Newyddion

Cyngerdd i’r Teulu WNO yn teithio i Birmingham

23 Mai 2018

Yr haf hwn mae WNO yn teithio i Birmingham ar gyfer y perfformiad diweddaraf o’n Cyngerdd i’r Teulu poblogaidd. Yn dilyn llwyddiant ysgubol yn Southampton a Chaerdydd, rydym yn teithio’n bellach i’r gogledd i Town Hall, Birmingham ar ddydd Sul 24 Mehefin.

Mae’r Cyngerdd i’r Teulu yn ffordd berffaith o gyflwyno’r teulu cyfan i gerddoriaeth gerddorfaol drwy raglen o ffefrynnau poblogaidd o’r byd opera, ffilm a theledu. Bydd ein cyflwynydd Wynne Evans a’n hunawdwyr yn eich arwain drwy’r prynhawn gan gynnig gwybodaeth am gefndir y gerddoriaeth a’r operâu yn ogystal â chyflwyno aelodau ac adrannau gwahanol o’r Gerddorfa.

Mae gan ein tri unawdwyr gysylltiadau hirsefydlog ag WNO. Ymddangosodd Samantha Hay fel The Queen of the Night yn The Magic Flute ac fel Frasquita yn Carmen, ac mae hi’n gyfrannwr rheolaidd yn ein cyngherddau i’r Teulu ac Ysgolion; Yn fwy diweddar, perfformiodd James Cleverton yn Die Fledermaus; Fra Fee, ac  yn ddiweddar enillodd wobr Whatonstage am yr Actor Cefnogol Gorau yn y cynhyrchiad West End o The Ferryman, ac fe berfformiodd am y tro cyntaf ag WNO fel rhan o’r grŵp Opera Ieuenctid. Mae’r Arweinydd Timothy Burke wedi arwain Cerddorfa WNO ar sawl achlysur mewn cyngherddau yn ogystal â pherfformiadau o Tosca yn ein Tymor y Gwanwyn diweddar.

Cyn i’r adloniant ddechrau y tu mewn i’r neuadd gyngerdd, mae gennym hefyd gyfres o weithgareddau yn seiliedig ar thema yn cael eu cynnal yn rhad ac am ddim yng nghynteddau’r theatr. Byddwn yn dangos ichi beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn cwmni opera, gyda chyflwyniad i’r gwisgoedd, wigiau a’r colur. Bydd cyfle i chwarae rhai o’r offerynnau, cyfarfod â’r chwaraewyr a rhoi cynnig ar gystadlaethau i ennill gwobrau.

Mae’r cyngerdd yn gyfle hwyliog ac anffurfiol i brofi cerddorfa fyw a chlywed rhai o’r darnau cerddoriaeth sydd fwyaf cyfarwydd o’r byd opera a’r byd o gerddoriaeth clasurol. Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, dyma beth oedd gan gynulleidfaoedd ein Cyngherddau i’r Teulu yn y gorffennol i’w ddweud:


Diwrnod allan gwych gyda’n plant ifanc. Maent wedi bod yn canu’r holl ffordd adref. 

Roedd y rhyngweithio gyda’r plant a’r gynulleidfa yn wych. Fel teulu fe wnaethom fwynhau’n arw, diolch i bawb a da iawn!

 Yn well na’r disgwyl, ac fe wnaeth fy merch fwynhau cymaint ag y gwnes i.