Mae cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o War and Peace gan Prokofiev, o'n Tymor y Gwanwyn 2018, yn mynd i'r Royal Opera House am ddwy noson fel rhan o'n perthynas barhaus â'r theatr yn Llundain. Rydym yn agor wythnos nesaf ar ddydd Mawrth 23 Gorffennaf, gydag ail berfformiad ar y dydd Mercher, fel rhan o'u tymor yr haf.
Gan ddefnyddio fersiwn newydd o sgôr Prokofiev, gan Katya Ermolaeva a Rita McAllister, gweithiodd y cyfarwyddwr David Pountney â chydweithwyr rheolaidd yn cynnwys Robert Innes Hopkins (a ddyluniodd ein set In Parenthesis hefyd), y dylunydd gwisgoedd Marie-Jeanne Lecca (sydd ar hyn o bryd yn gweithio gyda David ar ein trioleg Verdi) a David Haneke (a weithiodd ar y tafluniadau fideo ar gyfer The Fall of the House of Usher) ar y cynhyrchiad pum seren hwn (Opera Now, The Stage, Bachtrack) yr oedd cynulleidfaoedd wrth eu bodd ag o, hefyd.
A hwnnw'n para bron i bedair awr ac wedi'i seilio ar 1,200 a mwy o dudalennau o'r nofel gan Tolstoy, mae hwn wirioneddol yn gynhyrchiad gwych ac rydym yn hynod falch o'i gyflwyno yn yr ROH ynghyd â'r cast gwreiddiol. Mae'r rhestr rolau yn helaeth hefyd: gyda 22 o ganwyr a saith dawnsiwr yn perfformio ochr yn ochr â Chorws estynedig WNO, ac mae'r cast yn chwarae hyd at chwe rôl yr un. Yn wahanol i'r prif rolau wrth gwrs, Natasha (Lauren Michelle), Andrei (Jonathan McGovern), a Pierre (Mark Le Brocq), sy'n ymddangos trwy gydol y cynhyrchiad.
Steph Power, Opera Now, Hydref 2018…the excellent, multiple role-playing cast and chorus sing with rousing physicality. Yet their subtlety, too, is striking alongside the WNO Orchestra’s enthralling evocation of states from collective bombast to refined and sometimes acerbically witty, chamber-scored characterisation under conductor Tomáš Hanus.
Mae Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus, unwaith eto yn arwain Cerddorfa WNO ar gyfer y perfformiadau hyn, a genir yn Saesneg gydag isdeitlau i'ch galluogi chi i ddilyn beth sy'n digwydd yn rhwydd. Mae'r opera wedi'i rhannu'n ddwy ran, fel teitl y llyfr, gyda heddwch (Peace) yn cael ei bortreadu yn yr hanner cyntaf, a rhyfel (War) ar ôl yr egwyl. Yn yr ail hanner gwelwn fod yr argraffiad beirniadol newydd yn colli peth o'r gwladgarwch gorfodol yr oedd Prokofiev dan bwysau i'w gynnwys, gan ei ddychwelyd i rywbeth yn debycach i'w gysyniad gwreiddiol.
Cynhelir y cynhyrchiad ar y set hanner cylch pren o In Parenthesis (Haf 2016) a ddeuir yn fyw gan wisgoedd lliwgar â manylion coeth; gyda chysyniadoli ychwanegol gan ragolygon fideo, yn cynnwys darnau perthnasol o'r ffilm 1966 gan Sergei Bondarchuk. Mae gan War and Peace awgrymiadau gweledol o Rwsia yn y 1800au ochr yn ochr â chipolygon ar gyfnod Stalinydd y 1940au, yn adlewyrchu cyflinellau addasiad Prokofiev o nofel Tolstoy. Wedi'i greu i ddechrau cyn y rhyfel a'i ddiwygio'n orfodol yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd llawn propaganda a gwladgarwch, ar ôl goresgyniad Hitler, gyda'i adleisiau o oresgyniad Napoleonaidd y nofel.
Os fethoch chi ef ar daith y llynedd, mae ein dau ddyddiad yn Llundain yn gyfle gwych i weld yr opera hon sydd prin yn cael ei pherfformio'n llawn.