Mae ein Tymor y Gwanwyn 2019 yn gweld adfywiad cyntaf ein cynhyrchiad clodwiw o opera Donizetti, Roberto Devereux.
Wedi ei osod yn Lloegr oes Elisabeth, 1601 ac yn seiliedig ar drasiedi Ffrengig pwerus, Elisabeth d’Angleterre gan Jacques-Arsene-Francois Ancelot, mae Roberto Devereux Donizetti ymhlith rhai o lwyddiannau gorau’r cyfansoddwr. Mae Roberto Devereux, a berfformiwyd ddwy flynedd ar ôl Maria Stuarda a Lucia di Lammermoor, yn dangos Donizetti ar ei orau, yn meistroli pwerau cerddorol a dramatig. Fel y dywedodd un o’r beirniaid bryd hynny:
The canvas of the drama is everywhere interesting, concise and clear.
The first act is filled with suspense; the second with terror; the third is most moving
Ysbrydolwyd y ddrama operatig, ffrwydrol o gariad annychweledig, hapusrwydd gwaharddedig, cenfigen, brad a dialedd gan ddigwyddiad hanesyddol – dienyddiad Roberto Devereux am frad, ffefryn Brenhines Elisabeth I. Ond, fel nifer o weithiau’r cyfnod, defnyddir hanes fel sylfaen yn unig i ddychymyg operatig fynd yn wallgof.
Ar ganiad saethiad y canon, mae Brenhines Elisabeth I yn difaru condemnio ei chariad, Roberto Devereux i farwolaeth ac yn canfod ei hun ar lwybr hunanddinistriol.
Efallai bod Brenhines Elisabeth I yn rheoli’r byd ond nid oes ganddi reolaeth ar ei chalon ei hun. Er mwyn amddiffyn ei henw da, mae Elisabeth (Elisabetta) wedi anfon ei hannwyl Roberto Devereux, Iarll Essex, ar berwyl milwrol i Iwerddon, lle mae’n arwyddo cytundeb heddwch gyda gwrthryfelwyr Gwyddelig, gan anufuddhau gorchmynion y Frenhines. Yn ei absenoldeb mae ei chynghorwyr, sy’n genfigennus o’i safle ffafriol â’r Frenhines, yn bachu ar y cyfle i wthio cyhuddiad o frad yn ei erbyn drwy’r Senedd. Heb yn wybod i’r Frenhines, fodd bynnag, mae Devereux mewn cariad gyda Sara, Duges Nottingham, sydd yn ei absenoldeb wedi cael ei gorfodi i uniad di-serch gyda’i ffrind Nottingham. Yn ddiweddarach, mae Sara a Devereux yn datgan eu cariad tuag at ei gilydd ond yn cydnabod nad oes dyfodol iddynt. Mae’n ymddiried ynddi i ofalu am fodrwy’r Frenhines ac mae hithau’n rhoi sgarff frodiog iddo yntau.
Wrth ddinoethi’r gwrthdaro rhwng ei dyletswyddau cyhoeddus fel rheolwr Lloegr a’i theimladau preifat fel menyw, mae Elisabeth yn gwrthod arwyddo dedfryd i farwolaeth Devereux nes y dangosir y sgarff iddi, sy’n datgelu datganiad o gariad brodiedig. Mae Nottingham yn gweld ac yn adnabod y sgarff hefyd ac mae cenfigen yn peri iddo wylltio’n gacwn. Wedi ei brifo’n ofnadwy gan y dystiolaeth amlwg hon o anffyddlondeb Devereux, mae Elisabeth yn arwyddo’r ddedfryd i farwolaeth. Yn dilyn anghydfod gartref, mae Sara yn rhuthro i San Steffan i weld y Frenhines. Mae hi’n cyflwyno’r fodrwy iddi ac yn erfyn am drugaredd ar ran Devereux. Mewn diweddglo ysgytwol, mae Elisabeth yn sylweddoli mai Sara yw ei gelyn ac mae’n ceisio atal y dienyddiad.
Er bod y plot yn cyffwrdd yn awr ac yn y man â hanes, mae gan yr opera ei hargyhoeddiad dramatig ei hun. Yn gerddorol, mae Roberto Devereux yn arddangos arddull cyfansoddiadol blodeuog, nodweddiadol Donizetti. Mae dawn Donizetti i greu melodi a deall llais dynol yn glir i bawb, ond mae’r sgôr yn mynd y tu hwnt i hynny, gan ddatgelu’r posibiliadau dramatig sydd gan y gorau o’r traddodiad bel canto i’w cynnig. Mae’r cyfuniad o destun canadwy, cymhelliant y cymeriadau sy’n amlwg i bawb ac eglurder a momentwm naturiol y stori yn gwneud Roberto Devereux yn ddarn o theatr arbennig.
Mae’r dwyster dramatig a dyluniad trawiadol y cynhyrchiad hwn, wedi ei ddylunio gan Madeleine Boyd, yn ychwanegu drama ac ysblander at ddadleniad sydd eisoes yn danbaid.
Joyce El-Khoury sy’n chwarae rhan anodd iawn Elisabetta. Mae Roberto Devereux hefyd yn cynnwys Barry Banks y rôl deitl: Justina Gringyte fel Sara, Duges Nottingham a gelyn cudd y Frenhines.
Mae Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi yn arwain yng Nghaerdydd a Birmingham ac mae James Southall yn arwain yn Milton Keynes, Plymouth, Bryste, Llandudno a Southampton.
Dewch i weld ein cynhyrchiad o Roberto Devereux y tymor hwn.