Braich hir Imperialaeth Trafodaethau Madam Butterfly
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Mae WNO yn cymryd stori Cio-Cio-San fel ysbrydoliaeth ar gyfer cyfres o sgyrsiau digidol yn ystyried ystod eang o bynciau rydym yn dal i fynd i’r afael â nhw yn yr 21ain Ganrif
Cafodd Madam Butterfly ei pherfformio gyntaf pan oedd yr Ymerodraeth Brydeinig ar ei hanterth. Mae nifer o lyfrau ynghylch yr Ymerodraeth a’i heffaith barhaus yn dal i gael eu cyhoeddi heddiw, fodd bynnag, i rai, dim ond yn ddiweddar rydym wedi dechrau ymchwilio'n annibynnol i rôl ac effaith Prydain yn y byd yn sgil 'Mae Bywydau Du o Bwys'. Faint ohonom, mewn gwirionedd, sydd wedi elwa o addysg ffurfiol ynghylch yr Ymerodraeth Brydeinig?
Yn y drafodaeth hon, rydym yn ystyried sut mae’r DU yn dal i gael ei llywio gan ei gorffennol, a pha storiâu o’r Ymerodraeth sy’n wybodaeth gyffredin ac wedi cael eu hadlewyrchu ar ein llwyfannau ac o bersbectif bwy. A oes rhai hanesion y mae angen iddynt ddod i'r amlwg o hyd a chael eu rhannu?
Yn ymuno â’n cyflwynydd Priyavada Gopal, Athro mewn Astudiaethau Ôl-drefedigaethol, Prifysgol Caergrawnt bydd: Dr Robert Fokkens, cyfansoddwr o Dde Affrica; Shreya Sen-Handley, newyddiadurwraig, awdur a libretydd wedi’i geni yn India; Dr Edson Burton, awdur, bardd ac academydd.
Defnyddiol i wybod
Bydd trafodaethau’n para tua un awr
Bydd digwyddiadau byw’n cael eu cynnal dros Zoom - bydd cyfarwyddiadau ymuno’n cael eu hanfon ar ôl ichi gofrestru