Datganiad Artistiaid Cyswllt WNO Digwyddiad codi arian
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Ymunwch ag Opera Cenedlaethol Cymru am ddatganiad o gerddoriaeth leisiol hyfryd yn cynnwys Artistiaid Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru, Erin Rossington, Eiry Price a William Stevens, gydag un o ffefrynnau WNO a fu hefyd yn Artist Cyswllt gyda WNO, Rebecca Evans, yn westai arbennig.
Mae rhaglen Artistiaid Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru yn rhan ganolog o waith WNO. Mae’n darparu cyfleoedd mentora proffesiynol a pherfformio sy'n aml yn sbarduno gyrfa ryngwladol yn y dyfodol.
Mae pecyn VIP ar gael sy’n cynnwys derbyniad siampên yng nghartref un o roddwyr WNO Martyn Ryan cyn y cyngerdd, a swper ar ôl y cyngerdd yn The Greyhound, Kew Green. Mae’r ddau o fewn pellter cerdded i’r eglwys.
Bydd y pecyn arbennig hwn ar gael i nifer benodol yn unig. Cost y pecyn yw £150, gyda £100 o hwnnw yn rhodd i WNO. Neu, gallwch fynychu'r datganiad yn unig am ddim neu brynu pecyn lletygarwch.
Er mwyn archebu pecyn VIP neu lletygarwch, cysylltwch â rsvp@wno.org.uk neu ffoniwch 02920 635058.
Defnyddiol i wybod
oddeutu un awr