychydig a ffilmio'r darn 'yn fyw' ar leoliad gyda thîm cynhyrchu bychan iawn.

A oes gennych uchafbwynt o broses creu'r darn? Unrhyw gyfrinachau o du ôl i'r llen?

Un uchafbwynt oedd gweithio gyda thîm creadigol o'r fath, a oedd yn agored i addasu i'r nifer o heriau y gwnaethom eu hwynebu. Roedd gweithio mor agos â thîm bychan ond arbennig o ddawnus yn brofiad gwych. Roedd yn wych gwneud rhywbeth yr ydym ni i gyd yn falch ohono yn ystod y cyfnod heriol hwn i'r celfyddydau. O ran cyfrinachau y tu ôl i'r llen, clywais fod gŵr Claire wedi cael yr wythnos orau o gwsg oherwydd bod ffenestri eu hystafell wely wedi'u gorchuddio â ffoil ar gyfer ffilmio!