Mae’r term Eidaleg, opera buffa (opera gomig) yn un sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio opera gomig neu ddoniol. Mae cymeriadau comig wedi ymddangos mewn operâu ers dechrau’r 18fed ganrif, ac roeddynt fel arfer yn olygfeydd operatig byr, fel arfer mewn un act, wedi’u perfformio rhwng actau’r brif opera. Y cyfansoddwyr Eidaleg cyntaf i ddefnyddio’r genre oedd Alessandro Scarlatti yn 1718 a Nicola Logroscino yn 1747. Fodd bynnag, yn ddiweddarach, roedd cyfansoddwyr mwy adnabyddus, fel Verdi, yn defnyddio elfennau o opera buffa, fel yn ei ddarn Falstaff yn 1893.
Mae’r term opera buffa yn gyferbyniad i opera seria, neu opera ‘ddwys’. Gallai opera seria gynnwys ambell i olygfa gomig, ond gydag arwyr a duwiau’r henfyd, ac yn cynnwys tair prif act yn mynd i’r afael â phynciau chwedlonol, mwy dwys. I wahaniaethu rhwng hyn, roedd opera buffa fel arfer yn cynnwys dwy brif act, gyda defnydd amlwg o themâu comig, ac roedd plotiau’n cael eu gosod mewn lleoliadau llawer mwy cyfoes.
Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd, bu cwymp ym mhoblogrwydd opera buffa, er gwaethaf y ffaith bod nifer o operâu doniol yn cael eu cyfansoddi ar y pryd. Ac un ohonynt yw’r enwog The Barber of Seville gan Rossini, sy’n llawn comedi, yn seiliedig ar ei ffraethineb siarp, triciau a direidi. Mae’n cael ei hadnabod fel un o ddarnau comig cerddorol gorau opera, wedi’i disgrifio fel yr ‘opera buffa fwyaf buffa'.
Wedi’i hysbyrdoli gan opera buffa, bwriad campwaith Rossini oedd cynnig adloniant i bobl gyffredin, gan fod opera’n aml yn cael ei dehongli fel rhywbeth tywyll neu’n gysylltiedig â marwolaeth, gyda storiau a fyddai ond yn apelio at bobl elît. Mae’r iaith mewn opera buffa fel arfer yn syml, er mwyn iddi fod yn hawdd ei deall gan gynulleidfaoedd amrywiol, ac mae fel arfer yn cynnwys thema eang gyda chomedi ysgafn. Mae Don Pasquale gan Donizetti’n enghraifft eithriadol arall o opera gomig a chafodd ei chyfansoddi yn ystod y cyfnod Rhamantaidd. Wedi’i pherfformio gan Opera Cenedlaethol Cymru yn ystod sawl Tymor, yn fwy diweddar yng nghynhyrchiad doniol Daisy Evans, wedi’i lleoli mewn fan kebab yng Nghaerdydd, mae’n opera fywiog a hwyliog gyda sain offerynnau taro a phres yn amlwg yn y gerddorfa, sy’n cyfrannu at effaith llon y perfformiad.
Gallwn hefyd gysylltu’r term ag un o gynyrchiadau blaenorol eraill WNO, La Cenerentola gan Rossini. Cyfansoddodd y cyfansoddwr Eidaleg yr opera yn dilyn llwyddiant The Barber of Seville flwyddyn yn gynharach, ac mae wedi’i seilio ar stori dylwyth teg boblogaidd Cinderella. Mae ei fersiwn ef o stori glasurol Cinderella’n cynnwys cerddoriaeth sy’n llawn hiwmor craff, comedi ysgafn ac alawon pigog i gyfleu hwyl opera buffa. Gallwn hefyd weld hyn drwy ddefnydd aml o coloraturas (canu dros ben llestri) yn yr alawon, tra bod staccato (pob nodyn yn siarp ac yn unigol) yn y gerddoriaeth yn awgrymu bywiogrwydd a hiwmor yn yr opera.
Mae WNO hefyd wedi perfformio The Marriage of Figaro gan Mozart, opera gomig adnabyddus arall, wedi’i disgrifio gan gylchgrawn Newyddion y BBC yn 2017 fel ‘un o gampweithiau aruthrol opera gomig, y mae ei synnwyr cyfoethog o ddynoliaeth yn disgleirio o sgôr wyrthiol Mozart'. Mae Mozart ei hun yn defnyddio cyffyrddiadau cerddorol cofiadwy i gyfleu'r hiwmor hwn, gydag agorawd ragarweiniol yr opera yn gosod naws ddireidus gyda'i presto tempo yn nodi prysurdeb a chyflymder y darn, tra bod yr ysgrifennu cerddorfaol prysur yn awgrymu ymdeimlad cyffrous o sibrwd, sy'n ddiddorol iawn i'r gynulleidfa. Mae The Marriage of Figaro yn llawn ffraethineb, comedi, chwilfrydedd, camddealltwriaeth a maddeuant, ac mae Mozart yn cyflwyno'r hyn a ystyrir i fod yn un o'r operâu gorau erioed.