Carlo Rizzi a Nicky Spence gyda Cherddorfa WNO
,Trosolwg
Bernstein Agorawd Candide
BarberKnoxville, Summer of 1915 Opus 24
Schubert Symffoni Rhif Naw 'The Great'
Yma, bydd Carlo Rizzi, un o arweinyddion operatig mwyaf blaenllaw'r byd ac Arweinydd Llawryfog WNO, yn dod ynghyd â Nicky Spence (The Makropulos Affair, Peter Grimes), un o’n tenoriaid ifanc disgleiriaf sy’n “cyfuno tôn arwrol a thynerwch teimlad awenog a fydd yn eich rhyfeddu” (The Times) a cherddorfa genedlaethol ond byd-enwog, sef Cerddorfa WNO.
Dyma gyngerdd bythgofiadwy lle cyflwynir straeon drwy gerddoriaeth, a fydd yn cynnwys Agorawd Candide o'r opereta fywiog gan Leonard Bernstein, cyfansoddwr Americanaidd gorau’r ugeinfed ganrif, o bosib; Summer of 1915 gan Knoxville, a fydd yn arddangos doniau’r unawdydd Nicky Spence; a Nawfed Symffoni gelfydd Schubert, neu ‘The Great’ fel y mae’n cael ei hadnabod.
Defnyddiol i wybod
Tua un awr a 50 munud, gan gynnwys un egwyl