Newyddion

Cerddorfa WNO yn y Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol

14 Hydref 2019

Ar ddydd Sul 27 Hydref, bydd Cerddorfa WNO yn dychwelyd i'r Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar gyfer ein cyngerdd cyntaf yn y gyfres eleni. Mae'r cyngerdd prynhawn yn cynnwys Concerto Dvořák i'r Soddgrwth, yn ogystal â Má Vlast: Vltava gan Smetana a La Mer gan Debussy. Bydd yr unawdydd, Daniel Müller-Schott, yn ymuno â'r gerddorfa, a Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, fydd yn arwain.

Ysgrifennwyd y Concerto i'r Soddgrwth, sy'n cael ei ystyried yn un o'r darnau gorau ar gyfer yr offeryn, tra'r oedd Dvořák yn Gyfarwyddwr y National Conservatory yn Efrog Newydd rhwng mis Tachwedd 1894 a mis Chwefror 1895. Yn wreiddiol, cyfansoddodd Dvořák y darn ar gyfer ei gyfaill, Hanuš Wihan, canwr soddgrwth Tsiecaidd enwog, ond nid ef oedd y cyntaf i'w berfformio wedi'r cyfan. Yn hytrach, fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf yn Llundain ym mis Mawrth 1896, gyda Dvořák yn arwain.

Mae rhannau o gân Dvořák, Leave Me Alone, wedi'u cynnwys yn yr ail symudiad, gan ei fod wedi dysgu bod ei gyn-gariad, Josefina (a ddaeth yn chwaer yng nghyfraith iddo yn ddiweddarach), yn ddifrifol wael, ac roedd yn un o'i hoff ganeuon. Bu Josefina farw y mis Mai dilynol, ac wedi hynny ailweithiodd Dvořák ddiwedd y Concerto, gan ymgorffori rhagor o'r gân. Mewn gwirionedd, hwn oedd ei ail concerto i'r soddgrwth. Ysgrifennodd y cyntaf pan oedd yn ei ugeiniau cynnar, ond ni chafodd ei drefnu ar gyfer cerddorfa.

Llwyddodd Dvořák i oresgyn yr her o sicrhau cydbwysedd rhwng y gerddorfa a'r soddgrwth unawd drwy roi'r cyfle i'r ddau ohonynt gael rhan amlwg. Mae'r darn hwn, sy'n llawn emosiwn, hefyd yn enwog am ei adrannau hyfryd i'r corn. Ysgrifennodd Steven Isserlis, y canwr soddgrwth enwog o Brydain, y canlynol am y concerto: "Mae grym ei daith emosiynol, a fynegir â'r symlrwydd a gonestrwydd gwerinol sy'n nodweddiadol o Dvořák, yn cynnig cymysgedd hudolus o'r epig a'r cyffesol emosiynol". 

Dywedodd Rosie Biss, Prif Chwaraewr Adran Soddgrwth WNO, a fyddai'n gwrando ar dâp o Rostropovich yn chwarae'r darn pan fyddai'n mynd ar deithiau hir yn y car yn ystod ei phlentyndod: 'Mae'r concerto wedi'i sgorio'n hyfryd fel bod modd clywed y soddgrwth drwy gydol yr amser'. Fe gafodd un o chwaraewyr soddgrwth WNO, Alexandra Robinson, weld Rostropovich yn chwarae'r Concerto i'r Soddgrwth pan oedd yn ferch ifanc, ac fe gafodd ei swyno. Roedd yn eistedd yn weddol agos ato ac roedd ei gorffolaeth yn drawiadol; y presenoldeb aruthrol fawr hwn dros y soddgrwth yn cynhyrchu cerddoriaeth benigamp - neu dyna'r argraff a roddodd i'r ferch 10 mlwydd oed!

Bu'r canwr soddgrwth o'r Almaen, Daniel Müller-Schott, yn astudio am gyfnod gyda Steven Isserlis. Fe gafodd hefyd flwyddyn o hyfforddiant gan y canwr soddgrwth o fri, Mstislav Rostropovich. Mae'n canu soddgrwth sy'n dyddio o 1727, un o rai Matteo Goffriller o Fenis. Mae Goffriller yn cael ei ystyried yn dad yr ysgol Fenisaidd o wneuthurwyr ac mae ei soddgrythau wedi'u haddurno â farnais browngoch, fel sy'n nodweddiadol o offerynnau Fenis bryd hynny. Mae Daniel wedi chwarae'r concerto enwog yn flaenorol gyda cherddorfeydd ym mhob cwr o'r byd, ac wedi cael canmoliaeth gan y beirniaid:


Müller-Schott was clearly the poet, playing so soulfully he added new depths to Dvořák’s heartfelt adieu to his first love. The first movement ached with agony and ecstasy, and Müller-Schott’s songlike phrasing enhanced the mood swings as well as the long stretch of solace in the Adagio. As the concerto neared its tumultuous end, his performance became spellbinding.

Chicago Tribune

Bydd y prynhawn yn mynd â chi ar daith farddonol drwy dor-calon a hiraeth, fel taith Dvořák pan oedd yn ysgrifennu ei concerto, tra bydd thema forol i hanner cyntaf y cyngerdd, gyda Vltava gan Smetana a La Mer gan Debussy.