Rydym yn parhau â'n cipolwg ar y bobl sydd wedi cyfrannu at lwyddiant Opera Cenedlaethol Cymru dros y blynyddoedd ac wrth i'r Cwmni ddatblygu drwy'r degawdau, tyfodd yr uchelgeisiau.
Rhwng 1976 – 1985, cafodd Opera Cenedlaethol Cymru lwyddiant ar draws y byd gyda chynyrchiadau a grëwyd gan gyfarwyddwyr Ewropeaidd dynamig. Ar yr adeg hon, roedd y sefydliad yn cael ei arwain gan Richard Armstrong, (Cyfarwyddwr Cerddoriaeth); Brian McMaster (Rheolwr Gyfarwyddwr) a Nicholas Payne (Rheolydd Ariannol). Ymysg eraill, gwnaethant weithio â Peter Stein, Joachim Herz a Harry Kupfer ar repertoire yn cynnwys Verdi, Wagner, Janáček, Strauss, Berg a Britten.
O dan arweinyddiaeth Armstrong, perfformiodd y Cwmni y cylch Ring cyntaf yng Nghymru, a chyfres o bum opera gan Janáček. I gydnabod ei wasanaethau i gelf Janáček, dyfarnodd Cymdeithas Janáček y Fedal Janáček iddo yn 1978 (anrhydedd a ddyfarnwyd i Gyn-gyfarwyddwr Artistig WNO David Pountney hefyd). Mewn cyfweliad yn 2010 (â musicalcriticism.com) dywed 'Gwyddwn yn fy esgyrn pan ddechreuais arwain, y byddai Janáček ar y rhestr. Deuthum yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru yn 1973, ac un o'r pethau cyntaf a wnes, oedd trefnu Jenufa mewn '75. Dyna ddechrau ar fy arweinyddiaeth o'r cyfansoddwr.'
Jenůfa Janáček, 1975. Pauline Tinsley (Kostelnicka), Gregory Dempsey (Steva), Menai Davies (Buryja).
Ymunodd Brian McMaster â'r Cwmni yn 1976, yn dilyn tair blynedd yn English National Opera. Argymhellwyd i'r Cadeirydd, yr Arglwydd Davies o Landinam fel rhywun 'â dawn a chlust operatig'. Daeth â'i brofiad, ac angerdd tuag at gynyrchiadau theatraidd Ewropeaidd i Gaerdydd - ond nid heb helynt (roedd Don Giovanni 1984 yn gyfnod anodd iawn i'r tîm arwain). Gadawodd WNO yn 1991 i redeg Gŵyl Ryngwladol Caeredin.
Yn ystod y cyfnod hwn, arweiniodd Charles Mackerras berfformiad cyntaf y DU o The Greek Passion Martinů (yn y llun), ar ôl cael ei gyflwyno i WNO yn gyntaf gan bartner busnes Idloes Owen, Bill Smith yn 1950 i arwain The Tales of Hoffman. Roedd ei gysylltiad hirsefydlog â'r Cwmni yn cynnwys cyfnod fel Cyfarwyddwr o 1987 i 1992, lle enillodd ganmoliaeth am ei waith Janáček. Uchafbwynt nodedig yn y cyfnod hwn oedd yn 1991 ac ailagor Estates Theatre yn Prague lle arweiniodd Mackerras Don Giovanni newydd i nodi deucanmlwyddiant ers marwolaeth Mozart. Fel Arweinydd Emeritws, roedd ei lwyddiannau yn cynnwys Tristan und Isolde, The Yeomen of the Guard (y cynhyrchiad cyntaf o waith Gilbert & Sullivan i gael ei berfformio yn y Royal Opera House), a La Celemnza di Tito.
Perfformiodd Harry Kupfer yn y DU am y tro cyntaf yng nghynhyrchiad 1987 WNO o Elektra gan Richard Strauss, cynhyrchiad a rannodd y beirniaid er y canmolwyd y cast yn eang, ac roedd yn serennu'r Gerddorfa fwyaf i'r Cwmni ei defnyddio hyd at y pwynt hwn (85 o chwaraewyr). Parhaodd perthynas llafurus Kupfer â'r wasg a phegynnodd ei gynhyrchiad o Fidelio wedi'i osod mewn carchar modern farn unwaith eto, yn ôl Richard Fawkes yn ei lyfr Welsh National Opera, 'no other WNO production…caused such discussion among audiences as to what the opera actually meant'.
Rhoddodd y cyfarwyddwr opera a theatr o'r Almaen, Peter Stein, a ddygwyd i Gymru gan McMaster, y cylch Ring i ni - y cyntaf i gael ei gynhyrchu gan gwmni opera Prydeinig rhanbarthol. Mae ei gampweithiau gwych eraill yn cynnwys Falstaff a chynhyrchiad eiconig o Pelléas et Mélisande yn 1992 wedi'i arwain gan Pierre Boulez, ac yn cynnwys defaid byw. Mae aelod o staff WNO, Sally Bird yn cofio 'Pan aeth y cynhyrchiad i Ffrainc, ni fyddent yn gadael y ddafad wreiddiol Blodwen i mewn i'r wlad, felly roedd rhaid cael un yn ei lle (Twopence) ar fyr rybudd!'