Beca Davies
Trosolwg
Mezzo-soprano o Orllewin Cymru yw Beca Davies, ac mae’n Artist Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru 2023/2024. Mae’n un o raddedigion y Royal Conservatoire of Scotland, lle’r oedd yn ysgolhaig Sheila Osborne. Cyn hynny, graddiodd Beca gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Cerddoriaeth o King’sCollege London.
Mae Beca wedi canu gyda RoyalScottish National Orchestra(Götterdämmerung, Gŵyl Ryngwladol Caeredin) a Cherddorfa WNO (Tosca, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen). Mae ei pherfformiadau eraill yn cynnwys LolaCavalleriarusticana(Edinburgh Studio Opera), CherubinoLe nozzedi Figaroa Bridget Booth The Cruciblegan Robert Ward (Berlin Opera Academy).
Mae ei pherfformiadau diweddar yn cynnwys HanselHanselandGretel (dirprwy, Opera Canolbarth Cymru); Meinir Cyfrinach y Brenin gan Mared Emlyn (perfformiad cyntaf y byd, OPRA Cymru); Miss Bourne/Julia Price The Ghost Train gan Paul Crabtree (perfformiad cyntaf y DU, Gŵyl Ryngwladol Sant Magnus); y brif rôl yn Helena gan MarcoGalvani (perfformiad cyntaf y byd, Gŵyl Tête-à-Tête).
Perfformiadau WNOy dyfodol: Ensemble Ainadamar; Menyw Cardotyn Death in Venice, Ail Conversa/Lleian Leyg/Menyw Cardotyn Il trittico, unawdydd yn Chwarae Opera YN FYW a chyngherddau Gala Opera.