Newyddion

Beth yw Realaeth Estynedig?

19 Mehefin 2018

Realaeth Estynedig: Technoleg sy’n rhagflaenu delwedd wedi’i greu gan gyfrifiadur ar weledigaeth defnyddiwr o’r byd go iawn, ac felly yn darparu gweledigaeth gyfansawdd.

Yr haf hwn bydd WNO yn cyflwyno ein prosiect digidol newydd ar gyfer Rhondda Rebel, 2018.

Daw Rhondda Rebel â’r swffragét Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Rhondda), arwres cynhyrchiad yr haf, Rhondda Rips It Up!, yn ôl yn fyw drwy gyfuno Realaeth Estynedig â pherfformiad a cherddoriaeth i greu profiad newydd, cyffrous.

Ond beth yw Realaeth Estynedig (RE)?

Mae’n dechnoleg sy’n rhagflaenu delwedd wedi’i greu gan gyfrifiadur ar weledigaeth y defnyddiwr o’r byd go iawn. Yn Rhondda Rebel bydd cynulleidfaoedd yn mynd ar daith gan ddefnyddio cyfuniad o dechnoleg ddigidol ac actorion byw. Rydym wedi dewis ail-greu’r foment y byddai Arglwyddes Rhondda wedi’i phrofi a’i dedfrydu am ffrwydro blwch post yng Nghasnewydd.

Lansir y prosiect yn Nhŷ Sesiwn, Brynbuga o’r 22 – 24 Mehefin, ble byddwn yn cyfuno technoleg sy’n bod eisoes a thechnoleg newydd i ganfod ffordd newydd o roi bywyd i opera a theatr.

Yr hyn sy’n unigryw ynghylch RE yw y gallwch ryngweithio gydag amgylchedd fyw, yn ogystal â defnyddio elfennau digidol i greu ymgnawdoliad a welir drwy iPad, sef yn yr achos hwn yr Arglwyddes Rhondda.

 Wedi llwyddiant ein prosiect rhithwir Magic Butterfly yn 2017, rydym yn awyddus i gynnig profiad digidol newydd i gynulleidfaoedd gael cynnig arno, sy’n dal i fod yn berthnasol i’r prif waith yr ydym yn ei gynhyrchu’r haf hwn yn WNO.

Hyd perfformiad bob sesiwn yw 10 munud a gall 4 unigolyn gymryd rhan yn y gweithgaredd ar unrhyw adeg. Gallwch archebu eich tocynnau ar ein gwefan, a gofynnwn i chi gyrraedd 5 munud cyn eich amser.

Byddwn hefyd yn cynnig nifer prin o seddi sydd â golwg gyfyngedig ar y diwrnod ond gwneir hyn ar sail y cyntaf i’r felin.

Yna, bydd Rhondda Rebel yn symud i Gwrt Insole ac Adeilad Pierhead yng Nghaerdydd cyn parhau ymhellach ar daith.

Am ragor o wybodaeth ynghylch lle gallwch weld Rhondda Rebel ac i archebu eich lle ar gyfer y profiad hwn sy’n rhad ac am ddim, ewch i’n tudalen ddigwyddiadau.