Newyddion

Candide: Safbwynt Cyfarwyddwr

19 Mehefin 2023

‘Mewn cyfnod ansicr, mewn castell anhygoel ym mherfeddion gwlad Ewropeaidd ffuglennol, mae teulu aristocrataidd yn byw, gydag enw nad oes modd ei ynganu...’

Bydd cynhyrchiad newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru o Candide yn lansio ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru cyn bo hir, cyn mynd ar daith ledled Cymru a Lloegr. Cawsom sgwrs â’r cyfarwyddwr, James Bonas, am ei obeithion a’i safbwynt ynghylch y cynhyrchiad.

Mae CandideLeonard Bernstein, yn hanes athronyddol diamser gan Voltaire sy’n dilyn dyn ifanc sy’n ceisio llywio ei fywyd drwy drychineb ar ôl trychineb, a hynny oll wrth iddo deithio'r byd fel mellten gyda’i amrywiaeth o gymdeithion. Gall y stori ei hun fod ychydig yn ddryslyd, felly mae’r cynhyrchiad newydd yn ceisio gwneud y darn hwn gan Bernstein, nad yw’n cael ei berfformio’n aml, yn hygyrch ac yn hwyliog i gyn nifer o bobl â phosibl. Mae’r sioe ei hun yn opereta, sydd hanner ffordd rhwng opera a sioe gerdd, lle mae cantorion opera’n cael cymorth microffonau, ac nid yw’r uwchdeitlau sydd fel arfer i’w gweld uwchben y llwyfan, yn cael eu defnyddio. Serch hyd y sioe, sef dwy awr a hanner, sy’n ystyriol iawn o’r gynulleidfa (yn wahanol i fersiynau blaenorol sydd wedi para tair neu hyd yn oed bedair awr), mae'n dal i fod yr un mor heriol a chyffrous o ran y canu a’r gerddoriaeth ag unrhyw opera neu sioe arall.

Mae WNO yn trosi fersiwn Lonny Price o Candideo Oes Voltaire i fyd heddiw gyda dull newydd, amlddisgyblaethol, er mwyn apelio at gynulleidfa fodern: mae cyfuno animeiddiadau syfrdanol Grégoire Pont, gwisgoedd pync, actorion, dawnswyr, cantorion, ensemble sioe gerdd, a Chorws a Cherddorfa WNO ar y llwyfan ar yr un pryd, yn sicr o gynnig profiad theatr gwefreiddiol a fydd yn eich syfrdanu. Yn ôl James, mae’r grymoedd hyn yn ‘rhoi cyfle inni archwilio byd sy’n llawn dychymyg, drygioni, hurtrwydd a rhyfeddodau, lle gallwn newid lleoliad, cymeriad a safbwynt mewn chwinciad.’

Peidiwch â phoeni, nid oes angen deall pob manylyn o'r plot , gan ei fod mor ddryslyd ac yn datblygu yn anhygoel o gyflym. Yn hytrach, mae James yn egluro mai canolbwynt y sioe yw dathlu ‘holl hurtrwydd y nofel, sy’n dwyn i gof Monty-Python’ a ‘gwychder y darn di-drefn, amhosib, afreolus hwn sy’n gwegian’ drwy’r holl ffrwydradau creadigol o weithgaredd ar y llwyfan. Gadewch i’r holl ysblander a’r hurtrwydd eich cydio.

Efallai bod taith Candide o gwmpas y byd yn teimlo filiwn o filltiroedd i ffwrdd o realiti presennol y 21ain ganrif, yn ôl James, ‘mae golwg ddychanol a miniog Voltaire ar y "byd gorau posibl" hwn yn parhau i fod mor ffyrnig, perthnasol a dirgrynol ag erioed.’ Yn wledd i’r llygaid a’r clustiau, mae fersiwn Bernstein o stori Candide yn berthnasol i ni hyd heddiw, yn adlewyrchu ein natur benderfynol a dyfal barhad ein hunain i oroesi cyfnodau heriol a llywio cysylltiadau newidiol.

Peidiwch â cholli’r cyfle i brofi Candide, sy’n agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 22 Mehefin, cyn mynd ar daith i Truro, Llandudno, Rhydychen, Birmingham ac Aberhonddu.