Newyddion

Cyhoeddi dyddiad ar-werth 2019/2020

21 Ionawr 2019

Rydym newydd gyhoeddi Tymor 2019/2020, a dyma bopeth y mae angen ichi ei wybod:

Dyddiadau y bydd tocynnau'n mynd ar werth:
Dydd Gwener 15 Chwefror – Gall Bartneriaid a Chyfeillion WNO archebu 
Dydd Mercher 20 Chwefror – Archebu cyffredinol ar agor ar gyfer pecynnau tanysgrifio
Dydd Gwener 1 Mawrth – Archebu cyffredinol ar agor ar gyfer yr holl docynnau

Gwybodaeth ynghylch y Tymor:

Hydref 2019
Bydd y tymor yn agor gyda chynhyrchiad newydd sbon o Carmen Bizet a fydd yn mynd ar daith yn Hydref 2019 a Gwanwyn 2020. Mae'r Cyfarwyddwr, Jo Davies (Kiss Me, Kate), yn gosod ysbryd tanbaid Carmen mewn lleoliad Lladin Americanaidd yn ei chynhyrchiad newydd sy'n dathlu cadernid menywod mewn amgylchedd gormesol. Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus sy'n arwain, gyda Leslie Travers a Gabrielle Dalton yn creu'r dyluniadau ar gyfer y set a'r gwisgoedd. Bydd y mezzo-soprano Virginie Verrez yn chwarae'r brif ran, Carmen, ar gyfer taith yr Hydref, gyda Dimitri Pittas fel Don José, Phillip Rhodes fel Escamillo ac Artist Cyswllt newydd WNO Harriet Eyley yn chwarae rhan Frasquita.

Ochr yn ochr â Carmen, byddwn yn adfywio cynhyrchiad 2010 James McDonald o Rigoletto Verdi, gyda Mark S Doss (Scarpia yn Tosca yn ddiweddar) yn y brif ran. Bydd y sopranos, Marina Monzó a Jessica Nuccio, sydd wedi cael cydnabyddiaeth ar raddfa ryngwladol, yn rhannu rhan Gilda, a'r tenor ifanc David Junghoon Kim yn canu rhan y Dug.

Bydd Hydref 2019 hefyd yn ein gweld yn adfywio cynhyrchiad David Pountney o The Cunning Little Vixen Janáček, a berfformiwyd ddiwethaf yn 2013, dan arweinyddiaeth Tomáš Hanus. Mae Aoife Miskelly yn dychwelyd i WNO fel y Llwynoges, gyda Claudio Otelli (Coedwigwr), Wojtek Gierlach (Person) a Lucia Cervoni (Llwynog) hefyd yn dychwelyd i'r Cwmni.

Gwanwyn 2020
Yn agor Tymor y Gwanwyn mae cynhyrchiad newydd o Les vêpres siciliennes; y bennod olaf yn ein trioleg Verdi. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo gan David Pountney a'i arwain gan Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi (nid ym mhob lleoliad - gweler yr amserlen am fanylion). Mae'r cast yn cynnwys Anush Hovhannisyan fel Hélène, gyda Giorgio Caoduro yn dychwelyd i WNO fel Guy De Montfort, yn dilyn canmoliaeth ddiweddar fel Dandini yn La Cenerentola. Mae Jung Soo Yun yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda'r Cwmni fel Henri.

I gwblhau Tymor y Gwanwyn, byddwn yn adfywio cynhyrchiad 2016 o The Marriage of Figaro, a gyfarwyddwyd yn wreiddiol gan Tobias Richter ac sy'n cynnwys setiau a ddyluniwyd gan y dylunydd llwyfan enwog, y diweddar Ralph Koltai, a gwisgoedd gan Sue Blane. Bydd Cyfarwyddwr Llawryfog WNO Carlo Rizzi yn arwain perfformiadau tan 13 Mawrth a bydd arweinydd gwadd yn cymryd yr awenau i orffen y daith. Bydd David Ireland yn canu rhan y barbwr cymdeithasgar Figaro gyda Soraya Mafi fel Susanna a Jonathan McGovern (André yn War and Peace yn ddiweddar) fel y merchetwr lliwgar, Iarll Almaviva.

Cyflwynir y cynyrchiadau hyn ochr yn ochr â pherfformiadau pellach o Carmen gyda Julia Mintzer yn chwarae'r brif ran.

Bydd tocynnau ar gael yn eich lleoliad dewisol, drwy fynd yno, dros y ffôn neu arlein