I'r rhai sy'n anghyfarwydd, mae National Opera Studio yn rhan hanfodol a phwysig o opera. Yr hyn sy'n arbennig amdanynt yw eu hymroddiad at ddod o hyd i ddawn newydd, ffres. Mae eu Rhaglen Artistiaid Ifanc ar gyfer cantorion a hyfforddwyr opera o ledled y byd yn arbennig, a'r hyn sydd orau yw bod yr hyfforddiant am ddim ac yn agored i bawb.
Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â'r rhaglen arbennig hon drwy gynnig cyfnodau preswyl yn ein cartref yng Nghaerdydd. Maent yn gweithio ochr yn ochr â'n timau ar gyfer ein sioeau byw ac yn dysgu amrywiaeth o sgiliau wedi eu teilwra yn ôl eu hanghenion unigol.
Mae'r llwyddiant sy'n cael ei greu gan NOS yn amlwg, yn enwedig yma yn y WNO. Roedd Jake Muffet yn rhan o NOS yn ystod 2018/2019, ac mae'n ddirprwy actor ar gyfer rhan Figaro yn The Marriage of Figaro yn ein tymor nesaf. Mewn tynged hyfryd bydd Jake yn dirprwyo rhan David Ireland a oedd yn rhan o raglen NOS yn 2016/2017. Roedd Frederick Brown, sy'n arwain nifer o berfformiadau The Marriage of Figaro hefyd gyn-fyfyriwr yn 2016/2017.
Rhannodd Jake, bariton o Swydd Lincoln, ei brofiad o fod yn Artist Ifanc â ni:
Roedd cyfnod preswyl National Opera Studio ag Opera Cenedlaethol Cymru yn rhan unigryw o'm hyfforddiant proffesiynol. Mae'n fraint brin i allu perfformio ochr yn ochr â cherddorfa o safon mor uchel dan arweiniad arweinwyr a chyfarwyddwyr o'r radd flaenaf. Roedd yn amlwg i mi fod WNO yn gwmni gofalgar ac roedd ei staff yn hynod sylwgar a chefnogol yn ystod y cyfnod preswyl. Roeddwn yn ffodus iawn o dderbyn swydd gyda WNO yn syth ar ôl fy amser yn y Stiwdio a'r cyfnod preswyl hwn, ac rwyf ar bigau i ddychwelyd.
Bydd dau ar bymtheg o gantorion rhagorol a hyfforddwyr y National Opera Studio yn dychwelyd i Theatr Donald Gordon fel rhan o'u cyfnod preswyl blynyddol gyda WNO ar gyfer cynhyrchiad wedi'i lled-llwyfan o olygfeydd opera, wedi eu cyfarwyddo gan Emma Jenkins. Bydd cerddorfa byd enwog WNO yn cyfeilio, dan arweiniad Sian Edwards.
Felly dewch yn llu a byddwch yn barod i gael eich hudo.