Newyddion

Tomáš Hanus yn ymestyn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth

3 Mawrth 2020

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi bod y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, Tomáš Hanus wedi ymestyn ei gontract gyda'r Cwmni tan 2026.

Yn dilyn ei benodiad yn 2016, mae Tomáš wedi derbyn cryn ganmoliaeth am ei waith yn arwain operâu megis Der Rosenkavalier, Khovanshchina,From the House of the Dead a The Cunning Little Vixen, yn ogystal â'i arweinyddiaeth o Gerddorfa WNO mewn perfformiadau yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Dywedodd Tomáš, 'Yn dilyn pedair blynedd arbennig fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru, rwy'n falch o fod yn adnewyddu fy nghontract o 2021-26. Mae cael y cynnig i weithio i WNO am bum mlynedd arall yn fy nghaniatáu i gyflawni fy ngweledigaeth artistig ar gyfer y Cwmni. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu'r Cwmni yn ystod y blynyddoedd i ddod, a pharhau i berfformio operâu a chyngherddau o'r safon uchaf gyda'm cydweithwyr uchel eu parch.'

Dywedodd Aidan Lang, Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO, 'Rydym ar ben ein digon fod Tomáš wedi ymrwymo ei hun i Opera Cenedlaethol Cymru am y pum mlynedd nesaf. Mae galw mawr am Tomáš i arwain ledled y byd, ac mae ansawdd y gwaith rydym yn ei arddangos ar y llwyfan yn brawf o'r amser sylweddol mae Tomáš wedi'i ymrwymo i weithio gydag WNO. Rwy'n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda Tomáš i lunio tymhorau'r dyfodol.'

Mae Tomáš yn dychwelyd i Gaerdydd ym mis Ebrill ar gyfer cyngerdd terfynol y Cwmni yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol 2019/2020, ac ar gyfer ein Tymor yr Hydref 2020 i barhau â'n cyfres Janáček, i arwainJenůfa.

Cefnogir rôl Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO gan Marian a Gordon Pell