Newyddion

Dilynwch y Llwynoges gyda'n Profiad Realiti Estynedig newydd, A Vixen’s Tale

4 Hydref 2019

Mae arddangosfa ddigidol ddiweddaraf Opera Cenedlaethol Cymru yn cael ei lansio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yfory (Dydd Sadwrn 5 Hydref), i gyd-redeg â’r perfformiad o The Cunning Little Vixen. Yn dwyn yr enw, A Vixen’s Tale, mae’r gosodiad wedi’i seilio ar opera Janacek a’i ddylunio i’ch cludo i’r goedwig, lle gallwch ‘ddilyn y llwynoges’ drwy ei hamgylchedd naturiol.

Wrth fynd i mewn i’n twnnel maint person, wedi’i leoli yng Nghyntedd Glanfa, bydd technoleg realiti estynedig yn eich cludo i fyd arddull llyfr o blanhigion ac anifeiliaid, lle byddwch yn cwrdd â phob un o greaduriaid y goedwig sy’n ymddangos yn yr opera. Bydd y digwyddiad amlsynhwyraidd, rhad ac am ddim hwn, sy’n cyfuno cerddoriaeth a theatr gyda thechnoleg ddigidol arloesol yn hygyrch i bawb, gan ddarparu safbwynt newydd pleserus ar y chwedl hon.

Bydd y profiad yn apelio at bob oed a gellir ei fwynhau’n syml drwy gerdded drwy’r bwâu synhwyraidd, lliwgar, neu drwy ddefnyddio dyfeisiau symudol i ryngweithio ymhellach â’r profiad gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig a fydd yn datgloi hanesion cudd ac yn galluogi rhyngweithiadau chwareus â’r cymeriadau a’r amgylchedd. Wedi’i greu ar y cyd â’r arbenigwyr realiti estynedig, Arcade, dyma’r profiad diweddaraf mewn cyfres o brofiadau creadigol a grëwyd gan Opera Cenedlaethol Cymru. Diben y profiadau hyn yw agor y byd opera i gynulleidfa wahanol a chyfuno gwaith clasurol â thechnoleg newydd. Mae’r prosiect ymdrochol hwn yn dilyn llwyddiant gwaith digidol diweddar WNO sy’n cynnwys Freedom 360, Rhondda Rebel, Magic Butterfly ac WNO Field, ac mae’n cadarnhau safle WNO fel arloeswr gwaith digidol o fri mewn lleoliad celfyddydol.