Newyddion

Young Reviewers attend the opera in Llandudno

2 Mai 2019

Ar gyfer wythnos olaf ond un ein Tymor y Gwanwyn 2019, aethom draw i Venue Cymru yn Llandudno lle cawsom gwmni grŵp o egin ysgrifenwyr ifanc.

Mae Venue Cymru wedi bod yn cynnal grŵp Beirniaid Ifanc ers sawl blwyddyn, a gwahoddir y cyfranogwyr i ddod draw i adolygu cynyrchiadau yn y lleoliad (a'i chwaer-leoliad, Theatr Colwyn) sydd yna'n cael eu cyhoeddi ar safle blog pwrpasol y theatr yn ogystal ag ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae aelodau Beirniad Ifanc rhwng 17 a 29 oed, wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru a'r cyffiniau ac wedi gwneud cais i gymryd rhan yn y cynllun er mwyn mireinio eu sgiliau ysgrifennu ac ennill profiadau a fydd o gymorth iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Yn flaenorol, mae'r Beirniaid Ifanc wedi adolygu La Cenerentola a Tosca, ac roedd eu harsylwadau yn cynnwys:

O ystyried y daw'r stori o Sinderela, chwedl y bydd y rhan fwyaf o gynulleidfaoedd eisoes yn gyfarwydd â hi, yn ôl pob tebyg yr opera hon yw un o'r rhai mwyaf hygyrch i bobl fel finnau nad ydynt yn gyfarwydd ag opera ac a fyddai'n betrusgar am fynychu. Fodd bynnag, gyda newidiadau bach i'r plot, mae'n bosibl y byddai ymwelwyr cyson â'r theatr ac opera sydd eisiau gweld rhywbeth gwahanol yn ei mwynhau.

Lydia ar La Cenerentola

Ymgorfforiad o burdeb yw Angelina/Sinderela, wastad yn wylaidd ac yn cael ei hisraddio gan ei theulu awdurdodol. Ymgymera Tara Erraught â'r dasg hon gyda gosgeiddrwydd a llais annwyl sy'n gallu deffro'r emosiynau tosturiol y mae ei chymeriad yn eu cyfiawnhau.

Aaron ar La Cenerentola

Yn gyffredinol, fel nodir yn yr adolygiad hwn, cefais fy ysbrydoli, cyfareddu, diddori, llwyrfeddiannu, syfrdanu, a'm gadael yn ddi-eiriau'n llwyr ac ag ias gan y cynhyrchiad hwn gan Tosca, a chefais brofiad o'r uchod i gyd a mwy, roedd yn brofiad gwych ac rwy'n falch yr es i'w weld. Prin oedd lle am unrhyw feirniadaeth, yn amlwg mae Opera Cenedlaethol Cymru yn hen law arni ac yn cynhyrchu theatr o'r ansawdd orau yn unig. Yn sicr, mae'r opera hon yn werth ei gweld, fel y mae popeth arall a wnânt, manteisiwch ar unrhyw gyfle i'w gweld.

Scott ar Tosca

Eleni, daeth y bobl ifanc i weld The Magic Flute gan Mozart a chawsant groeso gan Gydlynydd Ieuenctid a Chymuned Gogledd Cymru WNO, Morgana Warren-Jones, a rhoddwyd cyflwyniad arbennig i'r darn iddynt, ymlaen llaw, gan Ddramaturg WNO, Elin Jones. I'r rheiny nad ydynt wedi gweld yr opera o'r blaen, rhodda hyn ddealltwriaeth well iddynt o'r hyn y maent ar fin gweld.

Edrychwn ymlaen at gael darllen eu safbwyntiau am y cynhyrchiad.

Os oes gennych ddiddordeb dod yn Feirniad Ifanc, cewch ragor o wybodaeth yma ac efallai y byddwch chi yn adolygu ein Tymor yr Hydref 2019.