Newyddion

Pobl WNO - Y gorffennol diweddar a'r presennol

17 Rhagfyr 2021

Gan gyrraedd cyfnod mwy diweddar, rydym yn cwrdd â rhai o'r bobl sydd wedi gyrru Opera Cenedlaethol Cymru ymlaen ac yn parhau i'n symud ymlaen yn yr 21ain ganrif. 

Daeth Carlo Rizzi yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yn 1992 tan 2001 (gan gymryd drosodd gan Charles Mackerras) a dychwelodd i'r rôl yn 2004 am dair blynedd arall. Mae ei ymddangosiad cyntaf yn dyddio'n ôl i 1990, a'r cynhyrchiad Giles Havergal o The Barber of Seville (y byddwn yn ei weld eto yn Hydref 2021) - a gwnaeth ymddangosiad fel rhan o'r paratoi cyn y cynhyrchiad ar y llwyfan, hyd yn oed. Yn ddiweddar, roedd Carlo yn rhan fawr o'n trioleg Verdi dros dri thymor (La forza del destinoUn ballo in maschera a Les vêpres siciliennes). Yn hen ffefryn, mae cysylltiad Carlo â Chymru, a chynulleidfaoedd WNO, mor gryf hyd nes y mae wedi dysgu Cymraeg, hyd yn oed!

Y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth rhwng 2009 – 2016 oedd Lothar Koenigs. Mae uchafbwyntiau o'i arweinyddiaeth yn cynnwys Die Meistersinger yn 2010, dan gyfarwyddyd Richard Jones gyda Bryn Terfel fel Hans Sachs, Tristan und Isolde yng Ngŵyl Caeredin yn 2012, a Moses und Aron yn 2015. Mewn cyfweliad â Steph Power ar gyfer Wales Arts Review yn 2013, eglura ei atyniad at WNO 'Rwy'n credu bod y cwmni erioed wedi bod yn apelgar ac yn adnabyddus am fod yn chwilfrydig ac anturus iawn wrth wneud pethau newydd'.

Treuliodd Simon Phillippo flwyddyn yn astudio yn y National Opera Studio yn Llundain, cyn ymuno â staff cerdd Opera Cenedlaethol Cymru, lle treuliodd 14 mlynedd fel arweinydd staff, Meistr y Corws a répétiteur. Simon oedd y Meistr y Corws i nifer o gynyrchiadau a recordiadau WNO, yn cynnwys y llwyfaniad cyntaf yn y DU o Jephtha gan Handel a'r perfformiad cyntaf yn y byd o The Sacrifice gan James MacMillan.

Daeth David Pountney yn Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig yn 2011 ac roedd yn Gyfarwyddwr Artistig (law yn llaw â'r Rheolwr Gyfarwyddwr, Leonara Thomson) rhwng 2015 – 2019. Mae cysylltiadau David ag WNO yn dyddio'n ôl i 1975, ac ymunodd â'r sefydliad yn llawn amser yn dilyn rolau yn Scottish Opera, English National Opera a Gŵyl Bregenz (a nifer o weithiau eraill a gyfarwyddwyd ganddo ar draws y byd). Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd, rhaglennodd a chyfarwyddodd gwaith heriol a dadleuol, weithiau, a pherfformiodd nifer o operâu newydd amrywiol yn cynnwys Figaro Gets a Divorce gan Elena Langer (yr ysgrifennodd y libreto ar ei chyfer hefyd) ac In Parenthesis gan Iain Bell. Efallai fod David wedi gadael ei swydd yn 2019 ond mae'n parhau i fod mewn cysylltiad agos ag WNO ac edrychwn ymlaen at ei groesawu'n ôl yn 2022 gyda pherfformiad cyntaf arall - Migrations.

Pan ymunodd Tomáš Hanus â'r Cwmni yn 2016, gwnaeth argraff yn syth gyda'i arweinyddiaeth o ail symffoni Mahler yn Neuadd Dewi Sant, y disgrifiwyd fel 'teyrnged danbaid a gwych i Mahler' gan The Guardian. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ag WNO yn arwain Die Fledermaus Der Rosenkavalier y flwyddyn ddilynol ac mae uchafbwyntiau ar ôl hynny wedi cynnwys From the House of the Dead a The Cunning Little Vixen a ddangosodd ei gysylltiad â'i gydwladwr Janáček.

Mae pobl Opera Cenedlaethol Cymru wrth galon y Cwmni, ac mae'r sefydliad yn parhau i ffynnu dan y Cyfarwyddwr Cyffredinol Aidan Lang (sydd ei hun yn Gyn-gyfarwyddwr Staff), y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Tomáš Hanus a'r Arweinydd Llawryfog Carlo Rizzi. Gydag ychwanegiad y Cymrawd Cyfarwyddo Jerwood, Gareth Chambers yn 2021, bydd llawer mwy o storiau a llwyddiannau i'w hadrodd yn y blynyddoedd i ddod.