Drwy gydol 2024, cafodd WNO gyfle i gyflwyno profiadau gwych gerbron cynulleidfaoedd, ar y llwyfan ac oddi arno, yn cynnwys cynyrchiadau newydd gwobrwyol, cyngherddau cyfareddol a gwaith pwysig gyda chymunedau. Er i’r cwmni wynebu anawsterau, cafodd WNO flwyddyn sydd wir yn werth ei dathlu, felly ymunwch â ni wrth inni fyfyrio ar ein huchafbwyntiau, ar y llwyfan ac oddi arno.
Yn Nhymor y Gwanwyn 2024, gwelwyd y perfformiad cyntaf yng Nghymru o Death in Venice gan Britten ynghyd â chynhyrchiad newydd o Cosi fan tutte gan Mozart, a leolwyd mewn ysgol. Bu’r ddwy opera hyn yn llwyddiant ysgubol. Yn wir, enillodd Death in Venice Wobr Sky Arts ar gyfer Opera, gan gyfareddu cynulleidfaoedd yng Nghymru a Lloegr gyda champau acrobatig.
Disgleiriodd Tymor yr Hydref 2024 gyda thrysorau o blith operâu Eidalaidd. Llwyddodd cynhyrchiad Adele Thomas, ein Cyfarwyddwr Cyffredinol a’n Prif Swyddog Gweithredol cyn bo hir, i gynnig gwedd newydd ar Rigoletto, sef y clasur tragwyddol gan Verdi; a hefyd, perfformiwyd y tair opera sy’n rhan o Il trittico gan Puccini, y naill ar ôl y llall, ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru – rhywbeth na welir mohono yn aml iawn.
Eleni hefyd, cynigiwyd arlwy cerddorfaol gwych. Ym mis Ionawr, llwyddodd ein cyngerdd Dathliad Fiennaidd i gychwyn 2024 mewn steil gyda repertoire yn llawn waltsiau, polcas a chlasuron a berfformiwyd gan Gerddorfa WNO. Wrth i bethau boethi yn ystod yr haf, cafodd cynulleidfaoedd yng Nghymru a Lloegr eu tywys gan Gerddorfa WNO ar daith gerddorol trwy dapestri cerddorol cyfoethog Canol Ewrop gyda Croesi Ffiniau. Hefyd, gwelwyd Nicky Spence (Tenor a seren ein cynhyrchiad o Peter Grimes, a lwyfannir cyn bo hir) a Carlo Rizzi (Arweinydd Laureate WNO) mewn cyngerdd gyda Cherddorfa WNO yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Llwyddodd Corws WNO i gychwyn tymor y Nadolig mewn steil trwy ymuno â chantorion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gyflwyno dathliad Nadoligaidd yng Nghapel y Tabernacl gyda Corws y Nadolig.
Yn ogystal â hyn, eleni gwelwyd Perfformiad Theatr Ieuenctid Seligman o The Very Last Green Thing | Soloman’s Ring, lle cafodd cantorion ifanc 10-18 oed gyfle i berfformio o flaen cynulleidfa o 500 o bobl yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru.
Oddi ar y llwyfan, fe wnaethom barhau i weithio gyda chymunedau ar amrywiaeth o brosiectau – yn cynnwys Dysgu gyda WNO, sy’n cyflwyno plant cynradd yn Ne Cymru i opera a chanu; Lles gyda WNO, ein rhaglen anadlu a chanu a gyflwynir mewn partneriaeth â saith bwrdd iechyd Cymru; ac Opera Tutti, sef cyngerdd amlsynnwyr trochol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.
Yn olaf, buom yn ddigon lwcus i ennill tri o Artistiaid Cyswllt newydd yn sgil ein rhaglenni meithrin talent, gan roi cyfle i raddedigion diweddar feithrin eu sgiliau perfformio a datblygu eu gyrfa. Hefyd, cynigiodd ein Sioe Arddangos National Opera Studio raglen hyfforddi ddwys a phwrpasol ar gyfer caboli talent operatig y genhedlaeth nesaf.
Wrth inni nesáu at 2025, beth am gynnwys WNO yn un o’ch addewidion blwyddyn newydd? Bydd 2025 yn dechrau mewn steil, ac ymddengys y bydd yn flwyddyn arall o ddathlu, yn cynnwys ein cynhyrchiad newydd anhygoel o Peter Grimes gan Britten a chynhyrchiad cyfnod o’r hen ffefryn, The Marriage of Figaro.